Singlet, tr么ns a sacrament
Cyflwynwyd y gyfrol hon o gerddi'r llenor Aled Jones Williams er cof am ei fam, Megan Williams, a fu farw yn 2008 - ond nid dyma'r unig golled y mae'r bardd yn myfyrio drosti yn y casgliad hwn.
Ac nid myfyrio yn unig, ychwaith, ond rhefru a digio hefyd. Dadlennol yw'r darlun ar glawr y gyfrol: Jacob yn Ymlafnio gyda'r Angel o ddarlun Gaugin Gweledigaeth o'r Bregeth (Oriel Genedlaethol yr Alban).
Ac yn sicr mae nifer o frwydrau mewnol ac allanol yn nodweddu'r cerddi hyn, yn ogystal 芒'r ymgais i ddarganfod y rheswm, neu efallai unrhyw reswm, dros "llongddrylliad yr hunan".
Mae'r gyfrol yn agor gydag Awelon, pryddest arobryn Eisteddfod Genedlaethol 2002, a braf yw darllen sylwadau'r bardd ei hun am y gerdd hon - a barodd gymaint o st诺r - yn y nodiadau a gynhwyswyd yng nghefn y llyfr hwn.
Ei fam
Ceir nifer o gerddi am fam Aled Jones Williams ac argraffwyd llun bendigedig ohoni yn ei hieuenctid ar gefn beic modur, pan nad oedd y bardd a'i fam, "yng nghyfnod y llun yn perthyn/ dim".
Ceir nifer o gerddi yn trafod, mewn arddull ac iaith di-flewyn-ar-dafod, alcoholiaeth y bardd, a'r oll sydd ynghlwm 芒'r clefyd hwnnw. Disgrifir yn y gerdd 'Addewidion' yr ymbil:
Wir!'Nai mo hyn eto!
Eto tu mewn i Eto
fel dol o Rwsia.
Mae gin ti gasgliad anhygoel
o fy holl Eto
ar silff dy edrychiad
arnaf.
Yn y gerdd Tybed? trafodir a gwrthodir y goel gyfleus bod goryfed rhywsut yn rhan annatod o fod yn greadigol. Cyfeirir yn y cerddi hyn hefyd at ddibyniaeth llwyr ar alcohol ynghyd ag ymateb eraill i'r alcoholig.
Corff y gyfrol yw oddeutu'r deg cerdd ar hugain sydd yn trafod a disgrifio profiad Aled Jones Williams wrth iddo golli ei ffydd. Byddai hyn yn brofiad angerddol i unrhyw un o ba grefydd bynnag sydd yn berchen ffydd gadarn ond i un sydd wedi gwasanaethu fel offeiriad:
Bellach
mae poced dlawd fy ffydd
yn gollwng
dimeiau
fy nghred
a theimlaf
gyfoeth
Gwacter.
Ond nid mater o golli ffydd yn unig yw hi: mae'r bardd, sydd mor adnabyddus i ni Gymry fel llenor, yn amau nid yn unig rym y Gair ond grym geiriau fel cyfrwng i fynegi'r hyn y mae'n ei deimlo.
Yn wir, bron y gellir dweud bod y bardd wedi colli ei hun, drwy anallu iaith i adrodd ei brofiad: "lle mor unig/ yw iaith weithiau . . .".
Annigonolrwydd iaith
Adleisir y thema hon gydol y gyfrol: y llenor yn gwirioni gydag iaith, ac yna, yn yr un gwynt bron iawn, yn ymwybodol o'i hannigonolrwydd. A gwelir hyn yn amlwg yn y gerdd sy'n rhoi i'r gyfrol arbennig hon ei henw:
Y cylchoedd perffaith
Ydw i yn ddigon gwirion
i feddwl fod geiria'
'n medru newid petha'?
Yndw! Mae'n rhaid!
Eu taflu'n gerrig
i lyn llonydd
rhyw fudandod
a gweld
y cylchoedd perffaith
yn ymestyn hyd at
ddistawrwydd
a'r aros wedyn hir
ar lan iaith.
Mae'r cerddi sy'n cloi'r gyfrol yn troi at heneiddio, at gariad wrth fynd yn h欧n, at rhyw lun ar greisis canol oed pan w锚l dyn ei hun "yn y drych ciaidd/ yn ei singlet a'i dr么ns", profiad y mae llawer ohonom yn gyfarwydd 芒 fo, ysywaeth (hyd yn oed os nad ydym yn gwisgo tr么ns gwrywaidd!).
Cignoeth a phersonol
Dyma gyfrol o gerddi cignoeth a phersonol, cerddi yn y wers rydd nad ydynt yn arddel "steil y soned/ nid c媒t y gynghanedd" ond cerddi sydd yn dadlennu anniddigrwydd ac anesmwythyd y bardd yn ei golled mewn dull sydd ar yr un llaw yn llafar ac amrwd, ac ar yr y llaw arall yn glasurol a chyfrin: dyn yn ei singlet a'i dr么ns ochr yn ochr 芒 sacrament.
Janice Jones