06 Ionawr 2011
- Adolygiad Glyn Evans o Bro a Bywyd T. Llew Jones. Cyhoeddiadau Barddas. 拢9.95.
Yr oedd yn rhywbeth a oedd bownd o fod wedi digwydd.
Yn yr un cywair a'r cwmn茂au recordio hynny a wrthododd Elvis a'r Beatles, am nad oedd "dyfodol" iddyn nhw, cafodd T Llew Jones ei gystwyo yn yr ysgol am geisio sgrifennu stori!
Hanesyn nad yw ond yn un o'r nifer o ddiferion difyr yn y gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres Bro a Bywyd
Goleuni ym mhob mwrllwch
Ond mae goleuni ym mhob mwrllwch a chydag athrawon mwy goleuedig tybed a fyddem wedi colli i fyd ll锚n Saesneg un o awduron mwyaf poblogaidd erioed y Gymraeg - ac awdur dros hanner cant o lyfrau Cymraeg.
"Pan oedd T. Llew yn ddisgybl ieuanc yn Ysgol Ramadeg Llandysul dechreuodd ysgrifennu nofel yn Saesneg . . . ond gadawodd ei fenter wedi i ffrind ddarllen rhai tudalennau a dweud y gwyddai yn gywir beth fyddai diwedd y stori. Wedi ail ymdrech, eto yn yr Ysgol Ramadeg, roedd yr athro Saesneg o'r farn fod y stori yn un wirioneddol dda, ac fe gyhuddodd T. Llew o l锚n-ladrad ac o ddwyn y stori. Yn wir derbyniodd gansen am ei ymdrechion," meddir.
Go brin bod angen ychwanegu i'r digwyddiad aros gydag ef trwy gydol ei oes.
Darllen, darllen, darllen!
Ac fel athro ei hun "penderfynodd fod darllen i blant ysgolion cynradd yn bwysicach nag ymarferion mewn ysgrifennu creadigol".
Yn wir, gydol y blynyddoedd ei gyngor i blant oedd i ddarllen, darllen a darllen.
A chyngor i wneud fel y gwnaeth ef oedd hynny gan ei fod, pan yn blentyn, yn ddarllenwr mawr ac yn un arbennig o hoff o stori.
"Roedd wedi darllen popeth yng nghypyrddau ysgolion Capel Mair a Saron, gan gynnwys cyfres Just William a The Life of Gladstone. Hefyd darllenai weithiau R. L. Stevenson, Daniel Owen (Rhys Lewis) a llawer o'r 'Penguins' (chwecheiniog)," meddai Jon Meirion Jones, nai T Llew a golygydd y gyfrol sy'n ein tywys trwy fywyd amrywiol y mwyaf poblogaidd o'n hawduron.
Mae'n dyfynnu T Llew ei hun yn dweud:
"Pan fyddai Mam a'r teulu wedi noswylio byddwn yn darllen o dan y garthen i olau cannwyll a bu bron i mi roi'r gwely ar d芒n mwy nag unwaith."
Er 1981
Mae'r gyfrol sy'n gasgliad o luniau a dyfyniadau gan ac am yr awdur yn ychwanegiad rhagorol at y gyfres ddifyr a buddiol hon a welodd olau dydd gyntaf gyda Syr T H Parry-Williams yn 1981.
Fe'i cyhoeddwyd ar y cychwyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac ymhlith y tros ugain o awduron y dehonglwyd eu cyfraniad trwy lun a gair erbyn y flwyddyn 2000 yr oedde KateRoberts, gwenallt, Cynan, T gwynn Jones, Saunders lewis, O M Edwards, Waldo ac R Williams Parry.
Erbyn hyn trosglwyddodd Cyngor y Celfyddydau y gyfres i gymdeithas Barddas a hi a fu'n gyfrifol am gyhoeddi cyfrolau am Wil Sam y llynedd a'r unig gyfrol ddwyieithog yn y gyfres am yr arlunydd Kyffin Williams.
Ar wah芒n i honno a chyfrol am Gapel Celyn yn yr un diwyg gw欧r ll锚n fu'r enwogion a ganmolwyd ac nid oes dadl o gwbl fod y gyfrol ddiweddaraf hon am T Llew Jones ymysg goreuon y gyfres gyda mwy i'w ddarllen ynddi nag yn nifer o'r cyfrolau blaenorol.
Ac mae'n addas hefyd mai Barddas yw'r cyhoeddwyr gan i T Llew fod yn "allweddol" yn sefydlu Cymdeithas Barddas - yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 - ac ef oedd ei llywydd anrhydeddus.
