|
|
|
Wyddech chi hyn Ambell i ffaith am y Llyfrgell Genedlaethol |
|
|
|
Mae pedair miliwn a hanner o lyfrau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth a 40,000 o lawysgrifau.
Mae dros ddwy fil o lythyrau oddi wrth Lloyd-George at ei wraig wedi eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol a 3,200 at ei frawd William George.
Mewn llythyr at Owain Myfyr yn 1804 amlinellodd Iolo Morganwg fwriad i gyflwyno ei holl lyfrau a'i lawysgrifau Cymraeg i lyfrgell genedlaethol, pe byddai'n cael ei sefydlu cyn 1820.
Mae llechi o Ystrad Fflur gydag ysgrifen a phatrymau yn dyddio o'r bymthegfed ganrif arnynt wedi eu cadw yn y Llyfrgell.
Mae miliwn o fapiau yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Mewn Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug yn 1873 y sefydlwyd pwyllgor i sefydlu llyfgell genedlaethol yng Nghymru er i Gymru Llundain wyntyllu'r syniad yn y ddeunawfed ganrif.
Mae yno dros 5,000 o luniau wedi'u fframio a 40,000 o luniau eraill sy'n cynnwys printiau, peintiadau, cartwnau ac yn y blaen.
Yr oedd Syr John Williams, un o arloeswyr sefydlu'r Llyfrgell, yn un o feddygon y Frenhines Victoria.
Mae copi yn dyddio o 1899 o'r recordiad cyntaf erioed o Hen Wlad fy Nhadau yn y Llyfrgell.
Un o drysorau mwyaf y Llyfrgell Genedlaethol yw Llyfr Du Caerfyrddin - y llawysgrif hynaf yn y Gymraeg ac yn dyddio o 1250.
Mae cydyn o wallt William Williams Pantycelyn yn y Llyfgell - cochyn cyrliog oedd o!
Yr oedd Caerdydd yn awyddus i gartrefu'r Llyfrgell Genedlaethol ond bu'n rhaid iddi fodloni ar yr Amgueddfa Genedlaethol yn unig, a sefydlwyd yr un flwyddyn 1907.
Enillodd Aberystwyth y dydd oherwydd bod y dref yng nghanol y Gymru Gymraeg ac oherwydd bod yno gychwyn llyfrgell sylweddol yn barod gyda Syr John Williams yn trosglwyddo 25,000 o gyfrolau'i lyfrgell breifat ef.
Dan y ddeddf hawlfraint mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru er 1911 yn un o ddim ond pum llyfrgell Brydeinig (Llundain, Caeredin, Rhydychen a Chaergrawnt yw'r lleill) lle mae'n rhaid anfon copi am ddim o bob eitem brintiedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon.
Yma y mae'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o lyfrau Llydewig.
Mae fersiwn pwysig o'r Canterbury Tales, Chaucer, yn y Llyfrgell.
Mae holl adnoddau y Llyfrgell ar gael i bawb dros 16 oed i'w gweld yn yr ystafelloedd darllen yn rhad ac am ddim.
Gellir prynu lliain golchi llestri gyda llun Castell Aberystwyth arno yn siop y Llyfrgell.
Ymhlith y llyfrau Cymraeg hynod yn y Llyfrgell mae Testament Newydd William Salesbury 1567, Beibl William Morgan 1588, y Drych Cristionogawl 1587, y llyfr cyntaf i'w argraffu yng Nghymru, Llyfr Taliesin a Llyfr Gwyn Rhydderch.
|
|
|
|
|
|