91热爆

M Wynn Thomas - yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd

Ceri Wyn Jones a'r Archdderwydd Selwyn Iolen yn dilyn y coroni yn Y Bala

13 Hydref 2009

Er lles ein diwylliant rhaid osgoi yr hyn a ddigwyddodd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala eleni yn 么l un o'r beirniad.

Yn yr Eisteddfod honno gwobrwywyd cerddi Ceri Wyn Jones yn y mesurau caeth er mai cerddi yn y mesurau rhydd a gysylltir yn bennaf 芒 choron yr Eisteddfod Genedlaethol.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Tra'n cydnabod bod y cerddi buddugol gan Ceri Wyn Jones yn "agos at fod yn gampwaith" dywedodd Yr Athro M Wynn Thomas ar Raglen Dewi Llwyd fore Sul Hydref 11, 2009, ei bod "yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau dyledus barch i'r canu rhydd yn ogystal 芒'r canu caeth" yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae angen amrywiaeth arnom ni ar ran ein canu a fyddwn i ddim am weld yr Eisteddfod, felly, mewn rhyw sefyllfa ble, i bod pwrpas, mai dim ond y canu caeth sy'n cael ei gydnabod.

"O ddifri calon , er lles ein diwylliant ni, mae'n rhaid osgoi rwy'n credu y fath ddigwyddiad yr eildro."

M Wynn Thomas

Fel rheol mae amodau cystadleuaeth y goron yn gwahardd cerddi yn y mesurau caeth ond ni chafodd y cymal hwnnw ei gynnwys yn rhestr testunau Eisteddfod Y Bala eleni a'r un modd y flwyddyn nesaf yng Nglynebwy.

Atyniad yr America

Yn ystod ei sgwrs bu M Wynn Thomas yn s么n hefyd am ei gefndir yn Y Rhondda, ei ddiddordeb mewn chwaraeon a'i waith yngl欧n 芒 llenyddiaeth Eingl Gymreig a llenyddiaeth Americanaidd gan ddisgrifio cyfnod a dreuliodd ym Mhrifysgol Havard yn yr Unol Daleithiau fel un o gyfnodau hapusaf ei fywyd.

"Roeddwn i'n teimlo yn fanno fy mod i wedi cyrraedd pwynt go arbennig . . . ond . . . gallen i byth adael Cymru . Fan hyn rwy'n gartrefol. Un o fan hyn ydw i a fan hyn fydda i," meddai.

Dywedodd i'w ddiddordeb yn yr America darddu o gael ei ddysgu yn y coleg gan Americanwr ac iddo weld bod consyrn llenorion canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn yr America yn debyg iawn i'n consyrn ni yng Nghymru.

"Sef shwd oedd cenedl yn mynd i gael ei mynegi a'i darlunio mewn llenyddiaeth boed Melville neu'n Hawthorn neu'n Whitman neu'n Twain ac yr oedd y modd yr oedd y llenyddiaeth yma yn cael ei thrin yn rhyw fath o garreg ateb i'm profiadau i ar y pryd so fe ges i fy nghyffroi a fy hudo gan y profiad hwnnw . . . a chael . . . bod y gymdeithas hon yn gymdeithas nid annhebyg mewn rhai ffurf i Gymru.

"Roeddwn i'n hoff iawn o'r wedd ddemocrataidd, radical, ar y gymdeithas. Roeddwn i'n hoff o'r ffrydiau radicalaidd ynddi hi felly roedd yna rhyw ramant, rhyw antur, yn ogystal 芒 theimlad od o agosatrwydd y cyfuniad yna."

Yn ei sgwrs hefyd bu'n siarad am gyflwyno ei ferch, Elin Manahan Thomas, i rygbi ac am "antur" ei gyrfa yn gantores gan ddatgelu mai gan ei mam a'i hen fam-gu,oedd yn gantores opera, a hen dad-cu, a oedd yn gyfansoddwr, a'i thad-cu oedd yn denor "eithriadol o alluog" yr etifeddodd Elin ei doniau cerddorol.

Y Gymru hon

Dywedodd hefyd beth sy'n ei blesio a'i siomi am Gymru heddiw;

"Beth sy'n fy mhlesio, a dyna sy'n gwneud imi deimlo'n gartrefol yma, yw agosatrwydd y Cymry a hynny fel mynegiant o'r ymdeimlad o gydraddoldeb rwy'n ei werthfawrogi yn fawr fel un o brif nodweddion ein cymdeithas . . .

"Beth sy'n gas gen i? Wel, gai grynhoi agosatrwydd a chynhesrwydd y Cymry fel mynegiant yn ogystal o'u taeogrwydd, o'u rhagrith nhw, o'u diffyg safonau nhw, o'u diffyg urddas nhw, o'u diffyg hunan-barch nhw a'u hisraddoldeb nhw . . . ac mae'r 'nhw' yn fy nghynnwys i," meddai.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.