T欧 Gwydr oedd grwp dawns arloesol y 90au cynnar, ddaeth ag ysbryd 'rave' o'r clybiau Prydeinig i'r sin Gymraeg.
Gareth Potter a Mark Lugg oedd cnewyllyn y grwp, y ddau wedi bod yn ffrindiau ers eu plentyndod a'u blynyddoedd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Wedi bod mewn nifer o grwpiau ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Clustiau Cwn (pan roedd Gareth ond yn ei arddegau), Traddodiad Ofnus a Pop Negatif Wastad, ffurfiodd y ddau T欧 Gwydr adeg Eisteddfod Genedlaethol 1990 yng Nghwm Rhymni, sef milltir sgwar y ddau ohonynt.
Gyda rhyddhau'r sengl 12" Yr Unig Ateb ar label Ankst y flwyddyn honno, sefydlodd y grwp steil weledol gref dan ddylanwad yr arlunydd Lugg a gan ddefnyddio ymadrodd y zeitgeist, "REU!" (ar fenthyg gan eu ffrindiau o'r Gogledd) llusgwyd cerddoriaeth ddawns Gymraeg o'r s卯n glybio danddaearol i gynulleidfaoedd y Cymry Cymraeg.
Byr-hoedlog oedd y grwp, ond gydag un caset, Effeithiol a chwpl o senglau 12" eraill yn ystod y cyfnod 1990-1992, llwyddodd Lugg a Potter danio s卯n sydd yn dal i fodoli hyd heddiw.
Er bod y grwp wedi dod i ben yn swyddogol ym 1994 mae Potter yn DJo o hyd, a Lugg yn parhau i fod y person mwya c诺l a welodd yr SRG erioed.
Ian Cottrell
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
91热爆 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.