91热爆

Edward H Dafis

Ffurfiwyd Edward H Dafis gan Dewi Morris o Abertawe, gynt o'r Tebot Piws, a Hefin Elis o Bort Talbot, cyn-aelod o'r Datguddiad, Y Nhw a'r Chwyldro. Ymunodd John Griffiths o Bont-rhyd-y-fen ar y git芒r bas, ac wedyn Charli Britton o Gaerdydd, drymiwr sesiwn gyda Hergest a nifer o grwpiau eraill.

Aelodau

  • Dewi Morris: Llais, git芒r
  • Hefin Elis: Git芒r, allweddellau
  • John Griffiths: Bas
  • Charli Britton: Drymiau

Discograffi

  • Hen Ffordd Gymreig O Fyw (Sain) 1974
  • Ffordd Newydd Eingl Americanaidd Gr锚t O Fyw (Sain) 1975
  • 'Sneb Yn Becso Dam (Sain) 1976
  • Yn Erbyn Y Ffactore (Sain) 1979
  • Plant Y Fflam (Sain) 1980

Casgliadau Pwysig

  • Edward H. Mewn Bocs (Sain) 2005

Rhyddhawyd un EP i Sain ym 1973 ac ymddangosodd un trac, Can Y Stiwdants ar yr albwm fyw Tafodau T芒n.

Erbyn Hen Ffordd Gymreig O Fyw (Sain, 1974) roedd Cleif Harpwood (gynt o Ac Eraill) wedi ymuno fel prif leisydd. Dyma albwm cyntaf Edward H, ac roedd yn garreg filltir yn hanes canu roc a phop Cymraeg.

Roedd Ffordd Newydd Eingl Americanaidd Gr锚t O Fyw (Sain, 1975) braidd yn siomedig, ac roedd e'n amlwg bod y gr诺p wedi colli ffordd rhywsut, ond roedd 'na uchafbwyntiau, fel c芒n Dewi Morris Lisa Pant Ddu.

Mae mwy o hanes y ferch ifanc o gefn gwlad yn cael ei adrodd ar 'Sneb Yn Becso Dam (Sain, 1976). Hon yw record hir gorau'r band heb os nac oni bai. Chwalodd y gr诺p ar 么l cyngerdd ffarwel yng Nghorwen ar yr 11eg o Fedi 1976.

Atgyfodwyd y band ym 1978 mewn cyngerdd yn Nhalybont, a rhyddhawyd Yn Erbyn Y Ffactore (Sain, 1979) sy'n cynnwys y bytholwyrdd Ysbryd Y Nos.

Erbyn Plant Y Fflam (Sain, 1980) roedd s诺n y band wedi troi braidd yn slic ac yn saff. Penderfynwyd chwalu ar 么l perfformio yn Llanbadarn Roc ar yr 11ef o Orffennaf 1981.

Cyhoeddwyd casgliad o waith y gr诺p yn 2005, Edward H Mewn Bocs.

Gari Melville

Newyddion

Goreuon Edward H a mwy

Medi 29, 2005

Goreuon Edward H a mwy

Medi 29, 2005

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

91热爆 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.