"Gellir dweud fod popeth yn y Llyfgell Genedlaethol yn drysor mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ond mae rhai eitemau sydd yn haeddu statws arbennig ac mae'r Llyfr Du yn un ohonyn nhw - does dim byd tebyg i'r gyfrol hon yn bod o gwbl."
Dyna farn Maeredudd ap Huw, Llyfrgellydd y Llawysgrifau yn y Llyfgell Genedlaethol am Lyfr Du Caerfyrddin - y llyfr Cymraeg hynaf mewn bodolaeth ac yn dyddio o'r flwyddyn 1250.
Y gred yw mai mynach yn hen briordyd Caerfyrddin oedd yn gyfrifol am lunio'r cynnwys ond er y cysylltiad 芒 Chaerfyrddin dywedodd Maeredydd ap Huw nad oes sicrwydd mai yno y sgrifennwyd y llyfr dim ond mai yno yr oedd ddiwedd yr Oesoedd Canol.
"Y mae'n anodd os nad amhosib rhoi gwerth [ariannol] arno," meddai.
Rhestr o'r holl glipiau sain
|