Cyfrol o farddoniaeth, nofel a llyfr taith sydd wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2010.
Mewn seremoni yng Ng诺yl y Gelli cyhoeddwyd mai Banerog gan Hywel Griffiths, Naw Mis gan Caryl Lewis a Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn Marw gan John Davies ydi'r tair ar y rhestr fer yn Gymraeg.
Y tri beirniad ydi John Gwilym Jones, Aled Lewis Evans a Branwen Gwyn.
Y llyfrau
- Banerog gan Hywel Griffiths (Y Lolfa) Detholiad o gerddi caeth a rhydd gan y bardd a'r ymgyrchydd gwleidyddol, Hywel Griffiths. Mae'r gyfrol yn cynnwys cerdd fuddugol y Goron a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008. Mae'r pynciau'n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru.
- Naw Mis gan Caryl Lewis ( Y Lolfa) Mae'n cymryd naw mis i greu bywyd newydd ond cymer naw mis hefyd i berson farw ... Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a'i chymuned. Dyma nawfed nofel yr awdures a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda'i chyfrol Martha, Jac a Sianco.
- Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw gan John Davies (Y Lolfa) Cyfrol gynhwysfawr sy'n s么n am 100 o lefydd yng Nghymru y mae'n rhaid i chi ymweld 芒 nhw, yn 么l yr hanesydd John Davies. Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, dyma lyfr sy'n rhoi cipolwg ar safleoedd hanesyddol fel Pentre Ifan a chastell Maenorb欧r; campau peirianyddol fel pontydd Menai a Phont Cysyllte, a chanolfannau twristaidd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen a Phortmeirion.