Rydw i yn sgwennu stori芒u byrion weithiau, a hyd yn oed wedyn ddim yn hollol si诺r beth ydyn nhw.
Mae'r ffurf yn newid, mae arddulliau yn newid, y byd yn newid - ac wrth gwrs, rhai sgwenwyr yn aros yr un fath, yn sgwennu stori芒u ac yn sgwennu nofelau fel petai'r ugeinfed ganrif yn newyddbeth ffres.
Diolch byth nad yw Fflur Dafydd yn un o'r rheiny a diolch hefyd ei bod yn gallu cyfuno ffresni gyda sylwebaeth a threiddgarwch sy'n oesol.
Wrth blymio i mewn i'r stori gyntaf un, dyma ni yn stafell yr athrawon efo "tri dyn llychlyd a dwy fenyw sy'n edrych fel hwyaid cysetlyd..." ac mae'r cameo byr o olygfa sy'n dilyn yn crynhoi cymaint (heb s么n am roi esboniad go dda pam fod perfformiad disgyblion ysgol Cymru yn bwmblan yn yr iselfannau islaw Estonia... ).
Stori afreal yw'r gyntaf hon, Dwy Law yn Erfyn - ond efo cyffyrddiadau sy'n hollol real ac mor adnabyddus fel eu bod yn brifo.
Ar ei gorau
Mae'r awdures ar ei gorau pan fo fel hyn: yn dwyn y cyfarwydd yn sydyn i olygfa ffantas茂ol, neu yn gwneud y gwrthwyneb yn hollol, yn troi stori neu sefyllfa weddol gyfarwydd yn sydyn yn ddieithr, yn arswydus hyd yn oed.
Campwaith y gyfrol yw'r stori sy'n rhoi iddi ei theitl: mae cymaint wedi ei gywasgu i'r stori hon fel bod rhywun yn rhyfeddu mai stori fer ydyw.
Rydych yn gorffen ei darllen trwy deimlo eich bod wedi bod ar daith oes.
Anwastad ar lefel uchel!
Mae'r daith yn ddieithr weithiau ac yn aflwyddiannus yn rhai o'r stori芒u, megis Merano. Dichon ei bod yn ceisio dweud rhywbeth am ganfyddiad dieithriaid o lefydd sy'n gyfarwydd i ni, ond nid yw'n llwyddo.
Teimlais hyn yn Hollti Blew hefyd, lle mae'r sgwennu ar adegau yn rhy ymwybodol orchestol. Ond wedyn, mae Mis M锚l a'i sgwennu synhwyrus, sinistr, neu Cath Heb Glustiau, sy'n dechrau'n ddiniwed annwyl ond yn datblygu ar hyd llwybrau annisgwyl, yn adfer ffydd y darllenydd eto.
Anwastad, efallai - ond anwastadrwydd ar yr uchelfannau sydd yma.
Meg Elis