- Y S锚r: Robert Pattinson; Kristen Stewart, Taylor Lautner, Michael Sheen.
- Cyfarwyddo:
- Sgrifennu: Addasiad Melissa Rosenberg o'r nofel New Moon gan Stephanie Meyer.
- Hyd: 131 munud
Rhwng fampir a blaidd
Adolygiad Lowri Haf Cooke.
O'r diwedd, dwi'n deall yr holl ffys am K-Stew ac R-Pat, a'r holl gwestiynu a ydyn nhw efo'i gilydd ai peidio yn y byd go iawn, a hefyd pam bod rhai'n gwisgo crysau t yn dweud Team Jacob ac eraill yn ochri ag Edward
'R么l gwylio New Moon, dwi'n teimlo i mi gael fy nhrawsblannu yn syth n么l i gyfnod fy arddegau. A wyddoch chi be, nid drwg o beth fo hynny!
Yn wir, taswn i dal yn fy arddegau a newydd rasio adre o'r sinema yn un corwynt o horm么ns i sgwennu llith am y cynhyrchiad dan sylw, does gen i ddim amheuaeth y baswn i wedi dyfarnu pum seren yn ddi-gwestiwn i New Moon, ac wedi sgwennu llythyr i'r Western Mail i gwyno am feirniadaeth lem eu fogey o adolygydd- fel y gwnes yn wir, yn 15 oed, am ffilm gwbl wahanol.
Fodd bynnag, gan fy mod yn nes at fy nhri deg nag at fy nhair ar ddeg, gwell fyddai pwyllo ac ystyried y ffilm yn wrthrychol, ac anwybyddu unrhyw ddelweddau hanner noeth o Eward Cullen neu Jacob Black ddaw i'r meddwl.
Wedi gwirioni
Mae gen i ffrindiau - merched, yn bennaf, ddylai wybod yn well - sydd wedi gwirioni ar y saga wirion hon am fleiddiaid a fampirod ac arwres anwadal o'r enw Bella Swann, a teg deg dweud i mi ddiddymu eu diddrodeb fel fetish ffuantus am yn hir.
Ond rywust neu'i gilydd, llwyddodd un ohonynt i'm perswadio y dylwn i roi cyfle i'r gyfres felly ffwrdd 芒 fi i'r siop DVDs leol i hurio'r ffilm gyntaf yn nhrioleg Stephanie Meyer, Twilight, er mwyn cael deall New Moon yn iawn.
Rhaid i'r profiad hwnnw brofi'n llwyddiant ysgubol, gan imi neidio i'r car yn syth ar 么l gwylio er mwyn dal y dangosiad nesaf o New Moon ar y sgrin fawr!
Yn hudo
A rhaid dweud - serch stori hurt a chwbl dros-ben-llestri ac actio sydd braidd yn brennaidd ar adegau - yn enwedig yn achos R-Pat - ces fy hudo'n llwyr gan arddull cwyrci iawn y cynhyrchiad, sy'n cynnwys effeithiau arbennig annisgwyl o dda, trac sain trydanol, a stori sy'n clymu elfennau gorau Buffy The Vampire Slayer gydag un o fy hoff gyfresi teledu erioed, Twin Peaks.
Os nad y'ch chi'n gyfarwydd 芒'r ffilm gyntaf a'i rhamant arteithiol rhwng Bella Swann (Kristen Stewart) - merch ifanc sy'n symud i fyw at ei thad yn nhref Forks, yn nhalaith lawog Washington yng ngogledd orllewin yr Unol Daleithiau - ac Edward Cullen (Robert Pattinson), mab i'r teulu lleol o fampirod llysieuol - mae New Moon yn cyflwyno'r syniad nad oes dyfodol i'r garwriaeth oherwydd eu teimladau cryfion (och!), a bo rhaid i Edward symud i ffwrdd gyda'i deulu, er lles Bella.
Yn naturiol, dydy'r ferch benstiff ddim yn gweld hyn fel aberth arwrol ac mae'n treulio'r rhan fwyaf o'r ail ffilm yn pwdu bob yn ail a fflyrtio gyda'i ffrind bore oes, Jacob Black; bachgen hollol buff, sy mor ystyriol - yn wir, y dyn perffaith ar ei chyfer.
Heblaw, hynny yw, am y ffaith ei fod yntau'n anghenfil hefyd, yn aelod o lwyth o Indiaid brodorol sy'n deillio o fleiddiaid dychrynllyd. Mae bywyd mor annheg weithiau.
Gelynion pennaf
Yn naturiol, mae'r Bleiddiaid a'r Fampirod sydd ddim yn llysieuwyr yn elynion pennaf a chawn ddigon o gyfle i brofi sawl ffrae ddramatig rhyngddynt, sy'n arwain Edward i glywed am berygl newydd i fodolaeth ei unig gariad, a'i gamarwain at bencadlys rhyngwladol y Fampirod yn yr Eidal, i erfyn am gymorth gan eu harweinydd llygatgoch hynod sinistr, Aro (Michael Sheen).
Heb feiddio yngan yr un gair arall i sbwylio hwyl yr anffodusion hynny sy'n dal heb weld New Moon (Hel么, lle da chi wedi bod? Torrodd y ffilm bob record ar ei diwrnod cyntaf yn yr Unol Daleithiau!) digon yw dweud y bydd na drydedd ffilm, Eclipse, i gloi'r antur enbyd unwaith ac am byth, ac i dawelu meddyliau pawb yngl欧n 芒 phwy fydd dewis terfynol Bella Swann - Edward, a'i lygaid pruddglwyfus ynteu Jacob a'i twelve-pack trawiadol.
Pa grys?
Mi fydda i'n sicr, os nad ym mlaen y ciw i weld Eclipse yn 2010, yno yn rhywle - ond pa grys T fydda i'n ei wisgo erbyn hynny sy'n gwestiwn arall.
Mae'n hawdd colli pwyll, ac anghofio bod na drydydd dewis hollol amlwg - oni fyddai Bella'n well heb ddynion sy'n mynnu ei bod yn dewis rhyngddynt ac yn treulio bach o amser yn dysgu hoffi'i hun yn lle syrthio am suicide-chic dragywydd?
Ond wedyn, mae angen rhywle i bobol ifanc (o bob oed) gael hyrddio'u hormonau, onid oes?
Teg dweud i'r gynulleidfa o nghwmpas i sgrechian a llesmeirio yn y mannau cywir ac i minnau golli ambell i gyfeiriad, diolch i nonsens y naratif sy'n glynu'n agos at steil sgwennu reit rwysgfawr yr awdures Stephanie Meyer.
Ond ar y cyfan dyma teen-flick gwahanol iawn i'r arfer, sydd 芒 swm sylweddol o steil, os nad cymaint a hynny o sylwedd.