I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
- Enw:
Bethan Si芒n Reeves - Beth yw eich gwaith?
- Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
- O ble'r ydych chi'n dod?
- Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
- Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
- Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
- Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
- Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
- A fyddwch yn edrych arno'n awr?
- Pwy yw eich hoff awdur?
- A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
- Pwy yw eich hoff fardd?
- Pa un yw eich hoff gerdd?
- Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
- Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
- Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
- Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
- Pa un yw eich hoff air?
- Pa ddawn hoffech chi ei chael?
- Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
- A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
- Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
- Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
- Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
- Pa un yw eich hoff daith a pham?
- Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
- Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
- Pa un yw eich hoff liw?
- Pa liw yw eich byd?
- Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
- A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
- Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Cyfieithydd.
Cyfryngi cyn magu teulu, yna gwraig t欧 ac athrawes.
Caerdydd.
Aberhonddu.
Ar adegau.
Y syniad bod yna ysbrydoliaeth anweledig o ryw fath sy'n ysgogi gwir athrylith. Cawn ein gadael gyda'r gelfyddyd ond yn aml, dydyn ni ddim yn gwybod beth na phwy oedd yr ysbrydoliaeth a'i ysgogodd.
Wedi cyhoeddi stori fer yn Yn Nes At Baradwys (Gwasg Carreg Gwalch) - roedd hon yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Stori Fer Radio Cymru.
Teulu'r Cwpwrdd Cornel.
Na dim ers i fy mhlant gyrraedd eu harddegu - ro'n i'n darllen hanes Tedi a Bwni Fach iddyn nhw pan oedden nhw'n fach.
Caryl Lewis, DJ Williams, Marion Eames, Charlotte Bronte, Tracey Chevalier.
Girl With a Pearl Earing - Tracey Chevalier.
The Great Gatsby gan F Scott Fitzgerald.
Dafydd ap Gwilym.
Mis Mai.
Dechreuad mwyn dyfiad Mai.
Ffilm - Dead Poets Society; Elizabeth.
Teledu - House.
Hoff gymeriad: Mr Rochester Jane Eyre, Charlotte Bronte)
Cas gymeriad: Mrs Danvers (Rebeca Daphne du Maurier)
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ff么l,
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn 么l. (THPW)
Lol.
Y gallu i siarad llu o ieithoedd yn rhugl.
Mynd ar wib.
Anghofus.
Ar hyn o bryd Barak Obama, am iddo ddal sylw'r byd er gwaethaf pob rhwystr.
Gydag Owain Glynd诺r pan gipiodd e gastell Aberhonddu.
Dafydd ap Gwilym. Oes gen ti blant?
O fy nghartref gwledig presennol dros y Bannau at fy hen gartref dinesig i weld fy rhieni.
Cyri a reis.
Ysgrifennu; sgwrsio gyda ng诺r mewn cornel heulog o'r ardd gyda gwydraid o Chenin Blanc.
Leim gr卯n.
Amryliw.
Bod Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cael ei rheoleiddio gan y Cynulliad ac nid y Cynghorau Sir. Efallai byddai plant Powys yn cael mwy o chwarae teg wedyn.
Mwy fel pelen o wl芒n nac ar y gweill ar hyn o bryd.
Mae fy mrawddegau agoriadol yn newid fel y tywydd. Taswn i'n ysgrifennu un i lawr nawr, mi faswn eisiau ei newid erbyn i hwn gael ei gyhoeddi.
Gorffennaf 2009