91热爆

Russell Jones - gwyrdd ei fyd

20 Gorffennaf 2010

    Adolygiad Glyn Evans o Gwyrdd fy Myd gan Russell Jones - gyda Mared Lewis. Cyfres Nabod. Gwasg Gwynedd. 拢6.95.

Gellir gwrando ar Russell Jones yn siarad am ei lyfr efo Gwilym Owen, Gorffennaf 19 2010 ar 91热爆 Radio Cymru, trwy glicio ar y blwch llwyd isod.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Daeth Gwasg Gwynedd i amlygrwydd gyda Chyfres y Cewri gan gornelu am bwcs y farchnad hunangofiannau - nes i bob cyhoeddwr arall sylweddoli gwerth y ffynnon hon i ddisychedu'r werin ddarllengar Gymraeg a chreu llif cyson o atgofion gan bawb boed gawr neu gorrach.

Pegwn 'poblogaidd' - a defnyddio'r gair yn ei ystyr gyfoes - yr un farchnad ydi'r gyfres newydd Nabod gyda'i phwyslais ar lawer o luniau ac ychydig o eiriau mewn penodau pytiog.

Tra'r oedd Cyfres y Cewri yn rhoi cyfle ichi dreulio penwythnos hir yng nghwmni arwr rhyw gyfarfyddiad tros ginio neu mewn bore coffi ydi Nabod os yw'r gyfrol gyntaf yn arwydd o'r hyn sydd i ddod.

A dydi hi ddim gwaeth oherwydd hynny, dim ond gwahanol.

Dewis da

Ac o ddewis gwrthrych i gychwyn y gyfres go brin y gellid, ar yr union adeg hon, fod wedi dewis gwell na Russell Jones "cymeriad lliwgar a charismataidd . . . rhaglen Yn yr Ardd ar S4C" fel mae'n cael ei ddisgrifio gan y cyhoeddwyr.

Does dim dwywaith nad yw'r seren hon yn un o rai disgleiriaf y sianel y dyddiau hyn.

Mae pob rheswm i feddwl y bydd Gwyrdd fy Myd yn gwerthu'n dda.

Cyfrol denau o 60 ddalennau lliw yw hi gyda pheth wmbredd o luniau o'r gwrthrych a'i gyfeillion o'i blentyndod i'r sgrin gyda phytiau amdano nad ydynt o ran cyfanswm geiriau fawr fwy nag erthygl go lew mewn cylchgrawn papur Sul.

Mae yma gyfuniad o'r 'Dyn ei Hun' yn dweud ei stori a sylwadau gan rai sy'n ei adnabod; ei fam, athrawes ysgol gynradd, ei chwaer, ei frawd, ei wraig, dwy anti ac yn y blaen.

Ymadrodd a ddefnyddir fwy nag unwaith amdano yw "Russ 'di Russ" a'r dystiolaeth amlwg yw ei fod yn gymeriad hynod o hoffus ond gwahanol i'r rhelyw a hynny'n ei wneud, wrth gwrs, yn gym锚r ac yn gyflwynydd y mae rhywun eisiau darllen amdano ef a'i ddiddordebau fel y cadw ieir, y gwau a'r garddio.

Bocs sebon

Eitem ysbeidiol yn y llyfr yw'r un "Ar fy mocs sebon" lle mae'n dweud ei ddweud am bethau mor amrywiol ag addysg (plant yn dysgu am bethau sydd a dim i'w wneud a'u cynefin), llnau (mae na'r ffasiwn beth 芒 bod yn rhy l芒n), ceir (dydi o ddim yn, nac eisiau, gyrru), crefydd( nid yw'n credu yn nefoedd y Beibl).

Pytiau byrion, hawdd eu treulio yw'r rhain yn gydnaws 芒 natur y gyfrol drwyddi draw sy'n ddifyr ac yn hawdd i'w darllen. Cyfrol sy'n gorffen gyda'r nodyn gobeithiol:

"Ro'n i'n arfar teimlo, mod i'n cerddad yn fy mlaen ond fod na fynydd uchel o 'mlaen i o hyd, a'i fod yn symud efo fi fel ro'n i'n cerddad, a byth yn mynd o'r ffordd. "Erbyn hyn dwi'n teimlo mod i wedi dringo i dop yr hen fynydd 'na, ac yn medru sb茂o drosodd i'r ochr arall. A wyddoch chi be? Mae'r olygfa'r ochr arall yn fendigedig! Gwyrdd fy myd, 'de!"

Ynde.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.