Coeden mewn parc yng nghanol Caerdydd a ysbrydolodd yr actor Meilyr Si么n i roi cynnig ar fod yn awdur - ac yng nghysgod yr union goeden honno y lansiodd y cyntaf mewn cyfres o lyfrau i blant, Cyfres Parc Deri.
Dywedodd Meilyr fod y gyfres wedi ei hanelu tuag at blant rhwng pedair a saith oed ac mai dyma'r tro cyntaf iddo gyhoeddi llyfr.
"Mi wnes i ychydig o waith rhan amser yn 2004 a 2005 lawr mewn meithrinfa yn Nhreganna yng Nghaerdydd. Ro'n i'n arfer mynd 芒'r plant o'r feithrinfa mas i Thompson Park ac mi fyddwn i'n dweud wrthynt am edrych ar Mr Coeden, sef coeden gyda wyneb hen 诺r wedi ei cherfio arni yno.
"Ro'n i'n mynd tu 么l y goeden ac esgus siarad gyda'r plant fel y goeden ac mi ges i wedyn y syniad o droi'r goeden yn gymeriad ynghyd 芒'r anifeiliaid yr oeddem ni'n eu gweld yn y parc - yr hwyaid, adar a'r gwiwerod llwyd - a'u rhoi mewn straeon," meddai Meilyr sy'n dod o Neuaddlwyd yng Ngheredigion ond sydd bellach yn byw gyda'i wraig Amanda a'u mab saith mis oed, Daniel, yn y Barri.
Derwyn Derw, Dwynwen y Draenog, Lleucu'r Wiwer Lwyd, Rhiannon y Robin, Waldo'r Gwningen, C锚t Cwac yw rhai o'r cymeriadau sy'n byw ym Mharc Deri y llyfr ac yn y gyfrol gyntaf, Ysbryd y Sbwriel a gyhoeddir gan Gomer mae Lleucu'r Wiwer Lwyd yn dod o hyd i fag sbwriel sydd weid ei adael yn y parc ac yn cael hwyl yn codi ofn ar ei chyfeillion.
Ond, buan iawn y try'r chwarae yn chwerw wrth i Lleucu fynd yn sownd yn y bag papur cyn gorfod clirio'r holl ysbwriel fel cosb am godi ofn ar ei ffrindiau.
Parchu'r amgylchedd
Ac yntau wedi ei fagu yng nghefn gwlad ond yn awr yn byw mewn tref dywedodd Meilyr fod cynnwys y parc yn y gyfres yn bwysig iddo a chynnwys elfennau am bwysigrwydd gwarchod a pharchu'r amgylchedd.
"Mae'r amgylchfyd yn bwysig i mi yn bersonol, ac mae pethau amgylcheddol yn fy mecso i. Mae'r ail gyfrol yn y gyfres, Pryderi Mewn Picl, yn ymwneud 芒 hafau sych a newid yn yr hinsawdd amgylcheddol gyda'r pwll d诺r yn mynd yn llai a'r pysgodyn yn dioddef.
"Mae'r drydedd gyfrol Bwyd i'r Bwlis yn trafod y gaeaf yn y parc a pha mor bwysig yw hi i fwydo'r anifeiliaid pan fo'r tywydd yn galed ac yn oer. Felly mae pob un o'r llyfrau yn y gyfres yn ymwneud 芒'r amgylchfyd sydd yn is thema sy'n rhedeg drwy'r gyfres," meddai Meilyr sydd ar hyn o bryd yn paratoi i ddechrau ffilmio cyfres newydd o'r ddrama deledu, Teulu.
Pobl go iawn
Ond nid chwarae plant yn unig a geir yn y gyfres hon wrth i'r awdur ddefnyddio cymeriadau mytholegol, llenyddol a hanesyddol Cymreig yn sail i'w gymeriadau.
"Mae yna elfennau gwahanol i bob cymeriad sy'n eu cysylltu 芒'u hysbrydoliaeth. Mae Waldo'r Gwningen Wen, fel Waldo Williams, yn heddychwr, call, llawn egwyddorion. Mae Rhiannon y Robin Goch yn deillio o'r mabinogi gyda adar Rhiannon a'u c芒n swynol, ond ro'n i eisiau troi hynny ar ei phen, ac felly mae Rhiannon wrth ei bodd yn canu, ond ei bod hi'n canu mas o diwn! Ac mae C锚t Cwac a Bobi Barlat wedi eu selio ar Kate Roberts a Bobi Jones."
Yn cyd-fynd 芒'r stori mae lluniau lliw gan Maria Royse ac wedi mwynhau troedio trwy borfa Parc Deri mae cyfle i blant barhau 芒'r hwyl drwy fynd ati i goginio rysiat sy'n cyd-fynd 芒'r stori yng nghefn y llyfr.
Bydd chwe llyfr yng nghyfres Parc Deri.
- . Ysbryd y Sbwriel gan Meilyr Si么n. Cyfres Parc Deri. Gomer 拢4.99.