Bethan Jones Parry - cyn Bennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus Heddlu Gogledd Cymru - ydi Rheolwraig newydd canolfan Cae'r Gors.
Mae Bethan newydd gychwyn ar ei gwaith wedi saith mlynedd mewn swydd flaenllaw gyda'r heddlu. Cyn hynny bu'n ddarlledwraig ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.
Cae'r Gors yn Rhosgadfan ger Caernarfon yw hen gartref y llenor a'r nofelydd Kate Roberts ac yno y sefydlwyd Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn 2007.
Cymaint i'w gynnig
Wrth gychwyn ar ei gwaith fis Mawrth 2009 meddai Bethan:
"Dwi'n edrych ymlaen yn arw at weithio mewn ardal sydd drws nesaf i'r un ble mae llawer o'm gwreiddiau teuluol. Mae Cae'r Gors yn ganolfan sydd yn cynnig cymaint i'r gymuned leol yn ogystal ag i'r genedl gyfan. a phleser fydd adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd yno eisoes."
Yn enedigol o Langollen, cafodd Bethan ei magu yn Eifionydd gan fynychu ysgol gynradd Chwilog cyn symud i Ysgol Dyffryn Nantlle ac ymlaen wedyn i astudio'r gyfraith a newyddiaduraeth ym Mhrifysgolion Cymru yn Aberystwyth a Chaerdydd.
Roedd yn un o gyflwynwyr newyddion cyntaf S4C a bu'n ddarlithydd newyddiaduraeth yn Y Coleg Normal ac wedyn Brifysgol Cymru, Bangor, lle bu'n gyfrifol am sefydlu y cyrsiau newyddiadurol cyntaf erioed trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Bethan bellach yn byw ym Mhencaenewydd yn Eifionydd, yn briod a chanddi dri o blant.
Dywedodd y bydd gweithio yng Nghae'r Gors yn cynnig sialensau gwahanol iawn i'r rhai wynebodd tra'n gweithio i'r heddlu.
Datblygiadau
Wrth groesawu'r penodiad dywedodd Dewi Tomos, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cae'r Gors:
"Rwy'n hynod falch i ni fedru penodi rhywun o gefndir a phrofiad Bethan. Edrychaf ymlaen i weld datblygiadau cyffrous pellach fydd yn adeiladau ar y sylfaen a osodwyd gennym. Mae'n swydd gyffrous a rydw i'n ffyddiog y bydd Bethan yn gosod Cae'r Gors fel un o safleoedd treftadaeth bwysicaf Cymru."
Croesawyd y penodiad hefyd gan Hywel Roberts sy'n monitro'r gwaith yng Nghae'r Gors ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
"Dwi'n hynod hapus efo'r penodiad ac efo'r ymateb gwych fu i'r hysbyseb hefyd a dweud y gwir. O ystyried ei holl brofiadau dwi'n sicr y bydd Bethan yn gwneud cyfraniad allweddol ac adeiladol i ddatblygu'r ganolfan," meddai.
Agorwyd y ganolfan yng Nghae'r Gors yn 2007 gyda'r t欧 gwreiddiol wedi ei adfer a'i ddodrefnu yn debyg i'r hyn oedd yn ystod plentyndod Kate Roberts ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Plentyndod
Yn ferch i chwarelwr ganwyd Kate Roberts yn 1891 a threuliodd ei phlentyndod ym mwthyn Cae'r Gors yn Rhosgadfan - ardal sy'n ganolog i'w holl weithgarwch llenyddiol.
Yn feistres ar y stori fer Gymraeg cyhoeddodd 16 o lyfrau i gyd gan gynnwys rhai o nofelau pwysicaf y r iaith Gymraeg a enillodd iddi yr enw, "Brenhines Ll锚n Cymru".
Dros y blynyddoedd cyhoeddwyd trosiadau Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Siapanaeg a Hebraeg o'i gwaith.