91热爆

Rhys Ifans: 'Anonymous'

Rhys Ifans yn 'Anonymous'

31 Hydref 2011

Lowri Haf Cooke yn adolygu 'Anonymous' - ffilm afaelgar gyda Rhys Ifans a'i damcaniaeth am awduraeth gweithiau Shakespeare

12Pedair seren allan o bump

  • Y S锚r: Rhys Ifans, Vanessa Redgrave, David Thewlis, Rafe Spall, Jamie Campbell Bower, Mark Rylance a Joely Richardson.
  • Cyfarwyddo: Roland Emmerich.
  • Sgrifennu: John Orloff.
  • Hyd: 130 munud

Prif ran i Rhys Ifans

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Yn dilyn gyrfa o gipio sawl ffilm fawr dan drwynau s锚r di-ri mae'n wych gweld Rhys Ifans yn cael ei benodi i'r brif ran, a hynny mewn blocbyster blasus sy'n herio hanes.

Bwriad Anonymous o'r cychwyn cyntaf yw corddi'r dyfroedd, wrth gyflwyno'r syniad - a heuwyd yn nyddiau Victoria ac sy'n dal i hudo nifer - nad William Shakespeare oedd yn gyfrifol am y geiriau y daeth yn enwog amdanynt.

Yn hytrach, priodolir ei weithiau i gyd i fonheddwr a chanddo reswm da dros aros yn anhysbys; Edward de Vere, ail Iarll ar bymtheg Rhydychen sy'n cael ei chwarae yn rhagorol gan y Cymro carismataidd yn y ffilm hon, fel dyn dewr, dysgedig, a chanddo gariad at y gwir, at gelf - ac at ei Frenhines, Elizabeth y Cyntaf (Vanessa Redgrave).

Yn anffodus, y mae hefyd yn ddyn sy'n gaeth i gymhlethdodau gwleidyddol y cyfnod ac, fel nifer o aelodau'r Llys Brenhinol ar droad yr 16eg ganrif, yn ofni am yr olyniaeth ac yn amau uchelgais Prif Gynghorydd y Frenhines, William Cecil (David Thewlis), a'i fab cefngrwm a gwenwynig, Robert (Edward Hogg).

Fel bardd, dramodydd a noddwr hael, daw de Vere i gredu mai dim ond un dewis sydd - rhaid cael cefnogaeth y bobol.

A'r fordd orau o sicrhau hynny yw cyhoeddi ei ddram芒u ysgubol ac ysbrydoledig - sy'n dychanu'r rhai mewn grym ac yn diddanu'r dorf Lundeinaidd, anllythrenog, yn wythnosol - dan enw anhybys.

Hap a damwain

Trwy hap a damwain, daw'r gweithiau hyn i ddwylo un o actorion mwyaf hurt a hunanbwysig y cyfnod, Will Shakespeare (Rafe Spall); mab i wneuthurwr menig sy'n medru darllen ers ei ddyddiau mewn ysgol ramadeg yn Stratford Upon Avon ond sy'n da i ddim am sgwennu.

Serch hynny, mae wrth ei fodd cymryd y cl么d am y dram芒u poblogaidd, gan gorddi luvvies eraill y byd theatr, yn eu plith; Ben Jonson (Sebastian Armesto) a Christopher Marlowe (Trystan Gravelle o Drimsaran) a'r gwleidyddion dichellgar.

Ond am ba hyd gellid celu'r gwir?

Am bron i hanner mileniwm yn 么l y cyfarwyddwr Roland Emmerich, sydd - fel Sigmund Freud, Mark Twain a Charlie Chaplin - gant y cant o'r farn nad y bardd o Stratford oedd yn gyfrifol am sgwennu rhai o'r dram芒u enwocaf erioed ac felly aeth ati i gynnig achos cryf dros yr hawliwr amlycaf i weithiau Shakespeare.