'Syml ac uniongyrchol'
Rhannodd Jon Meirion Jones - yr oedd ei dad, y Capten Jac Alun y Cilie, yn frawd i Margaret Enidwen, priod T Llew Jones - y gyfrol yn 么l cyfnodau ym mywyd yr awdur gan arwain gyda rhagair cryno a buddiol lle mae'n dwyn ynghyd gwahanol elfennau ei gyfraniad yn llenor, yn fardd, yn feirniad ac yn awdur.
Byddai wedi bod yn hwylustod rhestru'r adrannau hyn a rhif eu dalen ar gychwyn y gyfrol.
Mae'n rhoi ei fys ar boblogrwydd T Llew trwy briodoli ei lwyddiant fel bardd ac fel awdur "oherwydd y medrai ganu yn syml, yn uniongyrchol ac yn gofiadwy".
Mae sawl enghraifft i gadarnhau hynny.
Sawl teyrnged
Mae sawl teyrnged yn y llyfr hefyd gan rai sy'n amrywio o Islwyn Ffowc Elis i gyn ddisgyblion sy'n ei ganmol fel athro blaengar ac annwyl.
Ond go brin bod yr amodau ar gychwyn ei yrfa yn awgrymu mai felly y byddai pethau.
"Bu farw ei dad . . . yn sydyn iawn . . . yn 42 mlwydd oed, pan oedd yn pysgota ar lannau afon Teifi, ac fel mab hynaf bu'n rhaid i T. Llew ennill ei fara a chaws i helpu ei fam i gael dau ben llinyn ynghyd.
"Bu'n gweithio gyda gang o nafis yn cloddio i osod gwifrau ff么n o dan ddaear. Bu'n gwympwr coed, yn glerc mewn swyddfa ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel dyn casglu yswiriant," meddir.
Mae troeon yr yrfa i gyd yma gan gynnwys cyfnod yn yr Aifft a'r Eidal gyda'r RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Danteithion melys
Ond yr hyn sy'n melysu'r gyfrol yw'r danteithion bychain fel yr hanesyn amdano yn cael daliad hwy nag a ddylai yn yr Aifft oherwydd ei fedr fel cricedwr a hanesyn arall amdano, yn blentyn, yn sefydlu ei gysylltiad cyntaf a Gwasg Gomer a gyhoeddodd maes o law gymaint o'i lyfrau.
" . . . galwai'r T. Llew . . . deuddeg oed yn Siop Gomerian i fyseddu llyfrau ar y silffoedd. O bellter cownter cadwai Hannah Lewis, hen fam-gu cyfarwyddwr presennol Gwasg Gomer, lygad ar y disgybl chwilfrydig.
"Daeth y bachgen i mewn dair neu bedair gwaith. Wedyn aeth y siopwraig i weld pa lyfr a oedd wedi tynnu ei sylw, a The Complete Works of Charles Dickens oedd hwnnw.
"Pan ddychwelodd . . . y bore canlynol, rhoddodd Hannah Lewis y llyfr iddo yn anrheg, oherwydd gwyddai fod ei bris, sef coron, yn fwy na chyflog ei dad fel gwehydd yn Ffatri Derw.
"Dyna'r buddsoddiad gorau a wnaeth Gwasg Gomer erioed, er lles busnes, ac er lles Cymru, oherwydd ysgrifennodd T. Llew dros hanner cant o lyfrau i blant ac oedolion."
Ei gerdd orau?
Cynhwysir hefyd yn y gyfrol yr hyn y mae llawer yn tybio sydd yn gerdd orau T Llew Jones. Cywydd i Dilys, un o blant ysgol Coed-y-bryn a fu farw "yn syfrdanol o sydyn" ond yn wyth oed.
"Mynnodd T. Llew lunio cywydd iddi. Mae rhai o'r farn mai dyma ei gerdd orau," ac mae'r cywydd ysol hwnnw a llun o Dilys yn y gyfrol.
Plant a lleoedd
Yn weddus iawn mae yma nifer o luniau o T Llew yng nghwmni plant a lluniau hefyd ohono yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chyffiniau'r Babell L锚n - un o'r lluniau hyn yn ymddangos ddwywaith - ar ddalennau 67 yn gyntaf ac wedyn 142!
Lluniau hefyd o leoedd a anfarwolwyd ganddo fel awdur a bardd; yn eu plith Traeth y Pigyn, Pont-d诺r-bach, Cwm Alltcafan, Carreg Bica, Llangranog, a Thraeth Cwmtydu
Buddiol hefyd yw y rhestr o'i lyfrau ar ddalen 104 a blwyddyn eu cyhoeddi.
Cyfrol sy'n ychwanegiad teilwng i gyfres deilwng. Glyn Evans.