I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Bu'r llenor a'r beirniad llenyddol Angharad Price yn pwyso a mesur nofel gyntaf dadleuol Saunders Lewis a'i lle o fewn y traddodiad llenyddol Cymraeg.
Pan gyhoeddwyd Monica yn 1930 bu'r ymateb yn danllyd iddi gyda nifer o feirniaid amlwg y cyfnod yn ei chyhuddo o fod yn gyfrol anfoesol.
Bu Angharad Price yn trafod yr ymateb hwnnw ar Raglen Dei Tomos ar 91热爆 Radio Cymru ar drothwy traddodi darlith o'i heiddo, Monica Mewn Cyffion ym mhrifysgol Llanbedr-pont-Steffan fis Mawrth 2009.
'Tomen dail'
"Fe gafwyd ymateb chwyrn iawn gan ddau adolygydd; un ohonyn nhw oedd Tegla Davies y nofelydd a gweinidog a'i ymateb o yn cael ei weld yn nodweddiadol o'r hyn oedd yn cael ei alw yn Biwritaniaeth Gymreig y cyfnod," meddai wrth dei Tomos.
"Yr oedd o'n dadlau mai dadansoddiad o domen dail oedd y nofel!
"Ac un arall digon chwyrn ei ymateb oed Iorwerth Peate, hefyd yn cwyno am yr elfen anfoesol yn y nofel ac yn dweud ei fod o'n teimlo'n besimistaidd iawn am ddyfodol llenyddiaeth Gymraeg os mai dyma'r math o beth oedd yn cael ei sgwennu."
Ond dywedodd Angharad Price, sy'n uwch ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, mai'r oedd yn "eironig" am yr ymateb oedd bod Monica "yn nofel foesol iawn" am ferch niwrotig yn cael magwraeth gysgodol yng Nghaerdydd ond yn dwyn cariad ei chwaer ac yn ei briodi a mynd i fyw i sbwrbia Abertawe.
"Ac mae Saunders Lewis yn condemnio y bywyd bas, corfforol, trachwantus sydd gan Monica.
"Esiampl negyddol oedd Monica mewn gwirionedd," meddai.
Iselder cyn geni
"Yn sicr mae'r awdur yn feirniadol iawn ohoni," ychwanegodd.
Dywedodd fod y nofel hefyd yn astudiaeth o pre natal depression y sylweddolir erbyn heddiw bod nifer fawr o ferched yn dioddef ohono.
Ond yr oedd i'r nofel ei diffygion hefyd.
". . . fe allech chi efo dipyn bach mwy o dosturi . . . weld y nofel yn bortread o'r cyflwr hwnnw ond mae gen i ofn nad yw'r tosturi hwnnw gan fwyaf yn dod allan yn llais yr awdur," meddai.
Anodd cydymdeimlo
Eglurodd ei bod yn anodd iawn cydymdeimlo 芒 Monica os yn dilyn safbwynt yr awdur a chymharodd ei ymdriniaeth ef ag Angharad Tomos yn ei nofel hithau, Wrth Fy Nagrau I lle mae'n ailgyflwyno Monica fel claf mewn ward iechyd meddwl.
"Ac mewn ffordd mae Monica yn llawer iawn mwy hoffus yn y nofel honno gan Angharad Tomos [ac] yn cael ei phortreadu gyda llawer mwy o gydymdeimlad na chan Saunders Lewis yn y nofel wreiddiol," meddai.
Yn ifanc
Wrth drafod bwriad Saunders Lewis yn sgrifennu Monica dywedodd mai dyn ifanc oedd o ar y pryd ac ar gychwyn ei yrfa lenyddol a hynny'n peri i rai awgrymu mai "ymarferiad" oedd y nofel.
"Hynny yw, ei fod o'n teimlo fod angen moderneiddio y nofel Gymraeg ers dyddiau Daniel Owen a'i fod yn meddwl mai ef oedd yr un i wneud hynny.
"Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn nofelydd wrth reddf. Dwi'n meddwl ei fod yn ddyn rhy glasurol neu rhy resymegol ei feddwl i fod yn nofelydd gwirioneddol lwyddiannus," meddai.
Eglurodd iddi alw ei darlith yn Monica Mewn Cyffion oherwydd ei thyb bod meddwl rhesymegol Saunders Lewis wedi ffrwyno gormod ar ryddid cymeriad Monica yn y nofel.
"Mi fuaswn i'n cymharu hynny . . .[ag] . . . Anna Karenina. Mae Anna Karenina yn ferch odinebus ac roedd Tolstoi yn gwrthwynebu hynny . Yr oedd o'n wrthwynebus i odineb. Roedd o eisiau condemnio Anna Karenina.
"Wel, y gwahaniaeth rhwng Tolstoi a Saunders Lewis fel nofelwyr yw bod Anna Karenina wedi hudo Tolstoi neu roedd Tolstoi wedi bod yn nofelydd digon hael i roi rhyddid i Anna Karenina ddatblygu yn 么l ei hanian ac o ganlyniad wedi gallu cydymdeimlo efo hi."
