91热爆

Fireflies in the Garden

15Dwy  seren

  • Y S锚r: Ryan Reynolds, Willem Dafoe, Julia Roberts, Emily Watson, Carrie Ann Moss, Hayden Panettiere, Shannon Lucio a Ioan Gruffudd.
  • Cyfarwyddo: Dennis Lee.
  • Sgwennu: Dennis Lee yn dilyn cerdd Robert Frost .
  • Hyd: 99 munud

Teulu ar chwal

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Portread o deulu ar chw芒l sydd yn Fireflies in the Garden - ffilm gyntaf y sgwennwr-gyfarwyddwr Dennis Lee.

Mae iddi gast diddorol a golygfeydd hyfryd o wastatiroedd Austin, Texas, ond caiff y stori sy'n cyffwrdd 芒 galar dwys, atgofion plentyndod, sgerbydau teuluol a maddeuant, ei llethu'n llwyr gan strwythur diflas ac ystrydebol.

Mae'r ffilm yn dechrau gyda nofelydd pigog, Michael Waechter (Ryan Reynolds) yn teithio adref am aduniad teuluol - achlysur prin iawn mae'n debyg ond y tro hwn seremoni raddio ei fam, Lisa (Julia Roberts) yw'r rheswm am yr ymweliad.

Ar gyrraedd adre gyda'i chwaer Rayn (Shannon Lucio ) caiff Michael ei groesawu gan olygfa frawychus - damwain car, a marwolaeth ei annwyl fam a hynny'n troi'r aduniad yn gynhebrwng sy'n gorfodi'r cymeriadau, dros y dyddiau nesaf, i wynebu hen sgerbydau a derbyn nifer o wirioneddau.

Hen gartref

Cynhelir y cyfan yn hen gartre'r teulu, lle mae eu modryb Jane (Emily Watson) yn byw gyda'i theulu hithau. Ond mae presenoldeb bygythiol sydd yn dal i daflu cysgod dros y teulu cyfan ym mherson patriarch sinistr, Charles (pwy arall ond Willem Dafoe?) - Athro Saesneg yn y brifysgol leol.

Trwy gyfres o 么l-fflachiadau i lencyndod Michael ceisia'r cyfarwyddwr ddatgelu gwreiddiau'r tyndra annioddefol sy'n bodoli rhyngddo ef a'i dad. Tyndra sy'n dal i liwio ei sgwennu, ei briodas 芒'i wraig alcoholig Kelly (Carrie Ann Moss), a'i atgofion am ei angyles o fam.

I gymhlethu pethau ymhellach, ceir cameo annisgwyl gan Ioan Gruffudd, fel Addison - athro yn yr un adran 芒 Charles a thiwtor personol Lisa pan oedd hi'n fyw.

Tybed oes ganddo ef wybodaeth pellach all fod o gymorth i Michael gael y darnau o'i fywyd ynghyd?

Straeon da heb eu datblygu

Mae stori dda yngl欧n 芒 phob un o'r cymeriadau hyn mewn gwirionedd ond yr hyn sy'n siomedig yw na ddatblygir yr un ohonyn nhw'n iawn a hynny'n ein gadael yn teimlo nad ydym yn adnabod yr un ohonynt yn iawn oherwydd y penderfyniad i ganolbwyntio ar brif stori arwynebol a phrif gymeriad syrffedus o hunan-dosturiol.

Tydy cymeriad y bwgan o dad, er enghraifft, ddim yn un teg iawn mwy nag yw modryb Jane sy'n cael cryn sylw yn yr 么l-fflachiadau.

Anesboniadwy yw'r penderfyniad i gastio'r sex-bomb Hayden Panettiere - sydd fwyaf adnabyddus fel un o arwresau'r gyfres deledu Heroes - fel chwaer fach fachgennaidd Julia Roberts. Yn achos y ddau gymeriad yma awgrymir llawer ond hynny'n arwain at ddim byd yn y pen draw.

Wedyn, does gan Rayn, chwaer fach Michael, braidd ddim i'w wneud gydol y ffilm mwy nag sydd gan Kelly ei wraig alcoholig.

Ac er mor braf yw gweld Ioan Gruffudd yn cael defnyddio ei acen ei hun am unwaith mewn rhan gymharol naturiolaidd, mae e'n diflannu o'r stori megis ar amrantiad.

Rhannol fywgraffyddol

Yn wir, yr argraff a adawodd y ffilm arnaf i oedd ei bod yn addasiad aflwyddiannus o un o'r llyfrau hynny sydd 芒 sticer clwb llyfrau Oprah neu Richard a Judy ar eu cloriau a'r sgwennwr gyfarwyddwr wedi gorfod cyfaddawdu trwy ganolbwyntio ar stori'r prif gymeriad ar draul saith cymeriad arall.

Siom arall oedd darganfod mai sgript wreiddiol yn seiliedig ar hanes rhannol fywgraffiadol Lee ei hun ydy Fireflies in the Garden, felly does dim modd esgusodi'r diffygion hyn.

Mae wastad yn ddifyr ceisio dychmygu sut ar wyneb daear y llwyddodd sgwennwr-gyfarwyddwr cwbl ddibrofiad ddenu cymaint o enwau mawrion i dderbyn rhannau mor ddi-ddim yn y lle cynta.

Un posibilrwydd yw, bod ymddangos mewn drama deuluol lawn emosiwn gyfystyr 芒 pherfformio off Broadway am dymor i rai o'r enwau dan sylw; Hayden Panettiere, er enghraifft, neu Ryan Reynolds - g诺r newydd Scarlett Johanssen.

Dyma actor golygus sydd wedi profi llwyddiant mewn sawl comedi ramantaidd yn ddiweddar ond sy'n amlwg eisiau ymestyn ei gyhyrau creadigol bach mwy.

Tynnu at Julia

Ond i fod yn hollol sinigaidd, dwi'n credu mai'r prif gyfrinach i lwyddiant Dennis Lee gyda'r ffilm hon oedd ei benderfyniad i ddefnyddio g诺r seren anferthol fel cyfarwyddwr ffotograffiaeth y ffilm, sef Danny Moder, neb llai na Mr Julia Roberts - actores sy'n dal yn enw digon disglair i annog pryfaid Hollywood i heidio ati, beth bynnag fo safon y sgript.


Mwy

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.