Cymru Wyddelig Ford
Er bod How Green Was My Valley yn cael ei hystyried y ffilm enwocaf erioed am Gymru mae hi ymhell o fod yn Gymreig meddai un beirniad ffilm.
Yn ei llyfr, Cyfaredd y Cysgodion - Delweddu Cymru a'i Phobl ar Ffilm, 1935 - 1951 dywed Gwenno Ffrancon o Brifysgol Abertawe mai gwerthoedd a meddylfryd Gwyddelig sy'n britho How Green was my Valley gan adlewyrchu cefndir Gwyddelig-Americanaidd y cyfarwyddwr, John Ford.
"Mae'n gwbl amlwg," meddai, "mai ffilm am Gymru drwy lygaid a lleisiau Gwyddelig a gynhyrchwyd yn y diwedd . . . A dyma un o'i diffygion pennaf."
Ychwanega:
"Ar lawer ystyr, nid ffilm am Gymru ydyw o gwbl" gan ei chyhuddo o fod "yn sarhad ar y Cymry a ddioddefasai galedi enbyd ym mhyllau glo y cymoedd."
Carthu budreddi ac anharddwch
Dywed i Ford garthu "pob budreddi ac anharddwch" o'r stori ar gyfer y sgr卯n fawr.
Dewisodd hefyd actorion "O bob cenedl heblaw Cymru" i gymryd rhan yn y ffilm sydd, i lawer ar hyd a lled y byd, yn eicon o Gymru'r pyllau glo ac o Gymreigrwydd.
"Yr unig actor o Gymro a ddaeth ar gyfyl y set oedd Rhys Williams, brodor o Glydach a ddenwyd o Broadway lle'r oedd yn perfformio yn nrama Emlyn Williams, The Corn is Green. Fe'i dewiswyd i chwarae rhan y bocsiwr Dai Bando a'i siarsio i hyfforddi gweddill y cast i ynganu fel gwir Gymry," meddai Gwenno Ffrancon.
Er gwaethaf ei fedrusrwydd dihafal fel ffilmiwr, arwyddion o ddiffyg crebwyll Ford o Gymreictod go iawn y cyfnod yw fod jig Wyddelig cwbl anghymreig yn cael ei dawnsio mewn un olygfa.
"Ond yr enghraifft fwyaf chwerthinllyd o ddiffyg gwybodaeth y cyfarwyddwr a'i griw . . . am Gymru yw'r setiau a seiliwyd ar sgetsys o 'Cerrig Ceinnen a Clyddach-cum Tawe, Rhondda'! Lleolwyd canolbwynt y pentref, sef y lofa, yn anghredadwy ar ben bryn gyda'r tai yn swatio'n daclus yn ei chysgod.
"Ac er bod yr olygfa o'r glowyr wedi diwrnod caled o waith yn ymlwybro'n llawen o'r lofa yn ddigon hoffus, y mae ei rhamant yn sarhad ar y Cymry a ddioddefasai galedi enbyd ym mhyllau glo y cymoedd diwydiannol."
Rhy foethus
Ymhlith camgymeriadau "elfennol" eraill mae'n nodi set fewnol bwthyn y Morganiaid sy'n fwy na'r set allanol gydag ystafelloedd llawer rhy eang gyda ffenestri mawrion ac yn cynnwys dodrefn rhy foethus.
Y canlyniad yw "darluniau afreal" o'r Cymry fel "simple, primitive people".