91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod             Machynlleth

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Y 'gang o bedwar', Shirley Williams, Bill Rogers, David Owen a Roy Jenkins, cyn-aelodau o'r Llywodraeth Lafur, yn ffurfio plaid newydd, y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol, yr SDP. Naw aelod seneddol yn eu dilyn. Y blaid newydd yn ffurfio cynghrair gyda'r Rhyddfrydwyr.
  • Cyhuddo Peter Sutcliffe, y 'Yorkshire Ripper', o lofruddio 13 o ferched.
  • Charles a Diana Spencer yn priodi.
  • 26,000 o lowyr yn mynd ar streic. Mrs Thatcher yn addo ychwanegiad cyflog.
  • Terfysgoedd yn Brixton a nifer o drefi drwy Brydain.
  • Terfysgoedd yn Belfast wedi i Bobby Sands, Francis Hughes, Ray McCreesh a Patrick O'Hara ymprydio hyd farwolaeth.
  • Gorymdaith y di-waith yn cerdded o Lerpwl i Lundain.
  • Gwasaneth telegram i ddod i ben.
  • Norman Tebbit yn cynghori pobl i ddilyn esiampl ei dad a mynd ar eu beiciau i chwilio am swyddi.
  • Ethol Arthur Scargill yn arweinydd y glowyr.
  • Ethol Dafydd Wigley yn Llywydd Plaid Cymru.
  • 36 o ferched yn cychwyn gorymdaith o Gaerdydd i Gomin Greenham i wrthwynebu cadw taflegrau Cruise yr Unol Daleithiau yno. Parhaodd y brotest am 10 mlynedd.
  • Gwaith dur Duport yn Llanelli yn cau a cholli 1,100 o swyddi.
  • Agor rhan o'r M4 ger Pen-y-bont.
  • Tim p锚l-droed Abertawe yn esgyn i'r Adran Gyntaf.
  • Neville Meade o Abertawe yn ennill pencampwriaeth paffio trwm Prydain.
  • Cynnal Marathon Llundain am y tro cyntaf.
    Anwar Sadat, Joseph Cronin, Bill Haley, Bob Marley, Albert Speer, Hoagy Carmichael a Joe Louis yn marw.

Archdderwydd               James Nicholas

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Y Frwydr'
Enillydd: John Gwilym Jones
Beirniaid: R. Bryn Williams, Gerallt Lloyd Owen, Dic Jones

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Cystadleuaeth wael oedd hon, gyda deg yn cystadlu (ond truth digynghanedd oedd un cynnig). Canodd John Gwilym Jones, yr unig fardd teilwng yn y gystadleuaeth, am frwydr claf i ailfeddiannu ei iechyd, a gwnaeth hynny yn afaelgar ar adegau, er enghraifft:

Byw clyd rhwng wynebau clos,
Byw diogel byd agos.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Wynebau'
Enillydd: Si么n Aled
Beirniaid: Dafydd Jones, Gwilym R. Jones, Gwyn Thomas
Cerddi eraill: Un o'r beirdd aflwyddiannus oedd T. Glynne Davies.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Pryddest gymedrol a llawer o wallau iaith ynddi. Pryddest yn ymateb i'r byd pop Cymraeg ac i argyfwng yr iaith oedd hon.

Y Fedal Ryddiaith

Wyth i ddeg o ysgrifau creadigol
Enillydd: John Gruffydd Jones (Cysgodion ar y Pared)

Tlws y Ddrama

Drama hir 
Enillydd: John R. Evans
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy