91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Baner a phibau Cyrraedd y cant
Dathlu gyda baner, pibau a theisen
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol yr hawl i'w galw ei hun yn un o lyfrgelloedd mawr y byd yn rhinwedd y ffaith fod ei chasgliadau mor amrywiol.

Dyna ymffrost y Dr Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol, wrth agor arddangosfa canmlwyddiant y Llyfrgell, "Yn y Lle Hwn".

"Does yna ddim llawer o lyfrgelloedd cenedlaethol yn y byd a allai lwyfannu y fath arddangosfa eang am y rheswm mai dim ond ychydig iawn, iawn, o lyfrgelloedd sy'n casglu deunyddiau mewn cymaint o gyfryngau a ni," meddai.

O sawl gwlad
Daeth negeseuon o sawl gwlad yn dymuno'n dda i'r llyfrgell, a enillodd ei siarter yn 1907, ar gyrraedd ei chant.

Ymhlith y gwledydd yr oedd Gwlad yr I芒, Yr Iseldiroedd, Iwerddon, Croatia, Y Bahamas, Estonia, Chile, Moldova a Gwlad Pwyl, Ywrci a Denmarc ac anfonodd Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ei chyfarchion mewn cerdd a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Gorymdaith
Man cychwyn y dathliadau ddydd Llun, Mawrth 19, 2007, oedd gorymdaith y tu 么l i faner y canmlwyddiant i seiniau cerddoriaeth y pibydd Cymreig, Ceri Rhys Matthews, gyda phawb yn ymgynnull wedyn yn Oriel Gregynog lle mae'r arddangosfa.

Andrew Green ac E Brinley Jones Yn ganolbwynt y gweithgareddau yr oedd siarter y llyfrgell ac un o'i thrysorau pennaf, Llyfr Du Caerfyrddin.

Darllenodd Mari Rhian Owen ddwy gerdd, Cymraeg a Saesneg, a gyfansoddwyd gan Gwyneth Lewis a thorrwyd cacen a oedd wedi ei gwneud gan un o weithwyr y Llyfrgell, Morfudd Nia Jones.

Dywedodd y Dr Green fod yr arddangosfa yn fodd i edrych ar y can mlynedd diwethaf yng Nghymru trwy lygaid casgliadau y Llyfrgell.

Llywydd yn canmol
Wrth gyhoeddi'r arddangosfa'n agored talodd Llywydd y Llyfrgell, y Dr R Brinley Jones, deyrnged i ddychymyg, ysgolheictod ac ymrwymiad y rhai a sicrhaodd fod gan Gymru Lyfrgell Genedlaethol syu'n cael ei hystyried yn un o rai mawr y byd. "Fe gofiwn ni haelioni'r cymwynaswyr ac arweiniad y swyddogion," meddai'r Dr Jones sy'n llywydd ers un mlynedd ar ddeg.

Tynnodd sylw arbennig at Syr John Williams - athro obstetreg a ffisegwr y Frenhines Victoria.

"Os bu ei fydwreicaeth erioed yn llwyddiant yr oedd hynny yng ngenedigaeth y lle hwn!" meddai. Dyfynnodd ddisgrifiad newyddiadurwr o'r Llyfrgell fel"trysorfa y genedl , tarddiad ei chof a ffynnon ei dychymyg." Ychwanegodd fod ein dyled yn enfawr i noddwyr oedd yn cynnwys g lowyr cyffredin Cymru.

Diolchodd hefyd am gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Cychwyn cyffredin
Wrth gael ei holi ar y radio rai dtddiau cyn y dathliadau tynnodd Andrew Green sylw at gychwyn digon distadl y Llyfrgell yn 1907:

"Pan gyrhaeddodd y llyfrgellydd cyntaf, John Ballinger, y cyfan oedd ganddo oedd ystafell wag a desg a chadair," meddai Andrew Green y Llyfrgellydd Cenedlaethol presennol yn cael ei holi gan John Meredith ar 91热爆 Radio Cymru.

"Ond o fewn ychydig flynyddoedd roedden nhw wedi dechrau adeiladu'r adeilad presennol a symudwyd y Llyfrgell a'i chasgliadau yno yn 1916," meddai.

Ychwanegodd, fod cystadleuaeth "ffyrnig" rhwng Aberystwyth a threfi eraill - Caerdydd yn bennaf - i gartrefu'r Llyfrgell yn ystod y blynyddoedd yn arwain at 1907.



Trefi
Llyfrau
Papurau Bro


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy