Canrif newydd - adeilad newydd
Tyfodd ac edwinodd sinema'r Scala ym Mhrestatyn gyda'r ugeinfed ganrif.
Ac yn awr, wele'r hen sinema lle bu'r dangosiad cyntaf o King Kong yng ngogledd Cymru, a'r gynulleidfa'n rhes hir i fyny'r stryd yn disgwyl mynediad, yn agor ei drysau eto i wynebu cyfnod newydd yn yr unfed ganrif ar hugain.
Torri tir newydd
Ac yn barod, mae'r sinema a'r ganolfan gelfyddydau sy'n gysylltiedig a hi yn torri tir newydd trwy fod y sinema gwbl-ddigidol gyntaf yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad o 拢3.5m.
Agorodd y Scala newydd gyda'i dau sgrin ei drysau ddydd Gwener, Chwefror 13, 2009 - yn dilyn wyth mlynedd hir o ymgyrchu a chodi arian.
Gyda'r adeilad yn eiddo i Gyngor Sir Ddinbych y mae ar les i Ymddiriedolaeth o ddeg o bobl dan gadeiyddiaeth y cyngorydd sir Rhiannon Hughes a fu am wyth mlynedd ar flaen y gad yn sicrhau gwireddu y cynllun presennol.
Dywedodd ei bod hi'n arbennig o falch i'r adeilad gwreiddiol gael ei adfer a bod y Scala yn parhau yn sinema stryd fawr yn hytrach nag yn un wedi ei chodi ar gyrion y dref fel cymaint o sinemau mawrion y dyddiau hyn.
"Ac mae'n arwyddocaol," meddai, " mai fel rhan o gynllun adfywio y cefnogodd y Cynulliad y cynllun ac nid un celfyddydol. Ac fe fydd y Scala yn adfywio canol Prestatyn. Mae yna frwdfrydedd mawr wedi bod am y cynllun hwn; rwy'n falch iawn ohono."
Cafwyd cyfraniadau i adnewyddu'r adeilad y bu'n rhaid ei gau yn y flwyddyn 2000 oherwydd ei fod yn beryglus gan Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Prestatyn, Y Cynulliad, Ewrop, Cyngor y Celfyddydau a'r Sefydliad Chwaraeon a Chelfyddydau - 拢3.5m o i gyd.
Mwy na sinema
Ond mae'r Scala newydd yn fwy na sinema; mae yno ddwy sgrin, ystafelloedd cyfarfod, caffi a stiwdio gyfryngau y gellir ei llogi gydag ugain o gyfrifiaduron Apple.
"Yr amrywiaeth o gyfleusterau sy'n gwneud y Scala yn arbennig meddai Peter McDermott o Gyngor Sir Ddinbych a fu'n rheolwr cysylltiol nes penodi Chhris Bond yn rheolwr parhaol.
"Mae'r pwyslais," meddai, "ar fod yn ganolfan gelfyddydau yn ogystal 芒 sinema."
Arwydd pellach o ymlyniad y gymuned leol i'r Scala, a fu'n rhan o stryd fawr Prestatyn er 1900 pan agorwyd yr adeilad, gyda th诺r cloc trawiadol, yn neuadd y dref, yw i griw brwd o 'gyfeillion' fod yn cefnogi'r gwaith dan gadeiryddiaeth Sandra Pitt a bod ugain o wirfoddolwyr wedi eu dewis i gefnogi'r saith o staff cyflogedig o ddydd i ddydd.
Cyhoeddi llyfr
Mae'r Cyfeillion yn awr yn casglu tanysgrifwyr ar gyfer cyhoeddi llyfr yn olrhain hanes y Scala gan hanesydd lleol, Fred Hobbs.
Pan gauodd drysau'r Scala yn 2000 yr oedd hi y sinema un sgrin hynaf yng ngogledd Cymru.
Yn y dyddiau cynnar, cymeriad hynod o Lerpwl, James Roberts - a newidiodd ei enw i 'Saronie' er mwyn creu argraff - ddaeth 芒 dangosiadau ffilm gyntaf i Brestatyn gyda'i wraig, Jane, a oedd yn hannu o dde Cymru ac yn ffotograffydd, yn ei helpu.
Yr oedd, heb os, yn un o arloeswyr lliwgar y sinem芒u cynnar ac yn dangos ffilmiau mewn awditoriwm o fewn neuadd y dref i ddechrau.
Does dim amheuaeth nad oedd Saronie's Electric Pictures yn dra phoblogaidd ac erbyn 1913 yr oedd wedi troi'r neuadd yn sinema a'i galw yn 'Scala' - enw poblogaidd ar sinem芒u y cyfnod hwnnw.
Yr oedd milwyr yng Ngwersyll Cinmel heb fod ymhell i ffwrdd yn gynulleidfa barod a sicrhaodd lwyddiant ei fenter ac ehangwyd yr adeilad i ddal 400 o bobl ddechrau'r Tridegau.
Yma y dangoswyd y ffilm boblogaidd King Kong gyntaf yng ngogledd Cymru yn 1933!
Bu Saronie yn byw ei weledigaeth tan 1963 pan werthodd y Scala i Gyngor y Dref, bedair blynedd cyn ei farwolaeth yn 1967. Mae ei fedd ef a'i wraig ym mynwent eglwys Gallt Melyd gerllaw.
Hynt y blynyddoedd
Ymhlith cerrig milltir yr hen sinema y mae:
- Dangos y ffilm liw gyntaf yn 1915.
- Dangos y ffilm siarad gyntaf fis Mawrth 1930.
- Ehangu a moderneiddio'r sinema yn 1930
- Derbyn gwobr Can Mlynedd o Sinema y Sefydliad Ffilm Prydeinig yn 1996 am ddangos ffilmiau yn ddidor er 1910.
- Tynnu t诺r cloc yr adeilad i lawr yn 1964.
- Gorfod cau'r adeilad oherwydd ei fod yn beryglus yn y flwyddyn 2000 - How the Grinch stole Christmas y ffilm olaf i'w dangos yno.
- Sefydlu mewn cyfarfod cyhoeddus yn 2001 Grwp Ymgynghorol y Scala.
- Sefydlu Cyfeillion y Scala - Mawrth 2001.
- Y Cynulliad yn addo grant o 拢1.5m yn 2005.
- Tachwedd 2006 Cyngor tref Prestatyn yn cyfrannu 拢1 miliwn.
- Mawrth 2007 yn dilyn cefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych dechrau ar y gwaith adeiladu.
- Chwefror 13, 2009, agor yr adeilad newydd trwy ddangos Bolt, Slumdog Millionaire a Valkyrie.
Ar adeg pan fo cymaint o s么n am sinem芒u bychain yn cau yr oedd dydd Gwener Chwefror 13 - er gwaethaf y dyddiad - yn un o gryn bwys yn nhref Prestatyn - gweler Blog 'Cylchgrawn'.