91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pontrhydfendigaid
Yn cystadlu ar y llwyfan Carys yn cystadlu
Mae'r Å´yl Gerdd Dant, a gynhaliwyd eleni ym Mhontrhydfendigaid, yn achlysur flynyddol enwog.

Cynhaliwyd y rhagbrofion yn neuadd Bont ac yn yr ysgol gynradd, gyda'r perfformiadau byw yn digwydd ar lwyfan y pafiliwn.

Eleni oedd y tro cyntaf i mi gystadlu yn yr ŵyl gerdd dant - ac mae'n rhaid dweud mi 'roedd yn anrhydedd cael gwneud.

Cynhaliwyd yr ŵyl eleni ar ddydd Sadwrn, 10 Tachwedd. Cystadlu mewn ensemble telyn agored yr oeddwn i - ensemble hŷn Ysgol Y Delyn Bro Ystwyth. 'Roedd chwech ohonom yn yr ensemble ac roeddem yn perfformio "Cwlwm Cân" gan Gareth Owen. Dyma'r tro cyntaf i ni gystadlu mewn ensemble yn yr ŵyl arbennig hon.

'Roedd y rhagbrofion wedi dechrau'n brydlon am naw o'r gloch y bore (oedd yn newyddion drwg i'r rhai hynny a deithiodd o Gaerdydd i gymryd rhan). Ond diolch byth 'roedd rhagbrawf yr ensemble telynau agored am hanner awr wedi tri'r prynhawn yn yr ysgol gynradd.

Er fy mod yn mwynhau canu'r delyn yn fawr rhaid i mi gyfaddef yr oeddwn braidd yn nerfus pan ddaeth tro fy ngrŵp i i gystadlu am un o'r tri lle oedd ar gael ar y llwyfan yn hwyrach y noson honno. Ac 'roedd hynny'n rhoi'r cyfle i dri ensemble berfformio ar y llwyfan allan o'r wyth ensemble oedd yn y rhagbrawf!!

Yn cystadlu ar y llwyfanBuom yn lwcus iawn gan i'r beirniaid roi ein hensemble ni drwodd. 'Roedd y teimlad o wybod y byddwn yn perfformio yn fyw ar y teledu am chwech o'r gloch yn deimlad dirdynnol a dweud y lleiaf. Ond roeddwn yn llawer yn fwy hyderus nag oeddwn adeg y rhagbrawf gan i'n perfformiad fynd yn wych yno!

Wedi pacio'r delyn a gyrru i'r pafiliwn 'roedd eliffantod yn cyflawni gymnasteg yn fy mol!! 'Roedd yr eliffantod yn hedfan wedi i mi gymryd yr holl oleuadau llachar, y camerâu teledu, y gynulleidfa anferth (a Hywel Gwynfryn!!) i ystyriaeth. Trwy lwc nid oedd gen i lawer o amser i sbario yn hel meddyliau gan i dro ein cystadleuaeth gyrraedd o fewn chwinciad chwannen!

Unwaith yr oeddwn ar y llwyfan, anghofiais am y gynulleidfa, y beirniaid a'r camerâu gan ganolbwyntio'n unig ar leoliad fy mysedd wrth ganu'r delyn ac ar y gerddoriaeth ei hunan. 'Roedd hi'n eithaf anodd medru deall y gerddoriaeth oedd o'm mlaen oherwydd y golau glas uwch fy mhen - oedd yn goleuo'r llwyfan - ond bron a'm dallu i a'm cyd-chwaraewyr!

Aeth y perfformiad yn dda iawn - efallai nid cystal â pherfformiad ein rhagbrawf, ond wrth gwrs, 'roedd yr awyrgylch oedd yn ein hamgylchynu yn gwbl wahanol. Braf a chyffrous iawn oedd cael clywed bod y beirniaid yn meddwl ein bod yn lawn haeddu'r ail safle!!

Mwynheais y profiad yn fawr iawn, ac o ystyried dyna'r tro cyntaf i ensemble hŷn Ysgol Y Delyn Bro Ystwyth gymryd rhan yn yr ŵyl gerdd dant, fe gyflawnom wyrthiau yno!

Gallaf ddweud yn hyderus iawn ar ran y chwech ohonom oedd yn yr ensemble, ein bod ar bigau'r drain yn disgwyl am ŵyl gerdd dant 2008 i'n cyrraedd!!!

  • Canlyniadau'r dydd


  • Trefi
    Radio Cymru
    Bws 91Èȱ¬ Cymru
    Lluniau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý