"Melod茂au bachog, canu efelychiadol, hapus er weithiau'n felancolaidd, ac awgrym o ganu gwerin, mae gan gerddoriaeth Al set o gynhwysion na all fethu cyffroi chwaeth cerddorol y gwrandawr achlysurol." (David Harry)
Mae presenoldeb Al Lewis Band yng Nghymru ac ar donfeddi radio Cymreig yn amlwg iawn ers eu llwyddiant yn cipio'r ail wobr yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2007 gyda'r trac angerddol, Llosgi.
Yn wreiddiol o Bwllheli, mae Al bellach yn byw yn Llundain ond yn dal i berfformio'n gyson yng Nghymru gyda'r band sy'n cynnwys Arwel Lloyd Owen sydd hefyd yn perfformio o dan yr enw Gildas.
Rhwng 2007 a 2008 rhyddhawyd dwy EP yn y Gymraeg gan y band sef Byw mewn Breuddwyd a Dilyn pob Cam. Yna cododd proffil y band wrth berfformio mewn gwyliau fel S诺n, Sesiwn Fawr, Maes B a Wakestock, ynghyd 芒 rhaglenni teledu fel Bandit a Nodyn. Mae'r band hefyd yn cyfrannu'n gyson ar sesiynau C2 91热爆 Radio Cymru.
Rhyddhawyd albwm cyntaf y band Sawl Ffordd Allan yn 2009 gan gynnwys y g芒n boblogaidd Gwenwyn a pherfformiwyd gan y cawr cerdd ei hun, Meic Stevens.
Wedi iddo rhyddhau ei albwm Saesneg cyntaf, In the Wake (ALM, 2010), daeth y cyfle i Al i fod yn artist y mis i'r cwmni Caffe Nero, gan sicrhau dechreuad prysur i 2011 wrth deithio ledled Prydain yn canu mewn caffis.
Yn 2011 rhyddhawyd yr ail albwm Cymraeg Ar Gof a Chadw. A'r tro hwn Elin Fflur yw'r artist gwadd sy'n cyfrannu i'r trac Hafan. Dyma flwyddyn dda i Al gan iddo ennill y wobr 'Artist Gwrywaidd y flwyddyn' yng Ngwobrau RAP 91热爆 Radio Cymru .
Newyddion
Be fydd ar eich Stereo eleni?
Ionawr 4, 2007
Sesiynau
Sesiwn Acwstig Al Lewis Band
04 Ebrill 2011
Sesiwn acwstig Al Lewis Band ar gyfer rhaglen Huw Stephens.
Caneuon Nadolig Sesiwn C2
Caneuon Nadoligaidd 芒 recordiwyd yn arbennig i C2.
Adolygiadau
Erthyglau
Eisteddfod yr Urdd 2008
Nid corau, llefaru a dawnsio gwerin yn unig welwch chi yn Eisteddfod yr Urdd eleni - mae Magi Dodd a Glyn Wise yn crwydro'r maes!
Al Lewis
3 Gorffennaf 2007
Al Lewis
3 Gorffennaf 2007
Eraill
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
91热爆 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.