Cryfhawyd cenedlaethodeb Prydeinig gan y Rhyfel. 'Roedd W. J. Gruffydd ac eraill yn ofni y gallai Lloegr ennill y Rhyfel, a Chymru ei cholli. Poenai'r cenedlaetholwyr y gallai'r
ifaciwis Seisnigo'r ardaloedd Cymreg. Rhoddodd y 91热爆 derfyn ar y gwasanaeth rhanbarthol i Gymru. Sefydlwyd y Pwyllgor Cenedlaethol er Diogelu Diwylliant Cymru ym mis Rhagfyr 1939. Yn Eisteddfod Hen Golwyn unwyd y Pwyllgor Diogelu ag Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Cymraeg, er mwyn gwarchod diwylliant a Chymreictod. Galwyd y mudiad newydd yn Undeb Cymru Fydd, a cheisiai gadw cysylltiad 芒 Chymry a weithiai yn Lloegr, a thrwy gael yr holl Gymry alltud i dderbyn cylchgrawn yr Undeb, Cofion Cymru. Brwydrodd y mudiad yn erbyn bwriad y Swyddfa Ryfel i eddiannu mynydd Epynt, ond collwyd y frwydr, a chwalwyd cartrefi 400 o drigolion Mynydd Epynt. Erbyn 1945, 'roedd deg y cant o dir Cymru yn eiddo i'r Swyddfa Ryfel.
Er bod cenedlaetholdeb a Chymreictod ar drai yn ystod y Rhyfel 'roedd Eisteddfod Hen Golwyn yn un Gymreigiadd iawn, ac yn brawf fod yr ^Wyl yn gallu llwyddo fel g^wyl uniaith, Derbyniodd Saunders Lewis groeso brwd gan y Cymry ym Mhrifwyl 1941, ar 么l ei wrthsafiad a'i garchariad.
Dyddiau ola'r Dewin
Areithio o blaid y cenhedloedd bychain a wnaeth Lloyd George yn Hen Golwyn, heb weld fod ei genedl fach ei hun yn colli tir: 'Yr ydym yn cyfarfod ar achlysur un o'r rhyfeloedd mwyaf enbyd yn hanes y byd er mwyn arbed dinistr y cenhedloedd bychain. Bu dau ryfel yng nghwrs y ganrif hon i arbed cenhedloedd bychain rhag cael eu difrodi.
Cenhedloedd bychain, yn Ewrop ac yn Asia, ac y mae wedi ei brofi bod cyndynrwydd mewn cenedlgarwch. Goroesodd y rhai hyn y rhyfel mwyaf a fu yn hanes y byd. Wedi i'r rhyfel fynd heibio daethant allan o catacombs gormes ers cenedlaethau a chanrifoedd. Llamasant mewn undeb a chytgord i'r goleuni yn llawn ysbrydiaeth, eiddgarwch, gwlatgarwch a brawddgarwch yn genhedloedd cyfain. Profwyd fod cenedlgarwch yn anfarwol, a bod cenhedloedd bychain yn codi eto ar 么l cenedlaethau uwch bedd y gorthrymydd'.
Y bwriad oedd cynnal Eisteddfod 1942 yng Nghaerfyrddin ond oherwydd y Rhyfel bu'n rhaid ei symud i Aberteifi. 'Rhyfel' oedd un o destunau cystadleuaeth y Gadair yn Aberteifi ond 'doedd neb yn deilwng. Enillwyd y Goron gan fyfyriwr ifanc o'r enw Herman Jones. Dewisodd y testun 'Ebargofiant' a lluniodd gerdd a oedd yn s么n am aberthu ieuenctid y gwledydd ar allor rhyfel ac aeth yn 么l i Gatr路eth. Daeth ag atgofion byw yn 么l i un o'r beirniaid. Gwelodd Cynan eto nad oedd meirwon y Rhyfel Mawr wedi marw. 'Ni sonnir yn y bryddest am ein dyddiau ni fel y cyfryw ond y mae ei harwyddoc鈥檇 yn ddigon eglur i unrhyw dad a fu trwy uffern y rhyfel ddiwethaf os cyrhaeddodd ei fab erbyn hyn 'oedran milwrol,' ' meddai.
ymlaen...
|