91热爆

Si芒n James - ei hunangofiant

18 Awst 2011

Adolygiad Joanna Davies o hunangofiant Si芒n James. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.

Dwi wrth fy modd gydag hunangofiannau a bywgraffiadau - mae gen i gywilydd dweud bod gen i gannoedd ohonynt ar fy silffoedd erbyn hyn. Fel arfer dwi'n anelu at gyfrolau s锚r oes aur Hollywood ac yn joio'r sgandals, y clecs a'r bwrw bol rhwng y cloriau.

Datgelu hanfod

Mae hunangofiant da yn datgelu hanfod y person a'r hyn sy'n ei wneud e neu'n ei gwneud hi yn unigryw.

Ac mae Sian James, y gantores a'r actores adnabyddus, yn ei hunangofiant newydd, Sian James wedi llwyddo i gyflwyno ei hun mewn ffordd agos atoch chi sy'n onest ac sy'n llawn hanesion difyr gydag ambell i gyfaddefiad annisgwyl hefyd.

Clawr y llyfr

Wrth ddarllen y llyfr, rydym yn ymwybodol yn syth bod ei bro a'i chynefin yn hynod bwysig iddi.

Mae arddull ei hysgrifennu yn hawdd i'w ddarllen ac yn llawn ymadroddion o ardal Llanerfyl a thafodiaith y fro yn llifo trwy'r gyfrol. Falle, i rai darllenwyr, y gallai hyn achosi dryswch ond i mi roedd yn ychwanegu llawer taw 'llais' Si芒n James oedd yn siarad hefo ni.

Mae'r 'cogie' a'r 'lodesi' yn cyfoethogi'r dweud ac yn ein trochi ym myd yr awdures o'r cychwyn.

Mae gan Sian y ddawn i lunio portreadau byw a chryno o gymeriadau hefyd.

'Nain Sowth'

Fel arfer gall paldaruo seleb yn ei hunangofiant am ddyddiau plentyndod fod yn ddiflas ar y naw gan nad ydym ni y darllenwyr eisie gwybod rhyw lawer am neiniau a theidiau a mam a dad ac Anti Eirwen a'u tebyg.

Rydyn ni eisiau'r sgandal, y gos a'r siwrne dymhestlog i lwyddiant yn y byd adloniant.

Ond mae disgrifiadau Si芒n o "Nain Sowth" a'i thor-priodas gyda'i g诺r, tad-cu Si芒n, yn ddiddorol iawn a'r ffaith fod y llythyron rhyngddynt adeg y tor-priodas, sef ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, wedi goroesi ac yn gynwysedig yn y gyfrol hon yn ychwanegu llawer at y stori.

Hoffais hefyd ddisgrifiad Si芒n o'i 芒'i mam, sy'n dipyn o gymeriad -yn "fem" a hanner sy'n onest iawn gyda'i merch am 'wirioneddau' bywyd.

Efallai, oherwydd bod ei mam yn fydwraig mae'r Sian ifanc yn gweld ei chorff marw cyntaf ac yn llygad dyst i enedigaeth babi yn eithriadol o ifanc!

Dyw'r fath brofiadau ddim fel petaent wedi cael effaith negyddol ar Si芒n ei hun, yn wir mae 'Marj' yn chwa o awyr iach drwy'r gyfrol a'r cwlwm rhyngddi hi a'i merch yn amlwg.

A chan imi deimlo mod i'n adnabod 'Marj' ar 么l darllen amdani, mae yna elfen deimladwy iawn yn y gyfrol hefyd wrth i Si芒n ddisgrifio gwaeledd ei mam a'i thristwch yn ei gweld yn cilio i dywyllwch salwch, MS.

Digon o ysgafnder

Ond mae yna ddigon o ysgafnder a digrifwch yn y gyfrol hefyd. Wrth gwrs mae'n help bod Si芒n wedi cael bywyd difyr. Dysgwn am eni'r band Bwchadanas yn nyddiau coleg yr awdures ym Mangor ac ymddangosiadau cyntaf Si芒n ar yr S4C newydd anedig.

Ac mae gweithio yn Disney am gyfnod ar 么l gadael Coleg yn agoriad llygad i'r 'lodes' ddiniwed o Gymru wrth iddi brofi'r hiliaeth sy'n dal yn rhemp mewn rhai ardaloedd o'r Unol Daleithiau hyd yn oed yn yr 1980gau.

Onestrwydd

Mae yna onestrwydd yn yr hunangofiant yma hefyd a Sian yn rhannu llawer gyda'r darllenydd - ei phroblem gynnar gyda bwyd - sydd wedi ei hen goncro erbyn hyn - ei phrofiad gydag 'ailymgnawdoliad', ei theimladau am ei theulu ac uchel bwyntiau ac isel bwyntiau ei gyrfa.

Gellid ddadlau ei bod yn carlamu ychydig trwy'r elfennau pwysig yma heb oedi'n ddigonol ond mae ganddi hanner can mlynedd i rannu gyda ni a hynny mewn un cyfrol fach. Ac mae'r 'lodes' o Lanerfyl wedi gwneud jobyn go foddhaol. De iewn!
Joanna Davies


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.