91热爆

Harri Parri

Enw?
Harri Parri.

Beth yw eich gwaith?
Wedi ymddeol, ar wah芒n i ysgrifennu.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweinidog.

0 ble'r ydych chi'n dod?
O L?n.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caernarfon, ers deng mlynedd ar hugain, bron.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Yn gyffredinol, do.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Cyfrol o straeon byrion fel y'u hysgrifennwyd ar gyfer cynulleidfa'r Babell L锚n yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005 gyda John Ogwen yn eu darllen.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Cyfrolau i blant flynyddoedd yn 么l, dwsin o straeon byrion mewn dwy gyfres, un casgliad unigol o straeon byrion, dwy nofel, pedwar cofiant (un yn waith ymchwil) a dwy neu dair cyfrol ym maes crefydd.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant, cyfrol 1.
Mae'n darllen yn dda o hyd.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
O bell.

Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg D. Tecwyn Lloyd.
Yn Saesneg, P. G. Wodehouse.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Y Beibl Cymraeg.

Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Theomemphus.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Y ddeilen hon, neus cynired gwynt, Gwae hi o'i thynged ! Hi hen; eleni ganed':
Canu Llywarch Hen, 'C芒n yr Henwr'.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dim ffefryn na ffefrynnau. Yn gyffredinol, rhaglenni dogfen - yn y ddwy iaith.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: y gwrtharwr bob tro.
Fy nghas gymeriad: cymeriad creulon.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
'Mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn.'

Pa un yw eich hoff air?
'Heddiw' - nid 'yfory'.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Un gerddorol.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Byr,
Brwd,
Beiddgar - ar dro.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy rhagfarnau.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Iesu, am ei fod i mi yn ffitio'r ddau gategori.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y Diwygiad Methodistaidd.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Williams Pantycelyn.
O ble cest ti'r ddawn?

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Tuag adref. Am mai dyna ble rwyf hapusaf.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Amhosibl. Does gen i'r un.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Chwilota, garddio, cymdeithasu dethol a cherdded llwybrau.

Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.

Pa liw yw eich byd?
Cymysgliw.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Yng Nghymru, deddf iaith. Yn fydlydan, deddf cydraddoldeb ar bob lefel.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Nac oes . . . ac oes.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Mae hi eisoes ar glawr. 'Mab llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir F么n y ganwyd ef.': Daniel Owen.


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.