91热爆

T Llew Jones - miloedd am ymuno i'w gofio

T Llew Jones

01 Hydref 2009

Bydd o leiaf 13,000 o blant ar hyd a lled Cymru yn cymryd rhan mewn diwrnod cenedlaethol i gofio y diweddar T Llew Jones ar Hydref 9 eleni.

Bydd gweithgareddau mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad ar y diwrnod - y diwrnod ysgol agosaf at ddydd ei ben-blwydd, Hydref 11.

Ar ddiwrnod ei ben-blwydd bydd gwasanaeth arbennig ym mhentref Chwilog o ble daeth y syniad gwreiddiol i gynnal diwrnod i ddathlu cyfraniad awdur llyfrau plant mwyaf cynhyrchiol y Gymraeg a fu farw fis Ionawr 2009.

'Royal Charter'

A chan ei bod hi hefyd yn 150 o flynyddoedd ers llongddrylliad y Royal Charter oddi ar arfordir M么n yn 1859 dywed Cyngor Llyfrau Cymru i nifer o ysgolion ddewis gwneud gwaith creadigol yn seiliedig ar y gyfrol Ofnadwy gan T. Llew Jones, sy'n adrodd hanes y drychineb.

Barod, mae'r Cyngor Llyfrau wedi dosbarthu taflen liwgar yn rhoi hanes bywyd a gwaith y nofelydd, stor茂wr a bardd a thaflen ar gyfer ysgolion yn cynnwys syniadau creadigol ar sut i ddathlu'r achlysur.

Trefnwyd cystadlaethau llenyddol hefyd, fel llunio parodi ar y gerdd Cwm Alltcafana cherdd yn dechrau gyda'r geiriau Ddoi di gen i . . . ynghyd 芒 llunio stori'n seiliedig ar T芒n ar y Comin.

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi yn Barddas a'r stori fuddugol yn Cip, un o gylchgronau'r Urdd.

Digon o weithgarwch

"Gwyddom eisoes fod o leiaf 13,000 o blant mewn ysgolion ledled Cymru yn cymryd rhan yn y dathliadau a disgwylir y bydd llawer mwy yn ymuno yn y dathlu. Mae digon o weithgarwch hefyd yn digwydd mewn llyfrgelloedd a siopau," meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru.

A chan mai disgyblion Ysgol Chwilog, Gwynedd, drawodd ar y syniad yn y lle cyntaf o gael Diwrnod Cenedlaethol i gofio T. Llew Jones, bydd yr ysgol yn agor ei drysau i bobl y pentref a gwahoddedigion ar y diwrnod i ddod i weld gwaith y plant ar T Llew Jones.

"Y plant eu hunain gafodd y syniad ac mae hynny'n arwydd o'r mwynhad maent wedi'i gael dros y blynyddoedd o ddarllen ei lyfrau," meddai Edward Elias, Pennaeth yr ysgol, pan wyntyllwyd y syniad gyntaf.

Ac ar ddydd Sul, Hydref 11, diwrnod ei ben-blwydd, bydd oedfa arbennig yng Nghapel Uchaf, Chwilog, lle bydd Myrddin ap Dafydd a Menna Lloyd Williams yn annerch a diolch am fywyd a gwaith yr awdur.

Bydd dathliadau hefyd yng Ngheredigion yn ystod y penwythnos.

Ddim yn syndod

"Dyw hi ddim yn syndod o gwbl fod ymateb mor syfrdanol wedi bod i'r diwrnod i goff谩u T. Llew Jones. Mae'r gweithgareddau fydd yn digwydd ym mhob cwr o Gymru yn brawf o flaengaredd ysgolion a brwdfrydedd heintus yr athrawon yn ogystal 芒 gwir awydd i goff谩u un o fawrion llenyddiaeth plant," meddai Menna Lloyd Williams.

"Byddai T Llew wrth ei fodd o wybod y bydd plant o bob rhan o Gymru yn dathlu ei gyfraniad mawr i faes llyfrau plant," ychwanegodd.

Athro a phrifardd

Athro oedd T Llew Jones wrth ei alwedigaeth ond enillodd ei blwyf fel prif lenor plant Cymru gan ennill Gwobr Tir na n-Og ddwywaith gan gynnwys y wobr y tro cyntaf y'i dyfarnwyd yn 1976.

Enillodd hefyd Dlws Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Yr oedd hefyd yn brifardd ac yn un o gynganeddwyr gorau'r Gymraeg ac wedi sgrifennu nifer o lyfrau i oedolion hefyd.

Yr oedd yn 93 oed pan fu farw fis Ionawr 2009.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.