91热爆

Buddug James - Brenhines y ddrama

Rhan o glawr y llyfr

03 Medi 2009

Adolygiad Lowri Rees-Roberts o Buddug James - Brenhines y Ddrama. Golygydd, Andrea Parry. Barddas. 拢6.

Eistedd yn y glaw yn pysgota oeddwn i brynhawn Sul diwethaf - yn wlyb at fy nghroen ac yn erfyn am gael mynd adref er bod hynny'n syniad cwbl wrthyn i'r plant wrth iddyn nhw fwynhau dal un pysgodyn ar 么l y llall.

Clawr y llyfr

A dyma fy meddwl yn dechrau crwydro a dychwelyd i'r cyfnod hwnnw yn yr ysgol mewn siorts bach a chrys T yng nghanol y glaw ar gae coch yn chwifio fy ffon hoci a BJ - a oedd yn ei chwedegau yr adeg honno (dwi'n meddwl gan na chai neb wybod ei hoedran) - yn rhedeg o un pen i'r cae i'r llall a chodi cywilydd arnom ni, ferched yn ei harddegau.

Doedd gen i ddim diddordeb felly mewn hoci na ph锚l-rwyd ond er hynny roedd yn bwysig cael eich dewis i'r t卯m er mwyn cael crwydro gogledd Cymru yn y bws mini.

Dynes hynod

Yn bendant roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn ymweld gyda'r bws 芒 neuaddau a theatrau yn actio a manteisio ar gyfoeth byd y ddrama.

Ac yn sgil hynny y tyfodd fy nghyfeillgarwch 芒 BJ, dynes hynod yr wy'n teimlo balchder o fod wedi cael ei hadnabod hi.

A dyna falch oeddwn i o glywed bod Andrea Parry, un arall o ddisgyblion Ysgol y Berwyn wedi casglu atgofion trawsdoriad o bobl y bu i Buddug James gyfoethogi eu bywydau hwythau hefyd.

Mae'n gyfrol arbennig iawn yn llawn troeon trwstan, straeon lliwgar, cyfrif i ddeg ar adegau ond yn anad dim yn werthfawrogiad o gwmni a dylanwad gwraig unigryw.

Mae pedwar llun y clawr yn cyfleu'r cyfan un ohoni yn y siwmper fawr goch liwgar y credai rhai o'r athrawon ei bod yn ei gwisgo i'r ysgol er mwyn cythruddo'r prifathro!

Un fel na oedd Buddug. Cymeriad liwgar dim ffws - nes bod drama ar fin ei pherfformio!

Hefyd mae lluniau ohoni'n dangos i eraill sut i actio cymeriad a hynny'n procio rhagor o atgofion am fy mlynyddoedd cynnar yn Ysgol y Berwyn a hithau'n actio ar lwyfan gyda'r athrawon eraill gan wneud arwyddion gyda'i bysedd arnyn nhw - wel am g锚s!

Cyn ddisgyblion

A dyma agor cyfrol i fwynhau pytiau gan gyn ddisgyblion fel minnau, cyd athrawon, gweinidogion a ffrindiau.

Roeddwn i wedi ofni y byddai'r gyfrol yn un drist gan inni golli yn Ionawr 2006 ein harwres ond yn wir mae'n gyfrol sydd yn byrlymu o hanesion digri sydd yn peri ichi chwerthin yn uchel.

Fel y tro y gofynnodd i blismon oedd wedi ei stopio; "Do you speak Welsh?" a phan atebodd yntau nad oedd hithau'n dweud; "I have nothing to say to you then," a gyrru i ffwrdd!

Cathod

Er mai'r ddrama oedd ei phrif ddileit yr oedd hi hefyd yn gwirioni ag anifeiliaid a phob tro y byddwn yn ymweld 芒 hi byddai'r cathod Sian Elin neu Elin Sian ym mhobman yn y gegin ac yn aml iawn byddai'n cario ei ffrindiau blewog gyda hi yn y car.

Ac roedd y cathod yn cael eu trin yn urddasol yn y t欧 ac unwaith, pan fu i Andrea, ymweld 芒 hi yn ei chartref yn Dole a Menna Medi yno, fe ddarganfyddodd bod y cathod yn cael bwyta gystal a hithau hefyd.

"Croeso twymgalon fel arfer a cynnig paned a chacen. Finnau'n derbyn yn frwd ond Menna'n gwrthod! Llowcio'r gacen flasus hefo hufen arni a thra'r oedd BJ yn n么l rhywbeth neu'i gilydd Menna'n cyfaddef ei bod hi wedi gweld un o'r cathod hynny a oedd yn tisian ac yn anwydog yr olwg yn llyfu'r gacen funudau ynghynt."

Mae pawb yn cofio BJ yn Ysgol y Berwyn - y bechgyn yn cofio ei hamryfal geir y byddai'n eu newid byth a hefyd a phob un yn fwy o groc na'r llall!

"Na, doedd ceir ddim wrth fodd BJ - ond roedd fel petai rhyw ddiawlineb ynddi i gael hen gar rhydlyd, trafferthus, bob tro! Y Cortina rhydlyd brown oedd car y funud yn ystod ei blynyddoedd olaf yn Ysgol y Berwyn ac och a gwae, cafodd y car ei ddwyn a'i ddarganfod yn ochrau Amwythig.

"Ymateb BJ oedd 'Jiw jiw, shwt nath o starto mor handi iddyn nhw?' " Cofio un stori am gyfeilles iddi'n cael lifft dros Ddinas Mawddwy ac yn teimlo drafft dan ei thraed. Edrychodd i lawr a chodi'r darn pren dan ei thraed i weld tarmac oddi tanodd.

"Car y Flinstones mae'n debyg!"

Gan ddychwelyd yn 么l i fyd y ddrama, cafodd cymaint ohonom ysgogiad gan BJ i fynd ymlaen yn y maes ac yn y gyfrol gwelir rhestr o'r rhai a ddysgodd sydd bellach yn actorion.

Hi oedd y ddrama

N么l yn 1988, doedd Drama ddim yn bwnc y byddai rhywun yn cael ei astudio ar gyfer TGAU yn 么l yr arfer yn Ysgol y Berwyn ond gan fod cymaint o ddiddordeb a BJ hefyd ar ein hochor dyma ddwyn persw芒d ar ein prifathro a chael y chyfle i astudio'r pwnc.

Rwy'n cofio mwynhau Y Llyffantod, Huw Lloyd Edwards - yr unig beth dwi'n cgofio ei ddysgu yn ystod y ddwy flynedd.

Yn bendant roedd BJ yn gwybod pob dim am ddrama ac yn sgil hynny cafodd pob un ohonom a eisteddodd y pwnc A neu B. Diolch iddi wir gan na chefais i'r un A arall!

Dynes ryfeddol. "Oedd, mi oedd hi'n hwyr, yn anhrefnus, yn plygu os nad torri rheolau! Ond roedd ei chwit-chwatrwydd hi'n rhan o'r atyniad! Ond yn bennaf oll, roedd hi'n BJ, ac mi dorrwyd y mowld wedi dyfodiad y fenyw ryfeddol yma.

"Y gwir amdani yw mai hi oedd y ddrama."

Diolch am gyfrol hynod a roddodd gyfle imi eistedd yn 么l a chofio amdani a chyfrol a fydd yn peri i eraill ddod i'w hadnabod am y tro cyntaf.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.