- Adolygiad Glyn Evans o Nesa Peth i Ddim gan Meic Povey. Gwasg Carreg Gwalch.
Gyda chlip sain o Meic Povey yn cael ei holi ar Wythnos gwilym Owen Gorffennaf 12 2010.
Gellid fod wedi galw hwn yn 'Hunangofiant Iors Trwli' gymaint mae'r ymadrodd yn cael ei ddefnyddio yn y lyfr. Aeth y gorddefnydd ar fy mr锚ns i dipyn bach.
Fel arall mwynheais yr amser a dreuliais yng nghwmni Meic Povey. Weithiau, mae'r llyfr yn fwy fel sgwrs 芒'r darllenydd nag o hunangofiant ffurfiol.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Mae'n llifo'n rhwydd ac er yn edrych dipyn yn hir yn 256 o ddalennau dydy o ddim yn dreth ar amser rhywun.
Gellid disgrifio Nesa Peth i Ddim fel hanes un o'r bobl ffodus hynny allodd droi eu hobi yn job achos mae sgwennu yn fwy na gwaith i'r dramodydd, sgriptiwr ac actor, Meic Povey.
Mae'r hunangofiant yn stori garu deimladwy a thrist hefyd gan orffen gyda meddyliau'r awdur yn dilyn marwolaeth ei wraig yn 59 oed wedi brwydr yn erbyn canser - "hen glefyd creulon iawn . . . yn llawn ffug orwelion".
Bydd sawl un yn gallu uniaethu 芒'r hyn y bu'r ddau drwyddo a'r distawrwydd ysol mae'r salwch yn ei adael ar ei 么l wedi dwyn eich hanwylyd.
"Mae na bob math o alar, a do, dwi wedi colli dau frawd a rhieni, ond does na ddim i'w gymharu a cholli cymar."
Cyn y daith
Yr oedd hynny yn 2007 a'r awdur yn defnyddio hynny fel pennod olaf daclus a theimladwy ei hunangofiant sy'n golygu bod yr hanes yn darfod cyn taith ddadleuol Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru gyda drama ddiweddaraf yr awdur, Tywyll yw'r Lleuad Heno.
Bydd rhai yn gweld eisiau ei ymateb i'r cwest a fu ar y cynhyrchiad hwnnw.
Mae Meic Povey yn un o'r bobl ffodus hynny sydd 芒 dyddiaduron i ddeffro'i atgofion a dod a'r blynyddoedd yn fyw.
Gan gychwyn gyda1952-1962 y blynyddoedd yw teitlau'r penodau - ac eithrio'r olaf - er mae'n gorfod cyfaddef weithiau nad yw'n cofio arwyddocad ambell i gofnod.Fy ofn ar y cychwyn oedd na fyddai'r hunangofiant yn ddim mwy na chatalog o ddramau, sgriptiau, cynyrchiadau a digwyddiadau. Edrych yn debyg iawn i hynny ar un cyfnod ond yn ffodus mae gan Meic Povey ddigon o gig i wneud y sgerbwd dyddiadurol yn gorff difyr o waith er rhaid cyfaddef bod yna weithiau demtasiwn i ddarllenydd droi dwy ddalen ar y tro!
Ond gan fwyaf o'r amser mae Povey yn gwmni difyr ac yn ddigon gwahanol i fod yn ddiddorol.
Yn onest - eto fyth!
Aeth yn ystrydeb yn ddiweddar brolio onestrwydd hunangofianwyr. Yn
Yn wir mae'n cyfaddef mai'r unig gymeriad mewn drama y byddai o wedi hoffi ei chwarae ar lwyfan yw'r godinebwr Gwilym Brewys yn Siwan Saunders Lewis.
"Am gyfnod yn ifanc, hoffwn freuddwydio y medrwn uniaethu ag o; teimlwn fod ei ddyheadau yn gwbl ddealladwy," meddai.
Ei roi ar ben ffordd
Mae'n talu teyrnged i Sharon Morgan hefyd am ei roi ar ben ffordd sut mae gwneud be efo be yn rhywiol.
Diau y byddai rhai wedi croesawu mwy o fanylion. Minnau yn eu plith nhw pe byddwn i yr un mor onest a'r awdur - ond rhaid bodloni ar benderfyniad yr awdur i nodi'r ffaith a'i gadael hi ar hynny.