Mae'r ffaith, wrth gwrs, fod cymaint o'r ffilm yn ffuglen bur wedi codi nyth cacwn ymhlith haneswyr, ysgolheigion a chynghorwyr Stratford Upon Avon sydd yn gandryll fod Hollywood yn cael gwyro'r ffeithiau i bardduo eicon o'r fath, heb s么n am ddwyn sen ar ddiwydiant sy'n cynhyrchu biliynau o bunnau yn ei enw'n flynyddol.

Ond barn nifer - gan gynnwys Rhys Ifans - yw na all ffilm o'r fath ond ysbrydoli mwy o bobol i ailafael yng ngweithiau'r bardd, a phenderfynu drostyn nhw eu hunain.

Dewis annisgwyl

Y mae'r Almaenwr Emmerich, sy'n gyfrifol am flocbysters enbydus fel Independence Day (1996), The Day After Tomorrow (2004), a 2012 (2009) yn ddewis annisgwyl iawn i lywio thriller gwleidyddol hanesyddol ond yn sylfaenol mae ei arbenigedd ym maes effeithiau arbennig yn sicrhau bod Anonymous yn ffilm gyfnod hynod gyffrous ac iddi dro gwych tua'r diwedd.

Serch ei hyfdra a'i heresi honedig, mae Emmerich yn gosod y gweithiau eu hunain yn ganolog i'r ffilm sy'n golygu bod sawl golygfa eiconig o Henry V, Romeo & Juliet a Richard IIIyn dod yn fyw o'n blaenau wrth i'r camera grwydro i bob cornel o'r theatr, a chofnodi perfformiad rhagorol gan yr actor llwyfan Mark Rylance sydd, fel Roland Emmerich a Derek Jacobi - y stor茂wr sydd yn fframio'r ffilm - ymhlith yr "anffyddwyr".

O gofio mai adloniant pur yw ffilm o'r fath yn hytrach na dogfen hanesyddol gellir mwynhau Anonymous yn fawr a'i chymharu 芒 llwyddiannau eraill sydd wedi'u "hysbrydoli" gan hanes, gan gynnwys The Da Vinci Code a hyd yn oed Shakespeare in Love - ffilm a gipiodd gymaint o wobrau ym 1998, ac a oedd hefyd yn ffrwyth dychymyg.

Yn wir, serch popeth - gan gynnwys dewis Rafe Spall i chwarae'r dyn o Stratford fel cymeriad Smithy o Gavin and Stacey - does dim dwywaith mai teyrnged wyrdro毛dig i waith Shakespeare yw Anonymous yn y b么n.

Rhys yn drydanol

Ac mae Rhys Ifans yn drydanol fel y bonheddwr sy'n geidwad i galon y Frenhines.

Mor braf ei weld yn ymryson ag actorion o statws , gan gynnwys David Thewlis - cyn-bartner ei gariad diweddara Anna Friel a gyd-actiodd ag ef yn Mr Nice a Harry Potter and The Deathly Hallows; Rhan 1- a chael chwarae'r romantic lead yn hytrach na'r collwr cwyrci eto fyth.

Fodd bynnag, nid yw ond teg pwysleisio nad Rhys ei hun sy'n myd i'r afael 芒'r hen Bess, gan ei fod yn rhannu ei gymeriad ag actor ifanc, Jamie Campbell-Bower - un o nifer o actorion sydd yn hoelio'r sylw gydol y ffilm. Ef sy'n hudo fersiwn iau o'r frenhines, a chwaraeir gan ferch Vanessa Redgrave, Joely Richardson, i'r gwely.

Yn wir, mae'r ffilm mor orlawn o gymeriadau mae hi'n hawdd drysu yn y deng munud cyntaf a dyw 么l fflachiadau o fewn 么l fflachiadau ddim yn helpu'r achos chwaith. Felly, beth bynnag wnewch chi, peidiwch 芒 chyrraedd yn hwyr.

Ond diolch i stori ganolog gref, effeithiau ysgytwol ac actio tan gamp mae Anonymous yn ffantastig ac yn cydio tan yr eiliad olaf wrth grynhoi'r benbleth oesol o "fod neu beidio 芒 bod" yn achos Shakespeare. Dyna'r dewis. I'r dim.
Lowri Haf Cooke


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.