Disgrifiwyd nofel fuddugol y Fedal Ryddiaith 2009 fel un o'r ymgeision gorau yn y gystadleuaeth ers blynyddoedd lawer.
Daeth y ganmoliaeth i nofel Sian Melangell Dafydd, Y Trydydd Peth, gan un o feirniaid llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru.
Yr oedd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn siarad ar rifyn arbennig o Raglen Dei Tomos Medi 6 2009 yn trafod cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Dywedodd i'r nofel gyrraedd yr un tir aruchel a nofel Angharad Price, O! Tyn y Gorchudd a enillodd y fedal yn 2002.
Dywedodd Derec Llwyd Morgan na allai gofio darllen dim byd arall cystal yn ystod y cyfnod diweddar.
Angen golygyddion
Ond wrth ganmol mor hael ychwanegodd hefyd iddo sylwi, serch hynny, ar wendidau yn addasrwydd yr iaith yn Y Trydydd Peth.
"Hen 诺r sydd yma . . . ond fuasai hen 诺r deuddeg a phedwar ugain oed o Lyn Tegid byth yn dweud ei fod yn 'ffocysu' ar rywbeth ac mae ambell i gymhariaeth nad yw'n taro'n iawn i'r cymeriad," meddai.
Yn sgil hynny gwnaeth ap锚l dros greu gwell trefn i olygu ar lyfrau Cymraeg cyn eu cyhoeddi.
"Un peth sydd ei angen yn llenyddiaeth Cymru ydi panel o olygyddion proffesiynol caled gyda phensilau coch miniog dros ben . . . mae'n amlwg fod hon [Y Trydydd Peth] wedi cael ei golygu ond mae yna waith pellach i'w wneud . . . Mae eisiau llymder golygyddol," meddai.