91热爆

Golygfa o'r ffilm

01 Ebrill 2011

Dau o Gymru yn ffilm ddiweddaraf Woody Allen

12Tair seren allan o bump

  • Y S锚r: Naomi Watts, Anthony Hopkins, Josh Brolin, Antonio Banderas, Gemma Jones, Pauline Collins a Lucie Punch.
  • Cyfarwyddo: Woody Allen.
  • Sgrifennu: Woody Allen.
  • Hyd: 98 munud

Tipyn o siom

Adolygiad Lowri Haf Cooke

You Will Meet a Tall Dark Stranger (12) 3 seren

Os ewch chi i weld ffilm ddiweddara Woody Allen yn y gobaith o brofi campwaith ffraeth gan athrylith mae gen i ofn mai siom ddirfawr sydd o'ch blaen.

Ond os ewch i'w gweld heb ddisgwyl dim, mae'n debyg y cewch brofiad go ddymunol - agwedd yn wir, sy'n adlewyrchu thema gyffredinol y cynhyrchiad You Will Meet a Tall Dark Stranger.

Mae'r ffilm yn dilyn hanes dau gwpwl o Lundain; Helena (Gemma Jones) ac Alfie Shebritch (Anthony Hopkins), a'u merch Sally (Naomi Watts) a'i g诺r Roy Channing (Josh Brolin).

Y mae Alfie wedi gadael ei wraig i gael mwynhau ail ieuenctid gydag "actores" ifanc o Essex o'r enw Charmaine (Lucie Punch), tra bo Roy yn cael trafferth sgwennu ei ail nofel wrth freuddwydio am gymdoges bert o'r enw Dia (Freida Pinto) ac yn gwrthod ystyried cael plant gyda'i wraig Sally, sy'n ffansio'i bos Greg - a chwaraeir gan Antonio Banderas.

Ers i'w g诺r ei gadael, mae'r Helena fregus yn llwyr ddibynnol ar gyngor seicig o'r enw Cristal (Pauline Collins), gan goelio bob gair ddaw o'i genau - sefyllfa sy'n destun sbort i bawb o'i chwmpas.

Ond wrth i ddisgwyliadau'r lleill droi'n ddim dros nos, oes na sail i synnwyr cyffredin Cristal?

Ffyliaid breintiedig

Stori seml iawn sydd wrth wraidd You Will Meet a Tall Dark Stranger, ac fel pob ffilm arall gan Woody Allen, mae'n dilyn criw o ffyliaid breintiedig, gyda rhai'n fwy hoffus nai'i gilydd.

Mae'n debyg mai'r cymeriad mwyaf hoffus y tro hwn yw cymeriad canolog Sally, a chwaraeir gan Naomi Watts - a fagwyd yn rhannol ger Llangefni cyn mudo i Awstralia yn ei harddegau canol, ac sy'n serennu mewn thriller reit dda o'r enw Fair Game ar y funud.

Mae'n help mawr fod Sally - mewn cymhariaeth 芒'i g诺r atgas, ei mam ofergoelus, a'i thad sy'n gwbl na茂f - yn gymeriad call ond mae'n wir hefyd fod Naomi Watts yn llwyddo i gyflawni gwyrthiau 芒 sgript go simsan, gan olygu mai hi ydy'r cymeriad rydym yn uniaethu fwyaf 芒 hi.

Wedi dweud hynny, does na ddim byd diflas ym mherfformiadau'r gweddill - fel y dywedwyd eisoes, mae'n ffilm hawdd iawn i'w gwylio os nad y'ch chi'n disgwyl gormod.

Ac, yn wir, mae Anthony Hopkins am unwaith yn hyfryd o hamddenol fel y ff诺l dwl sy'n rhy ddall i gydnabod y gwir.

Ond mae peidio 芒 disgwyl gormod o ffilm gan Woody Allen bron yn gwbl amhosib pan gofiwch am orchestion fel Manhattan ac Annie Hall - ffilmiau oedd yn wefreiddiol o wreiddiol ar ddiwedd y Saithdegau gan diffinio genre y gomedi ramantus cwyrci a deallus i'r dim ac ysbrydoli llu o efelychwyr gan gynnwys y cynhyrchiad ffantastic Submarine, sydd allan nawr.

Methu yn Llundain

Yn dilyn ymweliad llwyddiannus 芒 Barcelona ar gyfer Vicki Cristina Barcelona yn 2009, mae'n biti garw gweld Woody Allen yn dychwelyd i Ludain - lleoliad ei fethiannau mwyaf hyd yma, sef Match Point (2005), Scoop (2006) a Cassandra's Dream (2007).

Am ryw reswm, yn wahanol i Bar莽a a'r Afal Mawr, fedrith Allen yr auteur ddim amgyffred 芒 Llundain fel lle go iawn sy'n gartre i gymeriadau difyr o gig a gwaed.

Mae fel petai iddo dreulio gormod o amser yn ymwelydd 芒 Wimbledon a'r Serpentine, gan feddwl y gall gosod hen sgript s芒l mewn lleoliad dymunol ei throi'n gynhyrchiad a hanner.

Ac wrth gwrs fel "sgwennwr gyfarwyddwr" hollalluog, sy'n dal i ddenu haid o actorion o bwys, does ganddo neb wnaiff feiddio dweud wrtho nad yw cynnwys troslais o Tribeca a chlasuron cerddorol o Tin Pan Alley yn addas mewn ffilm a leolir yn Notting Hill.

Dydw i'n sicr ddim yn galw ar Woody i fynd i chwilota am gasgliad o oreuon Chas 'n Dave. I'r gwrthwyneb yn llwyr gan mai fy ngreddf i yw erfyn arno i afael unwaith eto ym mwyniant Manhattan.

Ond mewn difri calon; oes na unrhyw beth tristach na mynychu comedi gan Woody Allen, dim ond i adael yn ail asesu cyfraniad Richard Curtis i fyd y Sinema?

N么l i Nolita 芒 chi Mr Allen, er ein lles ni gyd!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.