91热爆

D Densil Morgan - Dyddiadur America

Llun o Barack Obama ar glawr y llyfr

18 Rhagfyr 2009

Adolygiad Aled Edwards o Dyddiadur America a phethau eraill gan D Densil Morgan. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.50.

Pleser o'r mwyaf ar drothwy'r Nadolig oedd cael cyfle i ddarllen y gyfrol fechan hon o eiddo Densil Morgan.

Ar 么l ymweld 芒'r Unol Daleithiau fy hun ddwywaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn roedd yn fuddiol darllen gwaith rhywun a gafodd ei eni yno.

Buddiol hefyd oedd darllen atgofion yr awdur wrth iddo fwynhau wythnosau olaf ymgyrch Obama for America. B没m innau yn rhan o'r ymgyrch yn yr un cyfnod.

Yn hynod ddiddorol

Yr hyn sy'n gwneud y gyfrol yn hynod o ddiddorol yw cefndir personol Densil Morgan. Fe'i hadnabyddir yma yng Nghymru yn bennaf fel Athro yn Ysgol Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor.

Y mae hefyd yn llenor da.

Yr hyn sy'n llai hysbys efallai yw iddo gael ei eni yn Ohio mewn teulu a oedd yn 么l y broliant yn "nodweddiadol o'r hen ddiaspora Cymreig".

Clawr y llyfr

Yn ei gyfrol ddiweddar fe ddywedodd Michael Mansfield ein bod yn gweld yr hyn rydym yn disgwyl ei weld ond rhinwedd fawr cyfrol Densil Morgan yw ei bod yn agor y llenni ar America nid drwy lygaid Seisnig, cyffelyb i'r rhai o eiddo Simon Schama, ond drwy lygaid Cymreig diwinydd o sylwedd sydd wedi ei eni yn yr America.

Ym mro Joseia

Mae'r gyfrol yn dechrau gydag ymweliad yn 1991 a thaith i fro Joseia. Darlunnir pentref Gomer yn Ohio yn fyw gan yr awdur.

Y mae'r lle yn byrlymu o gcyfenwau Cymreig ar dalcennau'r tai a cheir y ddraig goch wrth enw'r pentref yn cynnig "Croeso".

Eglurir i'r capel gynnal yr oedfaon Cymraeg olaf yn y pentref yn 1936 a cheir yr argraff bod hanes ieithyddol y pentref hwn yn Ohio yn dweud y cyfan am daith y Gymraeg yn hanes y rhai a ddaeth yn Americanwyr Cymreig.

Oddi yno, mae'r awdur yn neidio ymlaen i Fedi 2001 a hanes ymweliad 芒 Princeton lle ceir darlun godidog o sefydliad academaidd o fri sy'n mwynhau'r etifeddiaeth Gristnogol.

Oddi yno, fe eir ymlaen i Efrog Newydd gan gofnodi bod y maer, Rudi Giuliani yn arwr mawr yr awr wedi cyflafan "9 /11".

Felly hefyd gw欧r yr ambiwlans ac yn arbennig y dynion t芒n.

Mae Densil Morgan hefyd yn dotio at amharodrwydd addoliad eglwysi'r ddinas i ddefnyddio unrhyw ragenw gwrywaidd wrth gyfarch Duw. Dynodir yr erys lle i Gristnogaeth ym mywyd America hyd heddiw.

Yr un llwybrau

Y mae gweddill y llyfr yn cerdded yr un llwybrau. Sylwais ar yr angen i ofalu taw rhannu diddordeb yn R S Thomas, Abercynon, wnaeth y diwinydd Daniel Migliore mewn sgyrsiau ac nid "RS" y bardd. Roedd hyn o gymorth i dipyn eglwyswr dwl fel fi na chlywodd hyd yn oed am y g诺r bonheddig o Abercynon.

Fel eglwyswr, roeddwn yn adnabod un o ddiwinyddion Bangor, Margaret Thrall, a nodir yn y gyfrol fel y sawl a ysgrifennodd esboniad mawreddog ar Ail Lyfr Paul at y Corinthiaid.

Yn y llyfr hwn ar America nid yw Bangor byth yn bell. Sonnir hefyd am yr annwyl Donald Allchin. Yng nghyswllt Princeton, cafwyd crybwyll enwau mwy cyfarwydd hyd yn oed i'r glust Gymreig: James Stewart, George Shultz, Donald Rumsfeld a Brooke Shields.

Rhaid imi gyfaddef, gan wibio drwy'r llyfr, bu'n rhaid i mi gynnig addewid i mi fy hun fel ymdeithydd cyflym. Gan i mi wneud y siwrne hon ar frys, byddai'n rhaid i mi ddychwelyd i holi mwy am y llu o Gymry sy'n cael eu henwi.

Fe aeth pobl hynod o ddifyr i gyfandir arall i greu cenedl newydd. Carwn wybod mwy am y Parchedig Howell Powell o Efrog Newydd, John Williamson o Mercersburg, Llewelyn Ioan Evans o Racine a Goronwy Owen o Dolphin, Virginia.

Brwydr fawr Gettysburg

Rhaid imi gyfaddef imi gael fy ngwefreiddio gan hanes brwydr fawr Gettysburg yn Pennsylvania. B没m yno dwy flynedd yn 么l gan ddilyn manylion lleiaf y frwydr drwy dudalennau nofel odidog The Killer Angels gan Michael Schaama.

Yr unig beth o'r bron a nodir ynghylch y frwydr hon yma yw'r cyfeiriad syml at ddiddordeb Karl Barth yn Rhyfel Cartref America a chyfeiriad byr at 'Pickett's Charge'.

Peth rhyfedd yw'r hyn sy'n dal sylw diwinyddion. Gallaf ddeall diddordebau haneswyr. Byddwn innau wrth fy modd yn teithio i Oriel Celf Whitney yn Efrog Newydd i weld portread Hans Holbein o'r Syr Thomas More hwnnw a ysgogodd ysgrifennu'r ddrama fawr, A Man for All Seasons. Y mae'r darnau hynny yn y llyfr ar Virginia yn agor rhywfaint mwy ar hanes Rhyfel Cartref America.

Daliodd un peth fy sylw yn fawr.
Tra roeddwn i yn ymgyrchu'n galed ar ran Barack Obama yn San Francisco roedd Densil Morgan yn gwneud yr un modd yn Princeton a gallaf innau gofio'r dyddiau hynny pryd y trodd Sarah Palin o "fod yn feseia i fod yn j么c".

Yn wahanol i mi, fe gafodd yr awdur fwrw pleidlais dros Barack Obama. Cafwyd 2,215,422 o bleidleisiau dros Obama yn New Jersey. Llawer mwy na'r hyn a gafwyd i McCain. Ond, roedd pob pleidlais yn cyfrif.

Yn nes adref

Yn agosach at adref, cafwyd rhannu pellach ynghylch arwyr. Dwi hefyd yn cofio'r bwrlwm ysbrydol a gafwyd ym Mangor ddeng mlynedd ar hugain yn 么l o gwmpas Arfon Wyn, Harri Parri, Gwilym Ceiriog Evans a Gareth Maelor.

Dwi'n parhau i ddiolch i Dduw am y fendith a gefais innau yn ystod yr un cyfnod. Peth braf ac addas felly yw i lyfr Densil Morgan ddirwyn i ben gyda chyfeiriad at 糯yl y Diolchgarwch. Priodol yw i minnau orffen gan ddiolch am gyfrol ddigon difyr a ddygodd lu o atgofion yn 么l.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.