91Èȱ¬

Gwerthwyr Gorau Hydref 2009

Rhan o glawr nofel newydd Tony Bianchi

04 Tachwedd 2009

Mae rhestr gwerthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru mis Hydref yn un arbennig o flasus gyda dwy nofel gan ddau o'n nofelwyr mwyaf nodedig ar y brig - Tony Bianchi a Llwyd Owen.

Fel pe na bai hynny'n ddigon mae cyfrol gan Eigra Lewis Roberts yn drydedd - nofel lled hunangofiannol yw'r disgrifiad o Hi a Fi ac rwy'n rhagweld diddordeb mawr ynddi hi gyda'r darllenydd, yn ôl yr awdur, yn gorfod dyfalu beth sy'n wir a beth sy'n ffrwyth dychymyg!

Pedwaredd nofel ar y rhestr ydi Mân Esgyrn gan Sian Owen a ganmolwyd yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen 2009.

Cyfrol arall yr ydw i'n edrych ymlaen at ei blasu ydi detholiad Gwyn Griffiths o gerddi Evan James, awdur Hen Wlad fy Nhadau. Fe fydda nhw'n newydd i'r rhan fwyaf ohonom ac o ragflas a gefais i yn hynod o ddifyr.

Gyda'r Nadolig ar y gorwel agos ni all hunangofiannau fod ymhell a'r cyntaf i gyrraedd glan yw Hunangofiant Hen Wanc dwys a dadlennol David R Edwards 'Datblygiad'.
Glyn Evans

Dyma'r rhestr gyflawn a gyhoeddwyd Tachwedd 4.

  1. Chwilio am Sebastian Pierce, Tony Bianchi (Gwasg Gomer) 9781843239901 £7.99

  2. Mr Blaidd, Llwyd Owen (Y Lolfa) 9781847711762 £7.95

  3. Hi a Fi, Eigra Lewis Roberts (Gwasg Gomer) 9781848510609 £7.99

  4. Cerddi Evan James/The Author of Our Anthem, Gwyn Griffiths (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272395 £8.50

  5. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor y Cofi, Dewi Rhys (Y Lolfa) 9781847711885 £3.95

  6. Atgofion Hen Wanc - Hunangofiant Dave Datblygu, David R. Edwards (Y Lolfa) 9781847711892 £6.95

  7. Lloffion Llŷn, W. Arvon Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272388 £8.50

  8. Mân Esgyrn, Siân Owen (Gwasg Gomer) 9781848511507 £7.99

  9. Golwg Arall, Dic Jones (Gwasg Gomer) 9781843230137 £7.99

  10. Dyddiadur America a Phethau Eraill, D. Densil Morgan (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272616 £5.50

LLYFRAU PLANT

  1. Dawns yr Eliffantod - Taith i India, Theresa Heine (Llyfrau Barefoot Cymru Cyf) 9780955265976 £6.99

  2. Cyfres Smot: Smot yn yr Eira, Eric Hill (Gwasg Gomer) 9781848511088 £3.99

  3. Geiriau Sali Mali: Nadolig Sali Mali, Dylan Williams (Gwasg Gomer) 9781848511194 £3.99

  4. Geiriau Sali Mali: Gwyliau Sali Mali, Dylan Williams (Gwasg Gomer) 9781848511200 £3.99

  5. Nadolig Llawen/Merry Christmas, Glyn Saunders Jones, Gill Saunders Jones (Atebol) 9781907004193 £3.99

  6. Mr Cadno Campus, Roald Dahl (Rily Publications) 9781904357131 £4.99

  7. Cyfres Lliw a Llun: Coblynnod a'r Wrach! Kaye Umansky (Dref Wen) 9781855968325 £4.99

  8. Tudur Budr: Fy Llyfr Stwnsh, David Roberts (Gwasg Gomer) 9781848511255 £3.99

  9. Sblash gyda Fflap a Seren, Derek Brockway (Gwasg Gomer) 9781848511132 £5.99

  10. Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a'r Tân Mawr, Morgan Tomos (Y Lolfa) 9781847711922 £2.95

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91Èȱ¬ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.