´³Ã®²Ô¾±²â²õ
- Adolygiad Janice Jones o Ar Drywydd y Duwiau gan Emlyn Gomer Roberts. Gwasg Gwynedd. tt.298. £9.95
Nofel dditectif ddoniol oedd nofel gyntaf Emlyn Gomer Roberts, Y Ddraig Goch,ac mi wnes i fwynhau ei darllen yn fawr.
Er fy mod ychydig yn amheus o'i ail gyfrol, Ar Drywydd y Duwiau, gan nad yw cyfrolau sy'n cynnwys elfennau o ffantasi ymysg fy ffefrynnau, mae hon hefyd yn nofel werth chweil.
Yn sicr, roedd y nofel hon yn f'atgoffa o Igam Ogam, cyfrol fuddugol Ifan Morgan Jones yn Eisteddfod 2008: y cymeriadau od, y tirwedd lled ddieithr, yr ymgais i ganfod rhyw wynfyd tu hwnt, tu draw.
Hawdd ei darllen
Mae Ar Drywydd y Duwiau yn nofel swmpus ond yn rhwydd iawn i'w darllen gan ei bod wedi'i rhannu'n 104 o benodau byrion.
Ar ddechrau bob pennod dyfynnir adnod o'r Cofanct, sef llyfr sanctaidd yr hen grefydd sydd bellach ar fin cael ei ddiddymu'n llwyr gan Engral, Uwch-archoffeiriad y grefydd newydd a gaiff ei ymgorffori yn nhestun sanctaidd yr Archest.
Nid yw'r plot yn un newydd nac yn un cymhleth: yr hyn sydd yma, mewn gwirionedd, yw helfa. Mae'r pobl dda yn dianc ac yn cael eu dilyn gan y bobl ddrwg, sydd yn eu tro yn cael eu dilyn gan ragor o bobl ddrwg sydd yn y man yn dangos eu bod hwythau yn bobl dda (ar y cyfan).
Yr hyn sy'n gwneud y llyfr yn wahanol ac yn ffres yw'r cymeriadau a'r lleoliadau ffantastig sydd wedi deillio o ddychymyg yr awdur.
Heb ddifetha'r llyfr i ddarpar ddarllenwyr, gellir datgelu bod Sbargo a Lenia, mab a merch yr Uwch-offeiriad, am ddianc oddi cartref am resymau da, a hanes eu taith o balas eu Tad i gatref y duwiau ar ben Mynydd Aruthredd yw corff y gwaith.
Gosod y llwyfan
Mae'r awdur yn gosod y llwyfan llenyddol yn y ddwy bennod gyntaf ac mae'n dipyn o gamp i'r darllenydd ddygymod â'r holl enwau dieithr, megis 'y Gattws' a 'Mirael, y Ddinas Aur', heb sôn am filwyr y 'Cira Seth'.
Yna daw un o ddarnau mwyaf effeithiol y nofel ar sawl lefel wrth i Sbargo a Lenia ddianc gyda'u cyfaill, Merfus, yn 'y wagan gachu', y tri ohonynt
. . . at eu canol mewn carthion a dyn a ŵyr beth arall, tra rhowliai'r wagen yn nes at Fur Mawr y Gattws a'r Cira Seth oedd yn ei wylio.
Mae'r cymeriadau hyn, a'r cymeriadau eraill sy'n y nofel, yn rhai hynod ddiddorol, gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt yn gymysgedd gredadwy o dda a drwg fydd yn bodloni'r darllenydd.
Mae defnydd y cymeriadau hyn o iaith lafar yn cyfoethogi'r gwaith, gyda nifer o'r perlau yn dod o enau Pili, un o gyd-deithwyr Sbargo, perlau megis "[e]lla bod y Duwia'n laru ar iwsio handls drysa o hyd" a "Âáî²Ô¾±²â²õ".
Gwrthgyferbyniad llwyr i'r iaith lafar, ffraeth, a ddefnyddir gan y cymeriadau hyn yw iaith or-ffurfiol Brwgaij, iaith a fyddai'n gwneud i bregethwr cynorthwyol pum seren ymddangos fel petai'n llefaru mewn bratiaith.
Meddai Brwgaij wrth y criw cyn iddynt fentro i Fynydd Aruthredd:
"Gorffwys sydd rinwedd heddiw . . . Eich pererindod sydd eto'n faith, a rhydd gyfle i baratoi lluniaeth gogyfer â hi."
Ambell gam gwag
Ceir ambell gam gwag, megis pan fo cymeriad 'ar goll yn ei m/feddyliau', ond brychau mân iawn yw'r rhain. /p>
Fel y nodwyd, yr helfa yw prif linyn storïol y gyfrol ac mae'r awdur yn llwyddo, ar y cyfan, i gynnal y tensiwn gydol y nofel.
Petai rhywun yn dadlau bod elfen James Bond yn perthyn i'r helfa, yna yn sicr mae diweddglo'r gyfrol yn atgoffa rhywun o anturiaethau Dr Who. Nid diweddglo gor-dwt a theidi mohono, a phwy a ŵyr nad oes yma addewid am ddilyniant?
Gyda pheth dadlau ymysg beirniaid ynglŷn â dilysrwydd ac argyhoeddiad gweithiau sy'n ceisio cyflwyno realaeth trwy gyfrwng llenyddiaeth Gymraeg ei hiaith, efallai'n wir yn byddwn yn gweld mwy o awduron yn troi at genres megis ffantasi a'r cais am y man gwyn, man draw.