91热爆

Kate Roberts - cofiant Alan Llwyd

Kate Roberts ar glawr y llyfr

18 Tachwedd 2011

Datgelu gwybodaeth newydd am rywioldeb brenhines ll锚n

Mewn llyfr newydd sy'n cael ei gyhoeddi heddiw mae gwybodaeth newydd am fywyd personol Kate Roberts ac am ei rhywioldeb yn cael ei datgelu.

Yn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "cofiant cyflawn" mae Alan Llwyd yn datgelu tystiolaeth sy'n awgrymu ei bod yn hoyw ac iddi ddweud hynny wrth ei g诺r cyn iddyn nhw briiodi pan oeddent yn gariadon.

Yr oedd eisoes yn wybyddus ers rhai blynyddoesdd bod ei g诺r ei hun yn hoyw hefyd.

Mae llyfr Alan Llwyd, sy'n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa, yn cael ei lansio mewn cyfarfod yn Aberystwyth heno, Tachwedd 18, 2011.

Yn 么l y wasg, Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 yw'r astudiaeth fwyaf trylwyr erioed o fywyd a gwaith Kate Roberts ac yn datgelu canfyddiadau newydd ymhlith papurau personol Kate Roberts.

Yn 么l Alan Llwyd, mae cynnwys dau o'i dyddiaduron ynghyd 芒 llythyrau i amryw ffrindiau yn taflu goleuni ar ei pherthynas gymhleth 芒'i g诺r, Morris Williams, yn ogystal 芒 chodi cwestiynau ynghylch ei rhywioldeb hithau.

Dyma'r tro cyntaf i'r dogfennau hyn weld golau dydd.

Bu Kate Roberts a'i g诺r yn briod am 18 mlynedd hyd at ei farwolaeth ef ac er y bu honiadau am berthynas agos rhyngddo ef a'r bardd E Prosser Rhys ers blynyddoedd hwn yw'r tro cyntaf i dystiolaeth ddod i'r fei sy'n awgrymu bod Kate Roberts, hithau, hefyd yn hoyw.

Clawr y llyfr

"Awgrymir hyn yn gryf mewn un llythyr yn benodol a ysgrifennodd Kate at Morris ar gychwyn eu carwriaeth," meddai llefarydd o'r Lolfa.

Ac mae Alan Llwyd o'r farn ei bod hi am i bobl wybod am natur ei rhywioldeb ond na feiddiodd ddatgan hynny'n gyhoeddus mewn oes llawer mwy anoddefgar na heddiw.

"O ganlyniad, rhaid oedd iddi awgrymu'r peth ar bapur a thrwy gyfrwng ei stor茂au," meddir.

Ond pwysleisia Alan Llwyd bod llawer iawn mwy i'r cofiant na'r datgeliad hwn yn unig, megis sut y bu i alar dwys Kate wedi marwolaeth Morris ddylanwadu ar ei gwaith, ac yn enwedig felly ar ei straeon byrion.

"Mae hwn yn gofiant cyflawn, manwl, 'dan yr wyneb'," meddai Alan Llwyd, "ac oherwydd mai cofiant dan yr wyneb ydyw, mae'n dadlennu pethau hynod o bersonol ynghylch rhywioldeb Kate Roberts ac yngl欧n 芒'i pherthynas 芒'i g诺r, ond mae'r dadleniadau a'r darganfyddiadau newydd a geir yn y gyfrol yn gyffredinol yn goleuo'i holl fywyd a'i holl waith."

Dywed ei fod yn ymwybodol y bydd yn destun trafod mawr.

"Ond mae'n rhaid i mi bwysleisio mai cofiant cyflawn yw hwn i un o brif lenorion ein cenedl, ac mae'r stori i gyd yn stori gyffrous a diddorol a hynod o drist ar adegau. Cofiant i arwres yw hwn," meddai.

Yn ogystal 芒 bod yn brif awdures rhyddiaith yr ugeinfed ganrif yr oedd Kate Roberts hefyd yn un o aelodau cynharaf y Blaid Genedlaethol, ac yn berchennog ar Wasg Gee a phapur newydd Y Faner, gyda'i g诺r i ddechrau, ac yna ar ei phen ei hun yn ddiweddarach.

Yr oedd elfennau trasig a thrist i'w bywyd.

  • Lansio Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 gan Alan Llwyd yn yr Orendy, Aberystwyth, nos Wener, Tachwedd 18 am saith. Rhaglen deledu arbennig, Kate: Y Cofiant ar S4C nos Sul Tachwedd 20.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.