- Enw: Mari Stevens.
- Beth yw eich gwaith?
- Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
- O ble'r ydych chi'n dod?
- Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
- Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
- Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
- Wnewch chi ddweud ychydig amdano?
- Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
- Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
- A fyddwch yn edrych arno'n awr?
- Pwy yw eich hoff awdur?
- A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
- Pwy yw eich hoff fardd?
- Pa un yw eich hoff gerdd?
- Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
- Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
- Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
- Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
- Pa un yw eich hoff air?
- Pa ddawn hoffech chi ei chael?
- Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
- A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
- Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
- Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
- Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
- Pa un yw eich hoff daith a pham?
- Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
- Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
- Pa un yw eich hoff liw?
- Pa liw yw eich byd?
- Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
- A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
- Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Rheolwr Marchnata i 91热爆 Cymru Wales - ond dwi bant ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd, yn gofalu am fy mab bach newydd, Jac.
Swyddi gwyliau haf - tywys pobl o gwmpas safle adeiladu'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol cyn iddyn nhw agor a glanhau'r Llew Du yn Aberystwyth bob bore am ddeufis cyfan.
Mi ges i fy ngeni ym Maenclochog, Sir Benfro ond merch y ddinas ydw i - Dinas Abertawe.
Caerdydd.
Do - ro'n i'n joio pob pwnc ond y peth gore ges i o'm cyfnod yn yr ysgol oedd criw mawr o ffrindie ffantastig.
Cynnig, comisiwn a chwrso'r Lolfa - a'r awydd i sgrifennu rhywbeth am y mhrofiad o fyw yn Awstralia.
Nofel i bobl ifanc tua 12 oed yw hi ar y thema o berthyn i deulu - ac i ddiwylliant. Mae prif linyn y stori yn dilyn taith Gwawr i Awstralia i weld ei thad a'i gariad newydd, Shirley. Ond merch fach o gefndir brodorol sy'n cael ei 'dwyn' oddi ar ei theulu yw prif gymeriad arall y nofel. Mae'r ddwy stori yn plethu erbyn y diwedd.
Dim ond un llyfr go iawn - carirhys@hotmail.com, nofel ysgafn ac ychydig yn sili i bobl ifanc yn eu harddegau; ond cafodd fy nghyfrol fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal L锚n yn Eisteddfod yr Urdd 2000 ei chyhoeddi hefyd. Bestseller siwr o fod!
The Wonderful Story of Henry Sugar gan Roald Dahl - cyfrol o straeon byrion y gwnes i ei phrynu yn Virginia, UDA, tra ar wyliau. Dwi ddim yn cofio lot o'r straeon ond ro'n i'n falch iawn o'r ffaith bod y pris mewn doleri ar y clawr cefn.
Weithiau - ond dwi'n poeni y bydd y straeon wedi colli eu hud erbyn hyn.
Roald Dahl, Mihangel Morgan, A.A.Gill (yn y Times ar bnawn Sul) - a Maya Angelou ond fel bardd yn fwy na llenor.
Collected Poems Maya Angelou. Mae fy nghopi yn rhacs o gael ei gario rownd y byd yn fy bacpac
Maya Angelou. Mi lofnododd hi fy nghopi o'i chyfrol yn y Gelli Gandryll - ond mi dwi'n dyfaru mynd yno i gwrdd 芒 hi. Ges i siom.
Refusal - am resymau personol! Dwi wastad yn darllen cerddi o bersbectif hunanol.
I am your North, your South, your East, your West gan Auden.
Y ffilm Eidalaidd, Life is Beautiful - La Vita 猫 Bella - a The West Wing am ei hoptimistiaeth.
Mr Darcy yw'r ateb i'r ddau gwestiwn. Ac ma Briony yn Atonement yn gymeriad crwn o gas hefyd.
Deuparth gwaith yw ei ddechrau - ond dwi ddim yn cofio hynny'n ddigon aml.
厂颈补尘辫锚苍?
Cerdded mewn sodlau uchel.
Methu ishte'n llonydd.
Dwi'n poeni gormod am y pethau anghywir.
Samantha yn Sex and the City - 'sdim diawl o ots ganddi be mae neb yn ei feddwl amdani. Neu Michelle Obama.
Araith Barak Obama yn Grant Park, Chicago, noson ei bleidleisio'n Arlywydd America.
Heledd (Canu Heledd) - "Be ddigwyddodd?
"
Y daith o Yeovil i East Coker, lle y cafodd fy nhad ei fagu. Neu'r daith o Aberaeron i Aberystwyth ar hyd yr arfordir.
Barbeciw adre - cyw-i芒r, colslo a lot o s么s coch!
Mynd mas am bryd ffansi gydag Ifan, fy ng诺r. Ac unrhyw beth sy'n gwneud i Jac chwerthin.
Glas llachar, trydanol.
Amryliw.
Rhywbeth i'w wneud 芒 hawliau hen bobl - mae hi'n warthus sut mae'r henoed yn cael eu trin yma yng Nghymru.
Nag oes, ond mae na lot o syniade wedi bod yn chwyrl茂o'n fy mhen wrth i fi gwtsio Jac yn yr orie m芒n.
Dwi'n cael miliwn o bunnau am sgrifennu hwn - felly mwynhewch!