Os ydych am wybod sut le'n union oedd Llareggub - tref ddychmygol Dylan Thomas yn Under Milk Wood - yr Uned Archifau Personol a Theuluol yn y Llyfrgell Genedlaethol yw'r lle i fynd.
Yno mae map o'r dref yn llaw yr awdur ei hun sy'n dangos cartrefi holl gymeriadau ei ddrama i leisiau a pherthynas gwahanol adeiladau 芒'i gilydd.
"[Mae mewn] llawysgrifen fachgennaidd, bach iawn," meddai Nia Mai Daniel, archifydd yr uned wrth Hywel Gwynfryn.
"Rhyw fath o ddwdl yw e mewn gwirionedd," ychwanegodd.
"Ffordd iddo fe gael y syniad yn ei ben cyn mynd ymlaen i roi cig a gwaed ar y bobl yma," meddai.
Mae nifer o ddogfennau, gan gynnwys llythyrau a phapurau a brynwyd fis Tachwedd 2004 yn ymwneud 芒 thaith olaf Dylan Thomas i'r Unol Daleithiau, hefyd ymhlith y trysorau sydd wedi eu diogelu yn yr adran.
Pysigrwydd archifau llenyddol Dywedodd Nia fod gwerth arbennig i archif lenyddol o'r fath.
.
"Rwy'n credu bod archifau llenyddol, sef y llawysgrifau mae beirdd a nofelwyr ac yn y blaen, yn eu cadw yn taflu llawer o oleuni ar y broses greadigol ac hefyd yn helpu i ddyddio gwaith a sut yr oedd syniadau yn datblygu," meddai.
"Mae llythyrau, wedyn, yn taflu goleuni ar y cylch o ffrindiau oedd gan awduron ac ar eu syniadau," eglurodd.
Rhestr o'r holl glipiau sain
|