Cyfrol sy'n ysbrydoli
Fe'm syfrdanwyd.
Er yn rhyw fath o adnabod Peter Hughes Griffiths ers hanner canrif ac yn gwybod yn dda am ei ddoniau a'i brysurdeb nid oeddwn wedi llwyr werthfawrogi cymaint ei gyfraniad mewn gwahanol feysydd dros y blynyddoedd - nes imi ddarllen ei hunangofiant.
Mae'n gyfrol sy'n ysbrydoliaeth. Yn enwedig o sylwi maint ei gyfraniadau gwirfoddol - heb ofyn ceiniog yn d芒l.
Mae rhai na wn芒nt ddim heb d芒l am eu gwaith - tra bo eraill ohonom sy'n cael ysbeidiau nawr ac yn y man o wneud gwaith gwirfoddol.
Ond mae Peter Hughes Griffiths, hyd y medrwn weld, wedi gwneud llwyth o waith gwirfoddol ar hyd ei oes.
Fe'i maged mewn cymdeithas a chyfnod lle'r oedd parodrwydd i gyfrannu'n llawen o wirfodd yn ffordd o fyw. Dyna oedd yn cynnal cymdeithasau pentrefol yn ystod ac wedi'r rhyfel gan feithrin doniau o bob math yr un pryd.
Rhoes y teitl O Lwyfan i Lwyfan i'r gyfrol. Clyfar, er efallai'n ei gyfyngu ei hun. Eto mae llais y dyn llwyfan yn y sgrifennu. Gallwch ei glywed yn dweud y straeon fel pe oddi ar lwyfan mewn Noson Lawen.
Straeon doniol, ffraeth, y bobl a glywodd yn ei blentyndod. Mae'n cyfadde bod ganddo gof rhyfeddol am stori dda.
Y llwyfannau
Mae'n mynd yn hwylus ar hyd y gwahanol lwyfannau yn ei fywyd - llwyfan aelwyd ei blentyndod, y pentre, Llandysul, llwyfan y cae p锚l-droed, llwyfan y noson lawen, yr Urdd, y llwyfan gwleidyddol ac amryw lwyfannau eraill nes cyrraedd y presennol.
Cafodd - neu creodd iddo'i hun - ystod eang o brofiadau. Sgrifennodd beth o wmbreth o ddeunydd ysgafn ar gyfer nosweithiau llawen y radio a'r teledu yn ogystal a'u cyflwyno a chymryd rhan ynddyn nhw.
Gwyddwn yn barod iddo fod yn b锚l-droediwr defnyddiol ac iddo chwarae i Rydaman yn Adran 1 Cynghrair Cymru ond yr hyn oedd yn newydd i mi oedd y deugain mlynedd o wasanaeth a roddodd wedi hynny yn hyrwyddo p锚l-droed ymhlith plant a phobl ifanc, yn gyntaf yn Aberystwyth ac wedyn yng Nghaerfyrddin.
Cymdeithas b锚l-droed
Gweithiodd yn ddi-d芒l am flynyddoedd yn sefydlu Cymdeithas P锚l-droed Caerfyrddin a'r Cylch a Chymdeithas P锚l-droed Ysgolion Dyfed wedyn.
Pwy all fesur gwerth darparu cyfle i fechgyn ifanc ddisgleirio mewn g锚m oedd yn fynych yn cael ei hanwybyddu gan athrawon Addysg Gorfforol yr ysgolion uwchradd.
Gadawodd swydd dysgu yn Aberystwyth yn 1972 i weithio'n amser-llawn i Blaid Cymru yng Nghaerfyrddin. Mae hanes ei brofiadau'n teithio Cymru a thu hwnt gyda Gwynfor Evans yn ddifyr a doniol.
Byddai Gwynfor yn mynd yn s芒l mewn car os nad ef ei hun oedd yn gyrru. Ac yn 么l Peter 'doedd e ddim y mwyaf diogel o yrwyr!
Diddorol cael cipolwg ar helynt Esiteddfod yr Urdd, 1969, Blwyddyn yr Arwisgo, a'r darlun o bwysigion y mudiad yn carlamu ar draws y Maes ar 么l Charles gan adael Syr Ifan ab Owen Edwards a'r Fonesig Edwards yn stablan yn y llaid. Rhyfedd o fyd.
Gwelidyddiaeth
A darllen bod gwleidyddiaeth Shir G芒r mor anwaraidd ag erioed ac na siaradodd arweinydd y glymblaid Annibynnol / Lafur, sy'n rheoli, ag ef erioed er ei fod yn arweinydd gr诺p Plaid Cymru - y gr诺p mwyaf ar y Cyngor o dipyn.
Democratiaeth leol ar ei gwaethaf.
Da cael cofio am ambell ddigwyddiad fu'n llwyddiant am ysbaid ac yna am ryw resm a ddiflannodd fel y Welsh Serenade noson o ddiddanwch Cymraeg a Chymreig a gyflwynid unwaith yr wythnos drwy'r haf gan Aelwyd Aberystwyth ar gyfer ymwelwyr 芒'r dref.
Bu'n llwyddiant mawr am rai blynyddoedd cyn diflannu. Gwir, dydyn ni ddim wedi symud ymlaen.
Ceir clod i olygyddion y papurau bro - sawl un o'r rheini gafodd wisg wen yr Orsedd am eu llafur? Cwestiwn teg.
A'r rheini fu'n brwydro am Addysg Gymraeg - "yr unig addysg ddwyieithog yw Addysg Gymraeg"!
Talcen caled
Mae Peter a Meinir wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i ardal Caerfyrddin - talcen digon caled yn bennaf gan mor elyniaethus y wleidyddiaeth. Diolch am eu brwdfrydedd a'u hegni, ac eraill tebyg iddyn nhw.
Mae'n werth darllen y gyfrol hon i sylweddoli maint y frwydr a beth ellir ei wneud.
Un sy'n rhoi a rhoi yn rhydd
O'i dalent, gwir ardalydd.