N么l yn 1996 cyhoeddwyd yn Lloegr y gyfrol The Nation's Favourite Poems a fu yn hynod o boblogaidd.
Mor boblogaidd y penderfynodd Gwasg Gomer lunio cyfrol debyg yn y Gymraeg gan wahodd pobl i ddweud wrthyn pa rai oedd eu hoff gerdd.
Bu ymgyrch yn y wasg ac ar y radio i ennyn diddordeb ac yn y flwyddyn 2000 cyhoeddwyd Hoff Gerddi Cymru dan arweiniad Bethan Mair.
Cynhwyswyd cant o gerddi i gyd gyda dwy gan Gerallt Lloyd Owen ar ben y rhestr; Fy Ngwlad (Wylit, wylit, Lywelyn) ac Etifeddiaeth (Cawsom wlad i'w chadw) ac yn drydydd yr adnabyddus Hon gan Syr T H Parry-Williams.
Addawyd yr adeg hon y gallai cyfrol arall ddilyn a wele honno yn y siopau'n awr, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac wedi ei golygu gan Elinor Wyn Reynolds.
Dryslyd
Gan nad oes yr un o gerddi'r gyfrol wreiddiol yn yr ail rwy'n dirnad mai casgliad yw'r gyfrol newydd o hoff gerddi nas cynhwyswyd yn y gyfrol gyntaf achos mae'n anodd iawn meddwl y byddai pob un o'r rheini wedi llithro o fod yn ffefryn dros y deng mlynedd diwethaf.
Dan unrhyw bleidlais newydd byddai disgwyl i rai o gerddi'r gyfrol wreiddiol fod ar y rhestr hyd yn oed pe bydden nhw wedi newid eu safle o ran poblogrwydd. Byddai iddyn nhw i gyd gael eu gwrthod yn amhosib bron debygwn i.
Felly, beth sydd gennym ni yn y casgliad newydd yw hoff gerddi na chyrhaeddodd y gyfrol gyntaf neu a gyhoeddwyd ers y casgliad cyntaf - ac eto, er i bleidlais wahanol ddigwydd mae'n bosib i rai yn y casgliad newydd gael mwy o bleidlais na rhai sy'n eu rhagflaenu yn y gyfrol gyntaf!
Hei, mae hyn yn dechrau mynd yn ddryslyd a rhywun mewn peryg o fynd yn chwil, a hynny i ddim byd, wrth feddwl gormod am ypeth.
Mi fyddai hi hefyd wedi bod yn ddifyr gwybod maint y bleidlais i bob cerdd - yn y ddwy gyfrol. Ddatgelwyd mo hynny.
Dic Jones
Ta beth Cyfaill Dic Jones sydd gyntaf ar y rhestr newydd a dydi hynny, a chynnwys dwy gerdd arall ganddo, ddim yn synnu rhywun wrth gwrs o gofio'r amgylchiadau trist.
Does dim cerdd o gwbl gan Gerallt Lloyd Owen y tro hwn ond y mae gan hen ffyddloniaid fel T H Parry-Williams a'i gefnder, R Williams Parry, bresenoldeb o hyd.
Mae gan T Llew Jones sawl cyfraniad hefyd yn ogystal a beirdd mwy diweddar fel Meirion Macintyre Huws, Tudur Dylan Jones, Caryl Parry Jones a Twm Morys y mae ei gerdd ddiddorol Darllen Map yn Iawn
gyferbyn 芒 cherdd arall fyddai'n haeddu ei lle mewn unrhyw flodeugerdd, Mesur Dyn gan John Gwilym Jones. "Pan gaiff dyn ei fesur, gofynnir gan dduwNid sut y gwnaeth farw, ond sut y gwnaeth fyw."
ac yn y blaen.
Ffefrynnau
Fel ag yn unrhyw flodeugerdd y mae yma gerddi na fyddai rhywun byth yn eu dewis ei hun ac mae eraill y mae bwlch eu habsenoldeb yn amlwg iawn. Ond fel y dywed y golygydd, "Cofiwch mai gofyn i bobl ddewis eu ffefrynnau o blith barddoniaeth o bob cyfnod a wnaed nid gofyn am glasuron" sy'n awgrymu na fyddai hithau ar sail ei chwaeth bersonol wedi cynnwys pob un sydd yma. Byddai'n ddifyr ac yn bryfoclyd iddi fod wedi dweud pa rai - pe na bai ond i ddod a chydig o liw i ragymadrodd digon di-fudd.
Ond rwy'n hoffi ei phenderfyniad i gynnwys ar ddiwedd y rhagymadrodd Ymddiheuriad, soned T H Parry-Williams "i'r cerddi na cheir yma".
"Nid hyfryd ceisio'ch gollwng chi dros go'
A'ch lled-ddiarddel, wedi'r cymun maith
A ffynnai rhyngom,"
Mynegai
Ychwanegiad buddiol i'r gyfrol hon nad oedd yn yr un wreiddiol yw'r mynegai i linellau cyntaf y cerddi. Efallai y cawn fynegai awduron y tro nesaf - ac rwy'b cymryd yn ganiataol y bydd tro nesaf.
Beth bynnag, mae cerddi'r gyfrol yn rhychwantu ein heddiw a dyddiau'n barddoniaeth gynharaf gan gynnwys Henaint Canu Llywarch Hen ("Y ddeilen hon, neus cynired gwynt / Gwae hi o'i thynged! / Hi hen: eleni ganed.") ac ambell i hen bennill hefyd.
Profiad dynol
Ydi, mae Mwy o Hoff Gerddi Cymru yn flodeugerdd y byddwn i yn ei phrynu ac yn troi ati gan fod amrywiaeth ei chynnwys yn adlewyrchu yn ogystal a'n blynyddoedd, yr hyn a ddisgrifia Elinor Wyn Reynolds yn, "rhychwant y profiad dynol".<.>
"Cerdd serch, cerddi galar, cerddi cofio, cerddi gwlatgarol a cherddi digri," meddai.
Beth mwy fyddai rhywun eisiau. Mae hi a'i chymhares, Hoff Gerddi Cymru yn gwpwl cymen iawn.
Glyn Evans