91热爆

D Tecwyn Lloyd - Aolygiad o ddetholiad o'i gerddi

Rhan o glawr y llyfr

09 Medi 2009

Adolygiad Derec Llwyd Morgan o Cerddi Tec Lloyd. Golygydd, Ieuan Parri. Gwasg Carreg Gwalch, 2009, 174tt., 拢5.50.

Cwestiwn neu ddau i ddechrau.

Pam Cerddi Tec Lloyd? Os Cerddi Tec Lloyd, pam nad fel Ieu Parri yr enwir y Golygydd a pham nad fel Gwyn Thom yr enwir y Rhageiriwr?
Dim ond gofyn.

Gwn o'r gorau mai fel Tec yr adwaenid ef gan ei gyfeillion agos ond D Tecwyn Lloyd a roddodd ef ar ddalen-deitl pob un o'r cyfrolau a gyhoeddodd yn ystod ei oes (ac eithrio, wrth gwrs, pan ysgrifennai o dan enw E. H. Francis Thomas, ond stori arall yw honno).

Ei gyfrolau o ysgrifau yw rhai o'r cyfrolau difyrraf a gyhoeddwyd o gwbl yn y Gymraeg yn ystod y saith - a'r wythdegau.

Gorwedd llawer o'u gogoniant nhw yn y ffaith mai estyniadau o'i brofiadau personol a diwylliadol ef ei hun oeddynt, ysgrifau'n hunangofiannu ac ysgrifau'n ll锚n-feirniadu.

Clawr Cerddi Tec Lloyd

Y mae yn y gyfrol farddoniaeth hon gryn dipyn o ddeunydd nid annhebyg i ddeunydd yr ysgrifau, ychwaneg o hunangofiannu, ychwaneg o l锚n-feirniadu.

Hiraeth yn amlwg

Y mae hiraeth ym mhob hunangofiant. Hiraeth yw'r elfen amlycaf o ddigon yng ngherddi hunangofiannol y gyfrol hon, hiraeth am hen ffordd o fyw, am y byd gwledig disyml a roes i Gymru Lwyd o'r Bryn a Bob Tai'r Felin, am chwarae criced ar gae Bryn'rordd, am yr Ostun hwnnw y prydydda'n wirion o Wordsworthaidd amdano yn "Er Adloniant Doethurawl".

Hiraeth diweddarach wedyn yn y gerdd O Ffenestr Garth Martin am warineb ei briodas gyntaf, ac am Frances ei hun. A hithau wedi dioddef salwch enbyd, ebe'i gwidman:

Does yna'r un Duw cariad yn hyn o fyd.
Os oes Duw o gwbl, mae hwnnw fel y t欧 hwn,
Fel y bryniau a'r wlad a welaf -
Yn gwbl ddifater o'n bodolaeth ni...

Y mae'r hiraeth yn ddisgybledig yn y gerdd hon, o dan reolaeth megis. Y mae ar ei fwyaf ingol-ddisgybledig yn y gerdd Pentref sy'n disgrifio Seisnigo a datddiwyllio Llandderfel.

Pantycelyn dani

Yng Ngarth Martin, y cartref nobl hyfryd a greodd ef a Frances ar gwr Caerfyrddin, y dywedodd Tecwyn wrthyf ddiwedd y chwedegau i beidio 芒 chyboli ag astudio Pantycelyn a'r Diwygiad Mawr, ond i fynd ati'n hytrach i gyfieithu 91热爆r.

Wele, y mae Pantycelyn o dani hi yma eto ar dudalen 71.

Er mwyn imi gael amser a hamdden i 91热爆ra, cynghorodd fi i geisio am swydd fel Darlithydd Allanol. Yr adeg honno y lluniodd y llinellau doniol-ddiddan am ei yrfa broffesiynol a brintir am y tro cyntaf yn nhudalennau olaf y llyfr hwn, llinellau sy'n cynnwys y gwpled:

Mae bod yn Ddarlithydd Allanol yn eitha job,
Er bod ambell un i'w gael sy'n brygawthan fel lob.

Chwarae y mae'r prydydd yn y gerdd hon, fel y mae'n chwarae yn y cerddi a luniodd o dan enwau eraill, Eric Thomas a'r enwog J(anet) M(itchell) Davies, y bardd concrit gorau yng Nghymru yn ystod y Saithdegau.

Yr oedd wrth ei fodd yn gwneud hwyl - yn achos Miss J M Davies yn gwneud hwyl am ben y ffasiwn wirion o osod 'cerddi' ystyrddwl yn batrymog ar ddalen, ac yn gwneud hwyl am ben y beirdd ffuantus a gyfansoddai 'ar 么l' Hwn-ac-arall (tramorwr fel arfer).

Argraffodd gyfrol breifat o'i gweithiau, fel y gwnaeth yn achos Ned Serajos. Pa barodi ddwl athronyddol well na hon?

     Wrth droi'r cloc
                     yn 么l
                     ai fi
     Oedd yn sefyll
                     i symud
                     y bysedd
                     Ai'r bysedd
	A safai
            a'r cloc
               yn fy
                  symud
     I?

Prawf yw'r efelychu a'r parod茂o hwn o glust fain Tecwyn Lloyd, ac o'i gonsyrn dros synwyrgallineb llenyddiaeth, ac o'i ddawn arddulliol.

Ac eto, ac eto, y mae wrth gwrs yn cael hwyl wrth wneud y pethau hyn.

Cynnwys y llyfr hefyd rai cyfieithiadau o gerddi gan T S Eliot a W H Auden, yr Eliot a luniodd y Four Quartets, sylwer, nid yr Eliot a chwalodd yr hen gonfensiynau barddol gyda'i Waste Land.

Rhyfedd iddo weld yn ddymunol eilio bardd mor grefyddol ag ef ac yntau'n wrthdduwiol i bob pwrpas.

Fel arfer, ni welaf lawer o bwynt i gyhoeddi cyfieithiadau o'r Saesneg sydd mor ddealledig gennym, ond y mae'n rhaid imi ddweud imi gael blas anghyffredin ar Gymreigiad y Lloyd o ran o For the Time Being Auden.

Wrth baratoi Traethawd PhD ar fywyd a gwaith Tecwyn Lloyd y casglodd Ieuan Parri'r casgliad hwn.

Lluniodd gyflwyniad teg a chryno iddo, cyflwyniad y mae'n hanfodol i ddarllenydd nad adwaenai'r bardd ei ddarllen cyn mynd at y cerddi.

Heb os, y rhai hynny ohonom a gafodd yr hyfrydwch o adnabod y Lloyd ac o wybod am ei yrfa a werthfawroga'r farddoniaeth orau ond y mae'n wers dda mewn hanes a hwyl ll锚n i bawb.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.