Ond dywed, y munud y mae Saunders Lewis yn dechrau cydymdeimlo 芒'i gymeriad bod ei resymeg a'i foesoldeb yn ei ffrwyno.
"Ac o ganlyniad dydi'r profiad i ddarllen Monica fel nofel ddim yn brofiad boddhaol."
Dywedodd hefyd nad yw'n si诺r a yw'r dechneg o Monica yn cyffesu ei hanes i gymydog yn gweithio ychwaith.
"Mae'n golygu bod y nofel yn statig iawn. Mae'n croniclo y gorffennol am ran helaeth o'r nofel a dydw i ddim yn teimlo fod hynny yn cyfrannu at lwyddiant y nofel.
Llais Monica ydym ni yn ei glywed y rhan fwyaf o'r amser ond beth ydych chi'n ei gael ydi ymyrraeth gan yr awdur bob hyn a hyn, sy'n ein rhwystro ni wedyn 芒 chydymdeimlo 芒'r llais yma sy'n dweud y stori.
"Felly, mae gennych chi sylwadau bach bob hyn a hyn sy'n ddilornus neu'n ddirmygus , yn tynnu'r hanes, yn rhoi pin yn swigan Monica ac mae hynny 'n golygu nad ydi hi'n gymeriad mawr o gwbl.
"Dydi hi ddim yn gymeriad yr yda ni'n gallu cydymdeimlo 芒 hi . Dydi hi ddim yn gymeriad trasig o bell ffordd."
Gwahanol i Blodeuwedd a Siwan
Aeth ymlaen i holi pam nad yw Monica yn cael yr urddas a gaiff cymeriadau Blodeuwedd a Siwan yn nram芒u Saunders Lewis.
"Efallai mai'r ateb ydi nad oedd Saunders yn hoffi statws gymdeithasol Monica. Hynny ydi, mae'r nofel nid yn unig yn gondemniad ar bersonoliaeth arbennig ond ar ddosbarth arbennig o bobol sef y dosbarth canol achos cymeriadau uchelwrol mewn gwirionedd oedd Blodeuwedd a Siwan ac o ganlyniad roedden nhw'n ennyn urddas, yn ennyn cydymdeimlad Saunders.
"Merch o'r dosbarth canol is ydi Monica a dwi'n teimlo bod y nofel yn gondemniad ar y dosbarth hwnnw yn ogystal ag ar fath arbennig o ferch.
"Hynny ydi, mae snobyddiaeth Saunders Lewis yn golygu nad ydi o'n gallu cydymdeimlo 芒 hi fel y mae o wedi gallu gwneud efo Blodeuwedd neu Siwan," meddai.
Trafod yn betrus
Dywed mai "yn betrus iawn" y mae'r nofel yn cael ei thrafod yn llythyrau Saunders Lewis at Kate Roberts ac mae'n ofni ei barn cyn anfon drafft o bennod ati.
"Achos mi'r oedd hi yn nofel fentrus iawn ar y pryd - rhaid inni beidio ag anghofio hynny.
[Yr oedd Saunders Lewis] yn eofn iawn yn ei ddull arferol. Yn herfeiddiol iawn yn cyhoeddi'r fath nofel yn y Gymraeg ar y pryd.
"Kate wedyn yn dod yn 么l yn llawn - wn芒i ddim dweud seboni - yn llawn clod ond hefyd yn feirniadol, yn fwy na dim, o'i harddull hi [ac] mae hynny wedi cae lei feirniadu dros y blynyddoedd, fod ei harddull ychydig yn startslyd neu'n drwsgl," meddai.
"Rheswm arall y condemniwyd y nofel oedd . . . [ei] gosod . . . yn swbwrbia Abertawe. Pam gwastraffu nofel Gymraeg yn trafod y fath gefndir? Hynny ydi, beth sy'n Gymreig yn y nofel? Pam y dylai awdur o Gymro Cymraeg fod yn trafod cymdeithas ddi-Gymraeg faestrefol yn un o ddinasoedd Cymru?"
Eithriadol o ddiddorol
Ond wedi olrhain hyn oll dywedodd Angharad Price ei bod yn nofel "eithriadol o ddiddorol" sy'n haeddu edrych arni droeon ac wrth drafod y beirniadu arni dywedodd nad oed "llawer iawn o Gymraeg" rhwng un o'r beirniaid, Iorwerth Peate a Saunders Lewis beth bynnag.
"A dweud y gwir mae rhywun yn teimlo fod yna lot o'r feirniadaeth ar Monica yn falais personol tuag at Saunders Lewis," meddai.
Yr oedd Saunders Lewis ar y pryd yn berson cymharol anadnabyddus er ei fod wedi cyhoeddi cyfrol feirniadol fentrus am Williams Pantycelyn.
"A [mae] dylanwad Pantycelyn yn drwm iawn ar Monica gyda llaw," meddai gan gyfeirio at Ductor Nuptiarium - llyfr cyfarwyddyd priodasol yr emynydd.
"Mae'n ddiddorol fod un o eiconau Methodistiaeth wedi ysbrydoli nofel a gafodd ei chondemnio ar sail foesol yn nes ymlaen," meddai Angharad Price.