91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Drenewydd
Linda Griffiths yn y Railway Gig Tân Tanat
Rhian Wyn Williams o Gymdeithas Adloniant Tanat sy'n edrych yn ôl ar Ŵyl Tân Tanat 2007.
Daeth Cymry Cymraeg o bell ac agos i fwynhau Gŵyl Tân Tanat ym Mhenybontfawr ar Fehefin yr 22 a 23, 2007.

Cychwynnodd digwyddiadau'r penwythnos gyda 'Cwis Cymraeg' yn Nhafarn y pentref, Y Railway. Roedd awyrgylch gwych yno ac roedd yn rhagflas dda iawn o'r hyn oedd i ddod - roedd llwyth o bobl lleol o bentrefi a threfi cyfagos ac o drawsdoriad o oedrannau wedi dod at ei gilydd i wneud un peth - mwynhau!

Yn dilyn y noson hynod o lwyddiannus hon (diolch o galon i Arwyn Groe a'i ffrindiau am redeg y cwis), ymlaen felly i'r pnawn Sadwrn. Unwaith eto, roedd yr adloniant yn cael ei gynnal yn y dafarn gartrefol. Cawsom set acwstig gwych gan Linda Griffiths, merch o'r fro. Roedd y croeso cynnes a gafodd hi a'i merch, ynghyd â'r clapio a'r canu aeth ymlaen trwy gydol y pnawn, yn brawf o'i phoblogrwydd.

Codi'r Babell Yn dilyn hyn, symudodd yr hwyl a'r sbri i lawr i gae'r ysgol yn y pentref. Yn ffodus iawn, daliodd y glaw i ffwrdd hyd hanner nos bron, ac fe wnaethom fwynhau perfformiadau gwych gan Frizbee, Vanta a Gola Ola allan yn yr awyr agored! Pan ddaeth y glaw, roedd yn bosib i'r heidiau fynd o dan orchudd y pebyll mawr lle osodwyd y bar a'r bandiau.

Wrth siarad am berfformiadau'r bandiau, dim ond un gair sy'n addas - rhagorol! Llwyddodd y miwsig i ychwanegu at naws hwyliog y noson, a roedd yr awyrgylch yn un o fwynhad ac ymhyfrydu yn y fraint o fod yn Cymro neu Gymraes. Roedd ambell ymwelwyr o dros y ffin yno hefyd, a roedd canmoliaeth mawr ganddynt am y miwsig a'r croeso cawsant yn yr ŵyl.

Frizbee yn cyfweld un o'r trefnwyr Hoffai'r pwyllgor ddiolch i bawb â gefnogodd yr ŵyl, yn enwedig Y Railway, Arian i Bawb Cymru am y cymorth ariannol a'r bechgyn a'r merched lleol wnaeth roi o'u hamser eu hunain i helpu baratoi'r cae ysgol ar gyfer yr ŵyl.

Roedd Gŵyl Tân Tanat eleni wedi atynnu mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen - rydym nawr yn edrych ymlaen at adeiladau ar y llwyddiant hyn a threfnu Tân Tanat 2008!

gan Rhian Wyn Williams, o Gymdeithas Adloniant Tanat


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Trefi
Radio Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý