Actorion: Michelle Pfeiffer, Rupert friend, Kathy Bates a Felicity Jones.
Cyfarwyddo: Stephen Frears.
Sgrifennu: Christopher Hampton.
Hyd: 95 munud.
Serch a ffafrau
Adolygiad gan Glyn Evans
Geiriau olaf un y ffilm hon sy'n ysgwyd rhywun. Yn sodro rhywun i'w sedd. Yn brawychu.
Gyda'r fath ddiweddglo y cwestiwn sy'n rhaid ei ofyn yw; A yw'r ffilm yn cyfiawnhau yr awr a hanner o ddisgwyl amdanynt?
Ffilm yw hi wedi ei sylfaenu ar gymeriadau dwy nofel gan yr awdures Ffrengig a sgrifennodd Gigi pan oedd yn ei saithdegau yn 1945; Colette - sef Sidone-Gabrielle Colette wrth ei henw llawn.
Mae'r ffilm a'r gyntaf o'r nofelau yn ymwneud â chariad sy'n tyfu rhwng cyn butain bonheddwyr o'r enw Léa (Michelle Pfeiffer) a llanc ifanc afradlon a diorffwys, Fred, sy'n cael ei adnabod fel °ä³óé°ù¾± (Rupert Friend).
Mae Léa yn cael ei pherswadio gan Madam Peloux (Kathy Bates), mam Cherie, i gymryd ei mab afradlon 19 oed dan ei hadain i'w addysgu mewn materion serch.
Ond yn groes i'r disgwyl mae'r ddau yn syrthio mewn cariad go iawn gan orfodi Madam Peloux, sydd ei hun yn gyn butain neu courtesan, yn cynllwynio i chwalu'r berthynas.
Gwewyr y ddau wedi eu hamddifadu o gariad ei gilydd yw testun gweddill y ffilm.
Bywyd lliwgar
Mae'r ffilm - fel y nofel °ä³óé°ù¾± a gyhoeddwyd yn 1920 - yn ymwneud â safle merched mewn cymdeithas yn gymaint â phoenau serch ac mae'n ymwneud â bywyd yr oedd Colette yn gyfarwydd iawn ag ef. Diau ei bod yn lled hunangofiannol gan iddi hithau gael bywyd lliwgar a dweud y leliaf.
Blodeuai Colette fel awdur yn ystod yr un cyfnod ag awduron cyfnod sy'n cael ei adnabod fel yr un belle epoque yn Ffrainc - yr 'oes brydferth' o'i gyfieithu. Cyfnod Marcel Proust, Jean Cocteau, Andre Gide ac eraill.
Cyhoeddodd dros hanner cant o nofelau i gyd a'r rheini'n adlewyrchiad o'i bywyd anghionfensiynol a lliwgar ei hun gan gychwyn gyda rhai a gyhoeddodd yn ei hugeiniau dan enw ei gŵr cyntaf, Henri - Monsieur Willy - Gauthier-Villars bymtheng mlynedd yn hŷn na hi.
Y cychwyn oedd pedair nofel hynod lwyddiannus dan ei enw ef rhwng 1900 a 1903 am anturiaethau merch ifanc yn ei harddegau,Claudine, gan ddod a budd mawr iddo.
Ond arweiniodd ei anffyddlondeb ef at ysgariad ac yn 1906 trodd Colette at y theatr a dawnsiau rhywiol ar lwyfan. Un ohonynt mor awgrymog nes arwain at reiat yn y Moulin Rouge
Profodd sawl perthynas rywiol gan gynnwys perthynas â merched eraill cyn iddi briodi golygydd Le Matin yn 1912, ei hail o dair priodas .
Ar gyrion cymdeithas
Rhoddai yn ei llyfrau bwys mawr ar ddarlunio safle'r ferch nid yn unig mewn cymdeithas ond mewn perthynas garwriaethol hefyd.
Mae llawer o'i 'harwyr' yn bobl llac eu moesau ac yn byw ar gyrion cymdeithas rhywbeth sy'n wir am °ä³óé°ù¾± gyda Léa wedi ennill ei bywyd moethus a'i chrandrwydd drwy buteinio - ond bod geiriau llai amrwd na 'phutain' i'w disgrifio hi a'i thebyg mewn Ffrangeg nes rhoi gwedd bron a bod yn 'barchus' iddi.
Ac un o'r pethau anghyffredin am y stori hon - ond cwbl nodweddiadol o Colette - yw mai'r dyn ac nid y fenyw sy'n amhrofiadol mewn materion serch.
O ran dialog mae'r ffilm yn atgoffa rhywun o ddramâu Oscar Wilde wrth i ferched gripio'i gilydd yn ddidrugaredd gyda geiriau teg a gwenau gelyniaethus.
Mae'r sgyrsiau rhwng Léa a Peloux yn hyfrydwch pur.
Moethus ac ysblennydd
O ran ei golwg hefyd mae'r ffilm yn drwch o foeth gyda golygfeydd mewnol moethus a golygfeydd allanol ysblennydd yn enwedig y panoramau o gefn gwlad Ffrainc ac o hyfrydwch Biaritz.
Ychwanegir at y naws gan y 'storiwr' sy'n symud y stori yn ei blaen ac ef sy'n tanio'r frawddeg olaf ysgytwol yna.
Mae'n deg dweud fod popeth yn gwneud ichi fod eisiau mwynhau'r ffilm hon - ond er popeth sydd o'i phlaid rhyw ddeg mae hi'n daro yn hytrach na deuddeg ac mae hynny'n siom o'r mwyaf.
Mae'n drueni na chyfunodd yr holl elfennau rhagorol i greu campwaith a dydi Pfeiffer na Friend ddim yn argyhoeddi'n llwyr gyda'i gilydd.
Ond mae hi yn ffilm digon anghyffredin i'w gwneud yn un gwerth mynd i'w gweld ac heb ei hymestyn yn ormodol o ran hyd.