91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Mawrth y gwrthod a'r gwerthu

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Teledu a Tai H芒f

'Roedd y teledu yn dal i fod yn rhan o'r chwyldro technolegol. Pan gyrhaeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol aelwydydd Cymru mewn lliw am y tro cyntaf erioed o faes Rhydaman ym 1970 'roedd cyfnod arall ar fin dechrau. 'Allai'r iaith Gymraeg dim camu'n hyderus i'r ganrif nesaf heb fod yn rhan o'r chwyldro technolegol byd-eang hwn. Credai llawer y gallai technoleg seinio cnul yr Iaith neu ei hachub. Poethodd yr ymgyrch i gael sianel deledu a gwasanaeth radio annibynnol i Gymru.

Daeth buddugoliaeth sicr i'r ymgyrchwyr ar ddechrau'r saithdegau pan sefydlwyd Pwyllgor Crawford i archwilio'r posibiliad o roi'r bedwaredd sianel deledu i Gymru. Buddugoliaeth arall yn yr un flwyddyn oedd penderfyniad y Llywodraeth i gyfnewid yr arwyddion uniaith Saesneg am rai dwyieithog.

'Roedd yr arwyddion newydd yn adlewyrchu'r sefyllfa ddwyieithog ym mhentrefi gwledig Cymru erbyn dechrau'r saithdegau. T^y haf oedd un t^y ymhob pump yn Ll^yn ac Eifionydd, dau o gadarnleoedd y Gymraeg. Tra gallai mewnfudwyr cyfoethog afforddio ail gartref mewn gwlad estron, ni allai llawer o'r brodorion ifanc afforddio'u t^y cyntaf yn eu gwlad eu hunain. Hyn a boenai Alan Llwyd, ynghyd 芒 pharodrwydd rhai Cymry i elwa o werthu eu hetifeddiaeth, yn ei awdl fuddugol 'Llef dros y Lleiafrifoedd yn Eisteddfod Rhuthun, 1973.

'Llef dros y Lleiafrifoedd'...

 

Radio a Teledu

 
 

'Llef dros y Lleiafrifoedd'

 Nid yw'r hil ond hil halog, - nid hil wen
        Ond hil lofr a thaeog;
     Wele genedl y geiniog
     Yn byw'n llwfr gan dderbyn llog.

 芒'u llawlyfr am Bwllheli - daeth rhyw haid
       O dwristiaid drosti,
   Haid aliwn i'n didoli
    A lladd ein hiaith 芒'i hiaith hi.

Ond er bod Cymru'n colli tir mewn rhai mannau, 'roedd yn ennill tir yn raddol mewn mannau eraill. Buddugoliaeth i'r ymgyrchwyr o blaid cael y bedwaredd sianel deledu i Gymru oedd argymelliad Pwyllgor Crawford ym 1974 i sefydlu sianel Gymraeg. Camodd Plaid Cymru ymlaen pan etholwyd dau o'i hymgeiswyr yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Chefror yn yr un flwyddyn.

Byddai'r ddau yn dri oni bai am dair pleidlais, ond collodd Gwynfor Evans ei sedd yng Nghaerfyrddin i Gwynoro Jones. Er i'r Blaid Lafur ennill y sedd honno, 芒 mwyafrif bychan, collodd ychydig o dir yng Nghymru. Enillodd Gwynfor Evans Gaerfyrddin yn 么l yn ail Etholiad Cyffredinol y flwyddyn. Gyda'r s么n am sianel yn y gwynt, 'roedd angen ffrwyno brwdfrydedd a meithrin talentau, i brofi i'r byd y gallai gwlad fechan fel Cymru gynnal ei gwasanaeth teledu ei hun.

Ennill Tir...



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy