91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod              Bro Madog

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Margaret Thatcher yn ennill ei thrydydd Etholiad Cyffredinol.
  • Keith Best, A.S. Tor茂aidd M么n, yn cyfaddef ei fod wedi gwneud aml-gais anghyfreithlon am gyfranddaliadau BT, ac yn cael ei arestio a'i anfon i garchar am bedwar mis.
  • Yn Llangadog bu farw pedwar wedi i dr锚n ddisgyn oddi ar bont a oedd wedi ei hysgubo i ffwrdd gan lifogydd.
  • Terry Waite yn cael ei herwgipio yn Beirut gan yr Hezbollah.
  • Eglwys Loegr yn pleidleisio i ganiat谩u merched i fod yn offeiriaid.
  • Trychnineb Zeebrugge, y llong Herald of Free Enterprise yn suddo a thua 200 yn boddi.
  • Michael Ryan yn saethu 16 o bobl yn Hungerford.
  • Yr SDP yn penderfynu ymuno 芒'r Rhyddfrydwyr.
    Neil Kinnock yn rhybuddio cynhadledd y Blaid Lafur fod rhaid ailfeddwl ynghylch polis茂au.
  • Daethpwyd i adnabod Hydref19 fel 'Black Monday' pan gollwyd 50 biliwn o'r farchnad stoc.
  • Yr IRA yn ffrwydro bom ac yn lladd 11 yn ystod gwasanaeth coffa yn Enniski llen.
  • Y Llywodraeth yn cyhoeddi'r bwriad i gyflwyno Treth y Pen o Ebrill 1990.
  • T芒n yng ngorsaf danddaearol King's Cross yn Llundain a 30 yn marw.
  • Daeth cynhyrchu haearn yn Nowlais i ben wedi 228 o flynyddoedd.
  • T卯m rygbi Cymru yn dod yn drydydd yn y gystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf.
  • Honnir fod hwiangerddi yn llawn 'ageism, sexism a racism'. Cwmni Macdonald yn penderfynu tynnu cyfeiriadau at 'golliwogs' du o straeon Noddy.
  • Wynford Vaughan Thomas, Andy Warhol, Andr茅s Segovia, Jacqueline du Prey, Liberace, Rudolf Hess, Danny Kaye a Fred Astaire yn marw.

Archdderwydd               Emrys

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Llanw a Thrai'
Enillydd: Ieuan Wyn
Beirniaid: Gerallt Lloyd Owen, Moses Glyn Jones, Gruffydd Aled Williams
Cerddi eraill: Yr ail oedd Robat Powel, Prifardd cadeiriol y flwyddyn flaenorol. Eraill yn y gystadleuaeth: Cyril Jones ac Aled Rhys Wiliam.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Mae'r awdl hon yn mynd 芒 ni yn 么l i gychwyn y ganrif wrth i Ieuan Wyn ystyried eto y dioddefaint a fu yn Nyffryn Ogwen yn ystod Streic y Penrhyn. Mae'n cofio am aberth y merched a fu'n gefn i holl ymdrechion eu g^wyr a'u meibion, y merched a fu'n dioddef y cyni yn dawel. Yn agos at ddiwedd canrif, pan oedd safonau byw a gwaith wedi gwella tu hwnt i holl obeithion yr ymgyrchwyr cynnar, 'roedd Ieuan Wyn yn ein hatgoffa nad oes ystyr i fuddugoliaethau heddiw na llwyddiannau yfory heb gofio am frwydrau ddoe. Yr hyn a geir yn yr awdl yw'r meddyliau a'r myfyrdodau a ddaw iddo wrth glirio t^y ei daid a'i nain, ac mae hi'n awdl gref, yn enwedig mewn mannau.

Y Goron

Testun: Casglaid o gerddi ar y thema 'Breuddwydion'
Enillydd: John Gruffydd Jones
Beirniaid: Bobi Jones, E. G. Millward, John Roderick Rees

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Cawsom ein hatgoffa am yr ail dro yn Eisteddfod Bro Madog am ein dyled i'r gorffennol. Yn ei gerdd 'Arras' mae John Gruffydd Jones yn mynd 芒 ni yn 么l i ffosydd y Rhyfel Mawr, a gwelwn eto nad yw'r meirw wedi marw. Mae'r Rhyfel yn gwaedu yn y cof o hyd, a chenhedlaeth yn cofio cenhedlaeth. Cofiodd John Gruffydd Jones am ei dad yn ymladd yn Arras. Casgliad o gerddi crefftus, gwych.

Y Fedal Ryddiaith

Cyfres o stor茂au byrion cyfoes
Enillydd: Margiad Roberts (Sna'm llonydd i' ga'l!)

Tlws y Ddrama

Drama hir
Enillydd: Neb yn deilwng
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy