"Cerddor sy'n mynd yn erbyn y llif gyda syniadau, egni a melod茂au di-ri, mae Mr Huw yn un o wir gymeriadau'r s卯n danddaearol' - Huw Stephens
Yn wreiddiol o Chwilog ger Pwllheli, 'roedd Mr Huw (neu Huw Owen) yn aelod o'r band poblogaidd Kentucky AFC Bellach yn artist unigol, cyhoeddodd ei albwm cyntaf Llond Lle o Hwrs a Lladron yn 2008 ac enillodd ei ail albwm, Hud a Lledrith wobr Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau RAP 91热爆 Radio Cymru yn 2010. Yn yr un flwyddyn enillodd e a'i fand Wobr RAP am Sesiwn Fyw y flwyddyn ar C2.
Yn recordio pob dim ei hun ar '8 track' ymhlith llu o beiriannau cyntefig eraill, mae Hr Huw yn cyfuno curiadau electroneg gyda sain garw a melod茂au pop cofiadwy.
Wedi'i gynhyrchu yn hollol annibynnol, dirty north walians / gogleddwyr budur yw'r gwaith cyntaf i Mr Huw ryddhau yn Saesneg yn 2010 ac mae ei ddull recordio wedi esblygu unwaith eto wrth ei chynhyrchu.
Mae'n parhau i wthio'r ffiniau, gan gyfuno a threfnu offerynnau, melod茂au a geiriau'n effeithiol gyda chryn ddychymyg, synnwyr digrifwch tywyll a mynegiant cerddorol grefftus.
Newyddion
Tyrfe Tawe 2007
20 Medi 2007
Noson John Peel
Hydref 12 2006
Sesiynau
Mr Huw
11 Rhagfyr 2006
Mr Huw
Ionawr 18, 2006
Adolygiadau
Adolygiad CD Maffia Mr Huws
08 Medi 2008
Beth yw barn yr adolygwyr am Maffia Mr Huws - Croniclau'r Bwthyn?
ICA, Llundain
6 Mawrth 2008
Gig yn Llundain gyda Radio Luxembourg, Genod Droog, MC Mabon, Mr Huw a mwy.
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
91热爆 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.