91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod         Ynys M么n

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Margaret Thatcher yn ennill yr Etholiad Cyffredinol.
    Nifer o etholaethau yng Nghymru yn codi i 38, a'r Tor茂aid yn ennill 14 ohonynt.
  • Neil Kinnock yn arweinydd y Blaid Lafur. Dyma'r pumed aelod seneddol Cymreig i arwain y Blaid.
  • Dafydd Elis Thomas yn Llywydd Plaid Cymru.
  • Roy Jenkins yn ymddiswyddo fel arweinydd yr SDP.
  • Gorfodaeth ar yrwyr i wisgo gwregys diogelwch.
    Y 91热爆 yn cychwyn darlledu teledu brecwast, ac ITV yn dilyn gyda TV-am.
  • Penodi Ian MacGregor yn bennaeth y Bwrdd Glo.
  • Hyd at 400,000 yn protestio yn Llundain yn erbyn taflegrau Cruise. Miloedd o ferched yn ffurfio cadwyn brotest 14 milltir rhwng Comin Greenham, Aldermaston a Burghfield.
  • Dwy orsaf radio annibynnol arall yn agor, Sain Y Gororau yn Wrecsam a Gwent Broadcasting yng Nghasnewydd.
  • Cychwyn cystadleuaeth 'Cardiff Singer of the World'.
  • Dechrau cylchrediad y darn arian 拢1.
  • Richard Llewellyn, Balthazar Johannes Vorster, Jack Dempsey, George Cukor, Tennessee Williams, William Walton, Arthur Koestler, Kenneth Clark a Ralph Richardson yn marw.

Archdderwydd               James Nicholas

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Ynys' neu 'Efnisien'
Enillydd: Einion Evans ('Ynys')
Beirniaid: Gerallt Lloyd Owen, Gwilym R. Tilsley, Geraint Bowen
Cerddi eraill: W. R. P. George yn ail gan ddau o'r beirniaid; Mathonwy Hughes.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Awdl dyner er cof am ferch dalentog y bardd, Ennis. Yr 'ynys' yn yr awdl yw 'Ynys Hiraeth'. Ynddi y ceir y llinellau syfrdanol:

Yma mae mynwent i'w mam a minnau,
un 芒'i phob diwrnod yn Sul y Blodau.
Yn y tawelwch bydd i'r petalau
eu llond o siarad lle nid oes eiriau ...

Dyma'r gyntaf o'r gyfres o awdlau marwnad a gafwyd yn yr wythdegau. Enillodd brawd Einion Evans, T. Wilson Evans, y Fedal Ryddiaith yn yr un Eisteddfod.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Clymau'
Enillydd: Eluned Phillips
Beirniaid: James Nicholas, Dr John Gwilym Jones, Nesta Wyn Jones
Cerddi eraill: John Gruffydd Jones.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Nid Margaret Thatcher oedd yr unig fenyw i fod ar ei hennill wedi rhyfel y Malvinas, ond fe gymerodd Eluned Phillips agwedd dra gwahanol i agwedd ymffrostgar y Prif Weinidog. 'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.

Y Fedal Ryddiaith

Nofel fer
Enillydd: T. Wilson Evans (Y Pabi Coch)

Tlws y Ddrama

Drama hir 
Enillydd: William Owen
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy