|
|
|
Cwrshin mewn cysgod Ionawr 2009 Cynhelir y treialon cŵn defaid dan-do cyntaf erioed ar 21 Chwefror yng Ngheredigion. Owain Schiavone sy'n adrodd cefndir y stori: |
|
|
|
Ddydd Sadwrn 21 Chwefror, am y tro cyntaf erioed caiff cynulleidfa o ganoedd fwynhau campau'r cŵn o glydwch eu seddi. Bydd hwn yn ddigwyddiad unigryw i'r gamp, a lwyfannwyd gyntaf yng Nghymru yn 1873 gan y dyn busnes rhyfeddol R J Lloyd Price o'r Rhiwlas, Y Bala. Mae'r rheolau a osodwyd ganddo ef bryd hynny yn dal mewn bodolaeth i raddau helaeth.
Syniad Charles Arch, ei hun yn rhedwr cŵn defaid yw'r fenter hon. 'Teimlaf ei bod hi'n addas iawn fod camp a ddyfeisiwyd gan Gymro nawr yn cael ei llwyfannu ar ei newydd wedd yn y wlad lle'i cychwynnwyd,' meddai. 'Dylai fod yn ddiwrnod o fwynhad mawr i'r rhai sy'n frwd dros y gamp ac i'r rhai sy'n newydd iddi'
Caiff y treialon eu rhedeg o dan Reolau De Cymru. Bydd y cymalau'n cynnwys cyrchu, rhedeg allan, codi, defnyddio'r Groes Felitaidd a chorlannu. Bydd pump yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol pan ychwanegir cymal arall, pontio.
Y beirniad fydd Kevin Evans o Libanus ger Aberhonddu, enillydd teitl rhyngwladol 2008-09. Gofynnir i'r cystadleuwyr anelu at gorlannu grwpiau o dri neu bedwar oen
Y deuddeg a wahoddwyd yw:
Eryl P Roberts, Padog, Betws-y-coed sydd â'i gŵn ifanc wedi eu gweld yn aml ledled Ewrop ac ym Mhencampwriaeth y Byd.
Medwyn Evans, Llanfachreth, cyn-Gapten Cymru a hyfforddwr a bridiwr o fri.
Colin Gordon, Llanrhidian, Bro Gŵyr, a brofodd i fod yn llwyddiannus gyda chŵn sengl a dyblau.
Meirion Jones, Maesybont, aelod rheolaidd o dîm Cymru ac aelod o'r tîm buddugol ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd.
Idris Morgan, Bontnewydd ger Aberystwyth, hen ben llwyddiannus iawn a gynrychiolodd Gymru droeon.
I B Jones, Capel Bangor, aelod rheolaidd arall o dîm Cymru a hyfforddwr sydd wedi allforio cŵn llwyddiannus.
Nigel Watkins, Llanddeusant, cyn-Gapten ar dîm Cymru ac un o redwyr cŵn mwyaf llwyddiannus Cymru.
Stan Harden, Lamphey, un o gymeriadau mawr y gamp gyda'i wên barod yn cuddio'i benderfyniad.
Mrs Rona Davies, Betws Bledrws, Llambed, gwraig tÅ· sydd wedi cynrychioli Cymru ar bob lefel.
Siân Jones, Llangeitho, un arall sydd wedi cystadlu ar bob lefel ac sy'n hyfforddi ei chŵn ei hun o'r cychwyn.
Bert Evans, Bronnant, cyn-Gapten cenedlaethol. Hyfforddwr gwych arall sydd wedi allforio cŵn llwyddiannus.
Jeff Evans, Swyddffynnon, ffermwr lleol sy'n hyfforddi ei gŵn ei hun, a hynny gyda chryn lwyddiant.
|
|
|
|
|
|
|