Yn y detholiad diweddaraf hwn, prynu lein mae'r awdures; gan ddyfynnu'r teitl, Prynu Lein Ddillad, ac fel y dywed yng nghofnod agoriadol y gyfrol, lein ddilllad y mae "yna d欧 yn sownd ynddi".
Wedi byw yn Llundain am ugain mlynedd a mwy, mae Hafina Clwyd a'i g诺r yn dychwelyd i Gymru. Maent yn prynu t欧 yn Rhuthun a hanes y blynyddoedd cyntaf hynny yn 'Tafwys' sydd yn y gyfrol hon.
Mae yma lu o ffeithiau - ffeithiau hanesyddol bellach - wedi eu cynnwys yn y dyddiaduron hyn, yn ogystal 芒 sylwebaeth ar ddigwyddiadau bach a mawr, sylwadau ar y Gymru oedd ohoni ar y pryd, cofnod o weithgareddau amrywiol a niferus Hafina Clwyd ei hun, ac wrth gwrs, hynt a helynt ei theulu.
Gan mai dyddiadur ydi'r cyfrwng, mae'r holl elfennau'n gymysg , fel yn y ddau gofnod canlynol o Ionawr 1982:
Ionawr 12
Go brin fod neb wedi dathlu Hen Galan heddiw gan fod pentrefi dan eira a bwyd yn mynd yn brin. Rhoi galwad i Stondin Sulwyn i ddweud y bydd Y Bedol wythnos yn hwyr ac i goroni popeth mae'r rheilffyrdd ar streic.
Ionawr 13
Damwain erchyll yn Washington pan blymiodd awyren jet i afon Potomac oedd yn llawn rhew. Lladwyd 78 o'r teithwyr. Dyna ddiwedd dychrynllyd.
Fel y gellir tybio, mae byd 'Y Pethe' yn cael lle amlwg yn y gyfrol, a chofnodir marwolaethau Caradog Prichard yn 1980, Jennie Eirian yn 1982, Alun Llywelyn-Williams yn 1988, a Gwenlyn Parry yn 1991, ymysg nifer colledion eraill.
Ac ar Chwefror 13, 1981, bu Hafina Clwyd ym mharti pen-blwydd Kate Roberts yn 90 oed: "Yn ei chadair olwyn roedd hi, yn edrych yn llwyd ond yn w锚n i gyd hefyd."
Dyddiau'r 'Faner'
Ceir tipyn o hanes cysylltiad Hafina Clwyd ag Y Bedol, papur bro yr ardal, yn ogystal 芒'i chyfnod fel golygydd Y Faner, a'i hymdrechion hi a chriw bychan i gadw'r papur ar ei draed yn wyneb problemau enbyd.
Ar Ebrill 10, 1992, wedi sawl blwyddyn o waith diflino a diddiolch ar 么l i Gyngor Celfyddydau Cymru dorri grant Y Faner, argraffwyd y rhifyn olaf:
"Nid wyf wedi maddau'r cam a wnaed 芒 ni ac rwyf yn gadael fy nesg a 'nghadair dan gicio a sgrechian."
Ac nid Cyngor y Celfyddydau'n unig a ddaeth dan lach Hafina Clwyd. Mae hi hefyd yn beirniadu rhai agweddau ar fywyd yn yr henwlad, beirniadaeth sydd bellach yn ymddangos yn ddim llai na darogan.
Dyma ddywedodd adeg Eisteddfod yr Urdd, Abergele, 1981:
". . . roedd yna rybudd amserol ar furiau un o'r pebyll yn dweud ein bod yn colli un siaradwr Cymraeg bob hanner awr. Ydy'r plant yma i gyd yn mynd i gael gwaith yng Nghymru? Yn magu eu plant i siarad yr iaith? Tybed."
Llygad ar gyhoeddi?
Mae'r dyddiaduron yn cynnwys straeon am deulu Hafina Clwyd a chofnod o'i diddordeb mewn olrhain hanes ei theulu.
Ar brydiau, mae'r dyddiaduron yn ymddangos fel petaent wedi eu hysgrifennu gydag un lygad ar y posibilrwydd o'u cyhoeddi rhyw ddydd, ond rhaid cofio, wrth gwrs, mai newyddiadurwraig ydi'r awdur.
Mae hon yn gyfrol fyrlymus, hygyrch a diddorol. Mae'r dyddiaduron, wrth reswm, yn gofnod hanesyddol erbyn hyn, ac o werth ym myd hanes cymdeithasol.
Yn ogystal, amlygir elfen o hiwmor, ac i'ch temtio i fuddsoddi'n y gyfrol, dyma bwt bach tymhorol o fis Awst 1980:
"Roedd ganddo [cefnder Hafina Clwyd] stori arall hefyd am ffermwr o ardal y Bala yn gwerthu twrci i ryw Sais a hwnnw'n cynnig pris isel ac ebe'r ffarmwr, 'What do you think it is, a roof bird?'"