Nofel dditectif - yr eLyfr Cymraeg cyntaf
Yn ogystal a bod yn nofel gyntaf ei hawdur mae nofel dditectif newydd Geraint Jones yr eLyfr Cymraeg cyntaf hefyd - ar gael i'w dadlwytho i'w darllen ar beiriant eLyfr.
Hi hefyd yw Llyfr y Mis, Cyngor Llyfrau Cymru, Mis Mawrth 2009.
Yn ddarllenwr brwd nofelau ditectif gwelai Geraint, o Dal-y-bont, Ceredigion, brinder llyfrau o'r fath yn y Gymraeg ac aeth ati i sgrifennu un ei hun - ac mae ganddo un arall ar y gweill hefyd i ddilyn ei nofel gyntaf.
Mae'r ddwy wedi eu lleoli yn Aberystwyth, y gyntaf ymhlith myfyrwyr y Brifysgol yno - byd sy'n dra chyfarwydd iddo ac yntau wedi bod yn warden neuadd breswyl yno.
Mae'r stori wedi ei hoelio ar lofruddiaeth myfyrwraig, Elenid Lewis, sy'n cerdded adref ar ei phen ei hun o ddawns G诺yl Ddewi ar hyd llwybr tywyll i neuadd breswyl Glan-y-m么r.
Ar drywydd y llofrudd mae'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "t卯m dibrofiad Heddlu Dyfed-Powys".
Pethau i'w cuddio
"Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, fe ddaw i'r amlwg fod gan Elenid, ei ffrindiau a'i theulu lawer i'w guddio. Mae'r gwaith ymchwil yn arwain yr heddlu ar hyd a lled Cymru - at gapel yn Aberaeron, plasty crand yn Nyffryn Aman, cartref hen bobl yng Nghaerdydd - yn ogystal ag is-fyd Caer a pherfeddion Llundain, wrth iddynt geisio datrys y dirgelwch. Ond wrth ymchwilio'n ddyfnach, mae'r stori'n ein harwain ar hyd sawl llwybr gwahanol," meddai'r awdur.
"Mae'r nofel hon yn rhywbeth y medrwch chi ei ddisgrifio fel 'police procedure' wrth i ni ddilyn y t卯m yn ystod eu hymchwiliad," ychwanegodd.
"Ar yr olwg gyntaf, mae datrys y llofruddiaeth yn ymddangos yn eitha' syml, ond fel sy'n digwydd mewn llawer o nofelau ditectif, mae'r plot yn eitha' cymhleth ac mae'r rheswm pam mae'r ferch wedi'i lladd braidd yn annisgwyl," meddai.
Profiad uniongyrchol
Gan iddo fod yn warden Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth rhwng 1997 a 2003, fe gafodd yr awdur brofiad uniongyrchol o fywyd myfyrwyr, profiad a gwybodaeth a fu'n gymorth iddo sgrifennu'r nofel.
"Mi oedd y ffaith 'mod i wedi bod yn warden wedi rhoi agoriad llygaid i mi, o ran y ffordd roedd myfyrwyr yn ymddwyn ac ati. Ac felly roedd yn rhywbeth roeddwn i'n medru ysgrifennu amdano," meddai Geraint a fagwyd ger Rhydaman, man arall sy'n cael sylw blaenllaw yn y nofel.
"Ond er mwyn ysgrifennu am waith yr heddlu, roedd yn rhaid i mi wneud mwy o waith ymchwil. Mi fues i'n siarad 芒 phlismyn ac yn edrych ar lawer o dystiolaeth yn y Llyfrgell Genedlaethol, oherwydd mae'n rhaid i'r ffeithiau am eu gwaith a'r modd y maent yn mynd ati i holi tystion fod yn gywir," meddai.
Cael blas
Ond, ac yntau bellach wedi ymddeol o'i swydd yn ddarlithydd yn yr adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, pam yr aeth ati i ysgrifennu nofel dditectif?
"Mae gen i ddiddordeb mawr mewn llyfrau ditectif Saesneg, a chan nad ydw i'n chwarae golff na dim byd felly i lenwi fy amser, mi benderfynais fynd ati i ysgrifennu nofel!" atebodd gan wenu.
"Wedi i chi ddechrau ysgrifennu, rydych chi'n cael blas arno, ac rwy'n gobeithio y bydd darllenwyr y nofel hefyd yn cael blas arni."
eLyfr cyntaf
Hwn hefyd fydd y llyfr cyntaf yn y Gymraeg i fod ar gael ar ffurf eLyfr.
Meddai Lefi Gruffudd o'r Lolfa: "Rydym ni'n falch iawn yn y Lolfa o fedru cynnig gwasanaeth o'r math hwn ar ein gwefan. Mae Y Llwybr ar gael i'w llwytho ar ffurf dogfennau EPUB sy'n addas i'w darllen ar y rhan fwyaf o declynnau eddarllen ac fe fydd ar gael am bunt yn rhatach na phris y llyfr yn y siopau. Er bod nifer o eLyfrau Saesneg wedi bod ar werth ers misoedd, dyma'r tro cyntaf hyd y gwn i y bydd modd prynu nofelau Cymraeg ar ffurf electronig."