"Sharon, heb os, ddaru wneud dyn ohona i," meddai'r llanc oedd yn garwr trwsgl cynt.
Priod oedd y ferch a ddaeth yn gymar bywyd iddo hefyd pan gyfarfu'r ddau gyntaf.
Swyddfa twrneiod
Bydd rhai yn synnu darllen mai fel clerc yn swyddfa twrnai - digon Dicensaidd ei hawyrgylch - y Georgiaid, ym Mhorthmadog, y dechreuodd gyrfa Meic Povey ac mae'r hanes hwnnw yn ddifyr ynddo'i hun cyn iddo droi i fyd theatr a sgrifennu.
Mae Wilbert Lloyd Roberts yn berson amlwg yn y stori y cyfnod hwn.
Ymweliad carchar
Yn nes ymlaen mae disgrifiad Meiv Povey o'i ymweliadau 芒 Clive Roberts yng ngharchar yn ddadlennol. Ond ddaw rhywun ddim i ben 芒 rhestru popeth wrth iddo o flwyddyn i flwyddyn olrhain gyrfa a datgelu sawl peth diddorol am yr hyn y bu'n gysylltiedig 芒 hwy.
Sul y Blodau, un o'i ddramau gorau yn fy meddwl i, wedi ei sgrifennu ddwywaith ar 么l cael ei gwrthod y tro cyntaf.
Stori ddadlennol yw'r un amdano yn actio yn yr un cynhyrchiad ag Uma Thurman a'i farn amdani.
Byddai wedi bod yn amhosib iddo beidio 芒 s么n am ei gyfnod yn actio DC Jones ym Minder ond yn cyfaddef ei fod yn cymryd ato braidd o gyfarfod pobl sy'n meddwl mai dyna ei unig gyfraniad.
Gwendidau
Ar adegau - yn aml, yn wir - gall fod yn ddigon difriol ohono'i hunaan gan rannu gyda ni bethau a ystyria yn wendidau personol.
Yn y Conway yng Nghaerdydd cynigiodd - "yn ddiau mewn cyflwr 'emosiynol'" - ei hun i'r bomiwr John Jenkins unwaith:
"hwyrach fy mod yn gobeithio y byddai'n dweud, 'Michael, you're just the kind of man I've been looking for'. Ddaru o ddim, yn hytrach dywedodd wrtha i am beidio trafferthu, ac i ddal i wneud yr hyn roeddwn i'n ei wneud yn barod . . . Medrodd John, wrth reswm pawb, adnabod dyn gwellt o hirbell; yn un peth, gwyddai na fedrai ymddiried ynof i gau fy hopran . . ."meddai.
Ar wah芒n i ddigwyddiadau mae'n s么n hefyd am ei grefft y sgwennwr a'i ddaliadau personol, ei anghred a'r hyn a ystyria yn lwfrda.
". . . gan fy mod, yn gyson ar hyd fy oes, wedi bod yn ormod o lwfrgi i weithredu ar gownt dim," meddai wrth fynegi ei edmygedd o Emyr Llywelyn ac Owain Williams.
Y gair pwysicaf
Y gair pwysicaf i unrhyw ddramodydd, meddai, yw "malio".
"Os nad ydi'r gynulleidfa yn malio . . . yna, waeth i chi godi eich pac a rhoi'r ffidil yn y to ddim," meddai.
Cael cynulleidfa i falio am gymeriadau yw her y dramodydd.
Mae ganddo air da am bwysigrwydd S4C hefyd: "Toes yr un dylanwad yn y byd mor bwerus a damniol 芒 gwasanaeth teledu, yn enwedig i ni yma yng Nghymru pan gloriennir effaith y diwylliant Eingl-Americanaidd ar ein plant a'n pobl ifanc. Heb os, yn wych neu'n wachul, S4C ydi'r sefydliad pwysica a feddwn fel cenedl," meddai.
Go brin bod dadl am hynny a dyna faint y cyfrifoldeb sydd yn nwylo'r rhai sy'n rhedeg y sianel.
A dyna rywbeth i'n sobreiddio . . .