Ffurfiwyd y band 'indie' Gymraeg poblogaidd yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst yn ystod yr 80au cynnar.
Bu'r band yn gigio'n gyson ar draws gogledd Cymru a phan ryddhawyd Pum Munud ac Yr Haint yn senglau, tyfodd poblogrwydd y gr诺p - a sylw'r cyfryngau Cymraeg.
Yna, o dan oruchwyliaeth a chymorth eu hathro Tony Schiavone, llwyddodd yr hogiau i ryddhau cas茅t o'r enw Dan y Cownter a werthodd fel t芒n.
Roedd eu poblogrwydd yn amlwg ac yn ystod 1987 ymunodd y gr诺p 芒 label Sain gan ryddhau EP chwe thrac o'r enw Y Testament Newydd.
Yn 1988 gadawodd y drymiwr Dylan Hughes y band er mwyn ymuno 芒 gr诺p Yr Anrhefn, ac yn ei le doth Mark Kendall.
Yn ystod yr un flwyddyn rhannodd y band lwyfan gyda The Alarm gan berfformio o flaen 1,500 o bobl ym Mae Colwyn.
Penderfynodd y gr诺p i ryddhau EP arall o'r enw Y Cyrff, ond y tro hwn o dan eu label eu hunain. Yr EP hwn oedd yn cynnwys y trac 'Cymru, Lloegr a Llanrwst sydd bellach yn cael ei ystyried yn glasur o anthem.
Doth y label Ankst yn gartref recordio i'r band yn 1989 a llwyddwyd i boblogeiddio enw'r band y tu allan i ffiniau Cymru fach.
Yn 1991 rhyddhaodd y band eu LP gyntaf Llawenydd Heb Ddiwedd a dderbyniodd ganmoliaeth fawr yng Nghymru a thu hwnt.
Er holl lwyddiant Y Cyrff, gwahanodd y band yn 1992. Rhyddhawyd 'Mae Ddoe yn Ddoe', sy'n cynnwys goreuon y band o'r 80au hyd nes iddynt wahanu.
Wedi hynny, aeth dau aelod o'r Cyrff - Mark Roberts a Paul Jones - ymlaen i brofi enwogrwydd byd-eang gyda Catatonia.
Yn 2005, rhyddhawyd cyfrol adolygol o waith Y Cyrff, sef Atalnod Llawn 1983-9. Cynhalwyd tair gig i ddathlu'r achlysur yng Nghaerdydd, Llundain ac yn Llanrwst gydag artistiaid megis Kentucky AFC, Alun Tan Lan, Dan Amor a Jen Jeniro yn chwarae caneuon Y Cyrff.
Roedd yn ddigwyddiad melys ac eto'n chwerw, gan fod y digwyddiad wedi ei gynnal bron pum mlynedd ers marwolaeth gitarydd Y Cyrff, Barry Cawley.
Ffion Angharad Williams
Newyddion
Sesiynau Newydd!
Chwefror 22, 2006
Gig Llanrwst ar C2
Hydref 1, 2005
Gig Llanrwst ar C2
Hydref 1, 2005
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
91热爆 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.